Beth wyt ti'n edrych am?
Bydd Gŵyl y Gaeaf poblogaidd Caerdydd yn dychwelyd yn 2024 gyda’i llawr sglefrio dan do enwog a’i Thaith Iâ, yr Olwyn Fawr a ffair i’r teulu, ynghyd â llu o atyniadau eraill.
Ochr yn ochr â’r bar porthdy sgïo alpaidd, Sur la Piste, stondinau bwyd a diod Nadoligaidd, heb sôn am y Bar Iâ hynod o cŵl, mae Gŵyl y Gaeaf wir wrth galon dathliadau tymhorol Caerdydd.
Mae Gŵyl y Gaeaf wedi’i rhannu ar draws dau leoliad eiconig yng nghanol y ddinas, sef tir Castell Caerdydd a Lawnt Neuadd y Ddinas. Mae mynediad am ddim i’r ddau safle, dim ond am yr atyniadau yr hoffech eu profi y mae angen i chi dalu.
Mae tocynnau ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ar gyfer sesiynau sglefrio iâ, y Bar Iâ, a nawr hefyd ar gyfer yr Olwyn Fawr. Gellir prynu tocynnau reid ffair ar y safle a gellir prynu’r holl fwyd a diod o’r ciosgau unigol.

SGLEFRIO AR Y LLAWR IÂ A’R THAITH IÂ
Mae Llawr Sglefrio a Thaith Iâ hudol Gŵyl y Gaeaf wedi’u gosod o fewn tiroedd hardd Castell Caerdydd, yn erbyn cefndir syfrdanol y Gorthwr Normanaidd. Mae’r llawr sglefrio iâ 40m x 15m dan do, gyda’r Rhodfa Iâ 150m, yn addas ar gyfer pob oed a gallu.

Y BAR BARRUG
Ymlaciwch gyda’ch ffrindiau a mwynhewch ddiod yng nghanolfan fwyaf cŵl y ddinas, y profiad Bar Iâ cyffrous yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd! Mae hon yn nefoedd i Instagrammers gyda thymheredd is-sero ac ydy, mae popeth wedi’i wneud allan o rew. I ymweld â’r Bar Iâ, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu slot wedi’i amseru ymlaen llaw.

YR OLWYN FAWR A’R FFAIR I’R TEULU
Nid yw Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn gyflawn heb ei ffair enwog i’r teulu. Yn ôl yr arfer, gallwch fwynhau’r olygfa orau o’r ddinas o’r Olwyn Fawr a mwy, bydd amrywiaeth wych o atyniadau eraill sy’n addas ar gyfer pob oed ac adloniant nos.

SUR LA PISTE – Y BAR PORTHDY SGIO ALPAIDD
Bydd y porthdy sgïo dwy stori boblogaidd, Sur la Piste, yn dychwelyd ac eleni mae’n dod â theras to awyr agored newydd sbon.
DEWCH I GAERDYDD DROS Y 'DOLIG
Does byth amser drwg i Ymweld â Chaerdydd, gyda chymaint o ddigwyddiadau, atyniadau a phethau i’w gweld ym mhrifddinas ffyniannus Cymru, ond mae ‘na wastad rhywbeth hudolus am y ddinas adeg y Nadolig. Felly, teimlwch fod ysbryd y tymor yn dod yn fyw, beth bynnag sy'n ei wneud yn arbennig i chi, mae gan y Nadolig yng Nghaerdydd rywbeth i bawb.