Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Y Gaeaf Caerdydd 2026
Dyddiad(au)
12 Tach 2026 - 03 Ion 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gŵyl y Gaeaf enwog a phoblogaidd Caerdydd. Wedi’i rhannu ar draws dau leoliad yng nghanol y ddinas unwaith eto, bydd ymwelwyr nawr yn gallu mwynhau Gŵyl y Gaeaf yng Nghastell Caerdydd ac ar Lawnt Neuadd y Ddinas.
Y Llawr Sglefrio a’r Llwybr Iâ
Yn dychwelyd i diroedd hardd Castell Caerdydd mae’r Llawr Sglefrio Iâ a’r Llwybr Iâ, wedi’u gosod yn erbyn cefndir y Gorthwr Normanaidd. Mae’r llawr sglefrio dan do, ynghyd â’r Llwybr Iâ prydferth, yn ffordd wych o danio hwyl yr ŵyl.
Y Llawr Sglefrio i Ddechreuwyr
Mae’r Llawr Sglefrio i Ddechreuwyr yn darparu amgylchedd sglefrio iâ mwy hamddenol i’w fwynhau, lle croesawgar i ddechreuwyr a’r rhai sy’n chwilio am brofiad mwy hamddenol.
Ffair i’r Teulu a’r Olwyn Fawr
Mae’r ffair hwyl i’r teulu yn dychwelyd i Lawnt Neuadd y Ddinas, lle gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o reidiau, gemau ac atyniadau, yn ogystal â’r Olwyn Fawr, sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws y ddinas.
Adloniant Am Ddim i’r Teulu
Dewch i ddarganfod amrywiaeth o adloniant am ddim i’r teulu ar draws dau safle Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd.
Llawer Mwy i’w Archwilio
Eleni bydd Bar Tafarn a Sur La Piste – sef bar caban sgïo alpaidd, yn y Castell a Lawnt Neuadd y Ddinas ochr yn ochr â llu o ffefrynnau Nadoligaidd. P’un a ydych chi’n cynhesu gyda chi poeth, diod goco boeth, gwin poeth neu falws melys wedi’u rhostio – bydd rhywbeth at ddant pawb.
Dysgwch sut i barhau â’r dathliadau yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd.