Neidio i'r prif gynnwys

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw cartref y Neuadd Gyngerdd, Theatr Richard Burton ac arcêd arddangos sy’n edrych dros barcdir Castell Caerdydd.

ORIAU AGOR

Swyddfa Docynnau

Llun - Gwe

09:30 - 17:00

Gyda chyn-fyfyrwyr sy’n cynnwys yr anhygoel Syt Anthony Hopkins, Ruth Jones a Rob Brydon, a Chydymeithion sy’n cynnwys Bryn Terfel a’r Fonesig Shirley Bassey, mae’r perfformiadau’n arddangos talent ryfeddol y lle hwn ac ystod o gerddorion, artistiaid a chwmnïau talentog ac amrywiol o’r radd flaenaf.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru yn cystadlu ynghyd â grŵp cyfoedion rhyngwladol o conservatoires a cholegau celf arbenigol am y myfyrwyr gorau o bedwar ban, gan alluogi myfyrwyr i fod yn rhan o fyd cerddoriaeth, theatr a’r proffesiynau cysylltiedig a dylwnadu arno.

Mae’r Coleg yn addysgu rhai o’r myfyrwyr mwyaf dawnus o bob cwr o’r byd, gan geisio rhoi’r sgiliau technegol a chrefft sydd eu hangen arnynt i lwyddo’n uchelfannau’r proffesiwn, a hefyd eu helpu i ddatblygu eu ‘llais’ artistig unigol.

Mae calendr digwyddiadau’r Coleg yn cynnwys dros 300 o berfformiadau bob blwyddyn gan gynnwys cyngherddau cerddorfaol, datganiadau, drama, opera a theatr gerddorol. Mae  amrywiaeth creadigol y coleg yn sicrhau amgylchedd difyr a phrofiad eang i fyfyrwyr o bob disgyblaeth.

Mewn Car

Mae’r coleg ar Heol y Gogledd, wrth Gastel Caerdydd, yng nghanol y ddinas. Defnyddiwch CF10 3ER i gyrraedd â’ch Llywiwr Lloeren.

Parcio

Nid oes llefydd parcio ar y safle ond mae meysydd parcio talu ac arddangos cyfagos yn Heol y Gogledd (CF10 3DU) a Gerddi Alexandra (CF10 3NW).

Ar Fws

Y safle bysus agosaf yw Heol y Coleg RK.

Ar y Trên

Yr orsaf drên agosaf yw Gorsaf Cathays, tua 7 munud o gerdded i ffwrdd.

Ffôn

029 2039 1391

E-bost

boxoffice@rwcmd.ac.uk

Cyfeiriad

Castle Grounds, North Road, CF10 3ER