Neidio i'r prif gynnwys

CARDIFF OPEN TOP TOURS

Ewch ymlaen ac i ffwrdd i grwydro'r holl atyniadau a thirnodau enwog ym mhrifddinas Cymru a'r cyffiniau!

Gyda 14 o arosfannau ar hyd ein llwybr, cewch olygfeydd syfrdanol o Gastell Caerdydd. Stadiwm Principality, yr Eglwys Norwyaidd a Bae Caerdydd – i gyd o 4 metr o uchder. Tiwniwch i mewn i’n sylwebaeth sain ddifyr ac addysgiadol ar fwrdd y bws sydd ar gael mewn 7 iaith- Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Phwyleg a darganfod popeth sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Lawrlwythwch app Tootbus i ddod o hyd i’n arosfannau bysus, crwydrwch ddinas fel rhywun lleol, a thraciwch eich bws mewn amser real.

Mae’r teithiau’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn, bob 30 munud (dim gwasanaeth Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan). Mae tocynnau’n ddilys am 2 ddiwrnod yn olynol gan ganiatáu i chi fynd ar y bws ac oddi arno gymaint o weithiau ag y dymunwch yn ystod y cyfnod hwn.

 

Felly eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, a gadewch i Gaerdydd eich synnu!