Paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2028 yn Cychwyn yn Ardal Caerdydd

Dydd Sadwrn, 08 Awst 2026


Cyhoeddwyd ar y Maes heddiw mai Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2028.

Gydag wythnos Eisteddfod y Garreg Las yn dirwyn i ben mae golygon eisoes yn troi at drefniadau’r Eisteddfodau sydd i ddod. Bydd y gwaith o baratoi ar gyfer gŵyl a phrosiect cymunedol Eisteddfod Genedlaethol 2028 yn cychwyn nos Fercher 9 Medi mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Ffordd y Farchnad, Caerdydd am 18:30.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r gwaith yn ardal Caerdydd ac at adeiladu’r cyffro dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’n wych gwybod bod cymaint o bobl ar draws y dalgylch yn barod i chwarae eu rhan, ac i’n helpu i greu wythnos arbennig a phrosiect cofiadwy pan fydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r ardal.

“Rydyn ni’n awyddus i ddod â phobl o gefndiroedd, diddordebau ac arbenigeddau gwahanol at ei gilydd i fod yn rhan o’r tîm. Drwy gyfuno profiad ac egni newydd, gallwn weithio gyda’n gilydd i greu prosiect a gŵyl fydd yn denu cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ardal yn eu miloedd.

“Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ddychwelyd i’r brifddinas ers 2018 – rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfnod o weithio gyda chymunedau lleol – mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r tîm gofrestru ar-lein neu ddod i’r cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu rhai o dîm Eisteddfod 2018 yn ôl atom, ac at ddenu criw newydd o bobl i ymuno â ni dros y misoedd nesaf. Mae cyfle i bawb gyfrannu, boed hynny drwy weithio gyda ni yn y gymuned neu drwy helpu i greu’r ŵyl ei hun. Mae’r neges yn syml – mae croeso mawr i bawb.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Chis Weaver, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r dathliad mwyaf a phwysicaf o’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn ein calendr cenedlaethol ac rwy’n hynod falch ei bod yn dychwelyd i’n prifddinas yn 2028 am y tro cyntaf mewn degawd.

“Mae gan Gaerdydd hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr hyn sy’n siŵr o fod yn Eisteddfod gofiadwy ac ysbrydoledig.”

 

Bwriad y cyfarfod cyhoeddus cychwynnol yw rhoi cyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth a gwirfoddoli i ddod yn rhan o’r prosiect. Mae’r gymuned yn rhan ganolog o’r gwaith o drefnu’r Eisteddfod wrth i’r ŵyl deithio o amgylch Cymru.

Bydd enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith yn agor yr wythnos nesaf, a bydd modd ymgeisio neu enwebu rhywun am swydd Cadeirydd, Is-gadeirydd Strategol, Is-gadeirydd Diwylliannol, Cadeirydd y Gronfa Leol ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith ar-lein. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ryddhau’n fuan.

Mae cyfle hefyd i ymuno gyda’r pwyllgorau amrywiol fydd yn rhan o baratoi ar gyfer yr ŵyl, bydd y manylion ar gael ar-lein yn fuan.

Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus yn y Gymraeg gyda chyfieithydd ar y pryd ar gael. Mae’r Eistedfod yn arbennig o awyddus i ddenu dysgwyr a phobl sy’n cychwyn ar eu taith iaith i ymuno gyda phwyllgorau amrywiol, ac i ddefnyddio’r misoedd nesaf fel cyfle arbennig i ymarfer ein hiaith.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Caerdydd o 5-12 Awst 2028.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.