Beth wyt ti'n edrych am?
Awgrym da: Gyda thocynnau o £1.25, ewch i Dŷ Gwydr Parc y Rhath a darganfod rhywogaethau anarferol o blanhigion a choed. Mae hefyd yn gwerthu bwyd adar i fwydo’r elyrch a’r hwyaid ar y llyn.
Os ydych chi’n hoff o fyd natur, rydych chi mewn lle da. Mae’r Rhath yn frith o liwiau hardd pan fydd y gwelyau blodau’n blodeuo yn eu tymor. Mae’r gymdogaeth yn llawn o ddewisiadau o ran bwyd a diod; rydyn ni wedi dewis ychydig o’n ffefrynnau. Ewch am dro i lawr Heol Wellfield i weld drosoch eich hun.
Mae’r Rhath yn cynnig golygfa syfrdanol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ardal yn adnabyddus am ei thai trawiadol, gwyrddni, parciau a llynnoedd. Heb anghofio bod ganddi ei goleudy ei hun! Disgrifir yr ardal fel ‘ochr Fohemaidd Caerdydd’ ac mae’n greadigol iawn, gan hyd yn oed gynnal gŵyl gelf flynyddol o’r enw ‘Gwnaed yn y Rhath’, sef wythnos i arddangos artistiaid lleol a chenedlaethol. Mae gan y Rhath hefyd drysorau a rhyfeddodau cudd, gyda marchnadoedd yn gwerthu eitemau yr oes a fu a busnesau annibynnol. Dewch draw i weld drosoch eich hun.
ATYNIADAU
TAFARNDAI
AMSER PANED
CHWANT BWYD?
Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r hyn sydd ar gael yn y gymdogaeth yw hyn!
SUT I GYRRAEDD Y RHATH
Ar droed: gallwch gerdded i’r Rhath mewn llai na awr. Tra byddwch chi yno, mae’r ardal yn llawn llwybrau cerdded braf gan gynnwys taith gerdded hygyrch o amgylch Parc a Llyn y Rhath.
Beic: reidiwch eich beic i’r gymdogaeth hon, yna parciwch ar bwys Parc y Rhath. Mae rhagor o wybodaeth am feicio ar gael yma, gan gynnwys y llwybrau beicio gorau a chyfleusterau parcio.
Trên: Lefel Uchel Y Mynydd Bychan a Lefel Isel y Mynydd Bychan yw’r gorsafoedd trenau agosaf, taith gerdded 20 munud.
Bws: Daliwch Fws Caerdydd rhif 28 mewn mannau gadael amrywiol yng Nghanol y Ddinas a gadael y bws wrth ymyl Parc y Rhath neu Heol Ddwyreiniol y Llyn.
Car: Mae’r rhan fwyaf o’r mannau parcio yn strydoedd y Rhath wedi’u neilltuo i drigolion. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.
DO YOU HAVE A RECOMMENDATION?
Let us know!
WHERE TO NEXT?
It’s time to live like a local. Each area of the city has its own unique quality.