Neidio i'r prif gynnwys

Mae Amgueddfa Caerdydd yn archwilio stori a threftadaeth y ddinas, gan adrodd hanes Caerdydd trwy lygaid y rhai a'i creodd - ei phobl.

Amgueddfa Caerdydd

Amgueddfa Caerdydd yw’r amgueddfa gyntaf lle caiff pobl Caerdydd ac ymwelwyr ddysgu stori’r ddinas trwy lygaid y rhai sy’n ei hadnabod orau – ei phobl.

Y lle perffaith i gychwyn eich ymweliad i Gaerdydd!

Mae’r amgueddfa’n adrodd hanes trawsnewid Caerdydd o dref farchnad fechan yn y 1300au i un o borthladdoedd mwyaf y byd yn y 1900au i’r brifddinas cŵl cosmopolitan rydym yn adnabod heddiw.  Gyda gweithgareddau ar gyfer pob oedran, mae yn un o adeiladau mwyaf hanesyddol Caerdydd, yr Hen Lyfrgell, yng nghalon canol y ddinas ac mae’r mynediad am ddim.

Mae Amgueddfa Caerdydd yn bwynt cychwyn gwych ar gyfer unrhyw ymweliad i Gaerdydd ac mae’n rhoi cyflwyniad i hanes y ddinas trwy arddangosfeydd deniadol, rhyngweithiol.  Mae’n defnyddio storïau’r bobl sydd wedi byw a gweithio yn y ddinas dros y canrifoedd diwethaf i ddod a hanes yn fyw.

Mae’r amgueddfa yn cynnal digwyddiad llawn a rhaglen arddangosfa dros dro – cewch fanylion ar ein gwefan neu trwy ein ffonio.

GWYBODAETH I YMWELWYR

Tocynnau a Phrisiau

Mae mynediad AM DDIM – codir taliadau am ymweliadau ysgolion / grwpiau addysg a rhai digwyddiadau.

Loceri Bagiau
  • Bach £5
  • Canolig £8
  • Mawr £10

(Ar gael 10.00 – 15.30)

CYRRAEDD AMGUEDDFA CAERDYDD

Ar Fws

Yr arosfannau bysiau agosaf yw Heol y Porth neu Kingsway.

Ar y Trên

Y gorsafoedd trên agosaf yw Caerdydd Canolog neu Caerdydd Stryd y Frenhines.

CYSYLLTWCH Â AMGUEDDFA CAERDYDD

Ffôn

029 2034 6214

E-bost

storicaerdydd@caerdydd.gov.uk

Cyfeiriad

Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, CF10 1BH