Mae Caerdydd yn hynod o boblogaidd, felly gall parcio fod yn anodd. NCP Stryd Pellett Caerdydd yw’r ateb i’ch problemau. Mae bron i 300 o leoedd yma, ond gallwch hefyd archebu ymlaen llaw i sicrhau bod lle yn aros amdanoch pan fydd ei angen arnoch.
COD ARBENNIG
Oeddech chi’n gwybod y gallwch gael 7 awr o barcio yma am £6.99 neu £4.00 o 18:00-03:00 gan ddefnyddio’r cod cynilo VISITCARDIFF.
Nid yw gostyngiad ParkPass VISITCARDIFF ar gael ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr.
Sylwer: rhaid archebu lle gan ddefnyddio Ap ParkPass yr NCP. Gweler y cyfarwyddiadau isod ar sut i’w lawrlwytho.
SUT YDW I’N CAEL GOSTYNGIAD DRWY’R AP?
- Lawrlwythwch Ap ParkPass yr NCP
Dolen Ap Apple / Dolen Ap Android
- Cofrestrwch fanylion a dull talu
- Cyflwynwch y COD CYNILO:VISITCARDIFF
- Dewiswch un o’r meysydd parcio NCP Caerdydd
- PWYSWCH y botwm “Cynhyrchu cod QR”
- Defnyddiwch y cod QR digidol hwn i fynd i mewn a gadael– sganiwch ef yn uniongyrchol o’r ap (ar gyfer safleoedd heb rwystr, archebwch eich parcio drwy’r Ap NCP ar eich ffôn)
*NI DDYLAI defnyddwyr gymryd tocyn arferol o’r peiriant pan fyddant yn dod i mewn. Bydd angen y cod QR arnynt o’r ap wrth adael (wedi’i storio’n awtomatig ar yr ap).
DIRECTIONS
Pellett Street, Cardiff, CF10 4FD