UNIQLO yn cyhoeddi eu bod am agor yng Nghymru yn Hydref 2027

Dydd Llun, 2 Tachwedd 2026


 

DU – Heddiw, mae’r manwerthwr dillad byd-eang UNIQLO yn cyhoeddi cynlluniau i agor ei siop gyntaf yng Nghymru, gyda UNIQLO Caerdydd i agor yn Hydref 2027, gan nodi carreg filltir newydd gyffrous yn ehangiad parhaus y brand yn y DU.

Wedi’i lleoli yng Ngahnolfan St David’s Dewi Sant, un o brif gyrchfannau siopa prifddinas Cymru, bydd y siop newydd yn rhychwantu tua 940 metr sgwâr o lawr gwerthu dros ddau lawr. Bydd yr agoriad yn dod â phrofiad siopa UNIQLO i Gymru am y tro cyntaf, gan gynnig mynediad i gwsmeriaid yng Nghaerdydd a thu hwnt i gasgliadau LifeWear nodweddiadol y brand.

Wedi’i chydnabod am LifeWear, athroniaeth UNIQLO o greu dillad o ansawdd uchel, ymarferol a ddyluniwyd yn feddylgar i wneud bywyd bob dydd yn well, bydd y siop newydd yng Nghaerdydd yn cynnig ystod gynhwysfawr o gynhyrchion i ddynion, menywod, plant a babanod, gan ddod â ffocws y brand ar ansawdd, cysur ac ymarferoldeb i gwsmeriaid ledled Cymru.

“Rydym yn hynod gyffrous i gymryd cam pwysig arall yn ehangiad UNIQLO yn y DU wrth agor ein siop gyntaf yng Nghymru, yng Nghaerdydd, yn Hydref 2027. Mae Caerdydd yn ddinas fywiog gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, a gyda sylfaen bresennol o gwsmeriaid o Gymru eisoes yn siopa gyda ni ar-lein, rydym yn falch iawn o ddod â phrofiad UNIQLO yn agosach atynt a chyflwyno LifeWear i fwy o gwsmeriaid hyd yn oed ledled Cymru.” Alessandro Dudech, Prif Swyddog Gweithredol UNIQLO UK

“Mae galw aruthrol wedi bod gan siopwyr o Gymru am UNIQLO, ac rydym wrth ein boddau yn gallu cadarnhau bod y brand ar fin ymuno â ni yma yn Dewi Sant, Caerdydd. Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddod â’r brandiau a’r profiadau y byddant yn eu caru i ymwelwyr, rydym yn falch bod UNIQLO wedi dewis Dewi Sant ar gyfer ei siop Gymreig gyntaf. ” Dwedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant:

Ar hyn o bryd mae UNIQLO yn gweithredu 26 o siopau ledled y DU, gyda Chaerdydd yn ymuno â Chaerfaddon, Brighton, Leeds a Canary Wharf fel rhan o ehangiad parhaus y brand yn 2027.