Beth wyt ti'n edrych am?
Awgrym da: Yma fe welwch Gorse – bwyty modern Cymreig â seren Michelin, sy’n cynnig bwydlen flasu newidiol sy’n arddangos y gorau o gynnyrch Cymreig tymhorol. Rhaid cadw lle.
Mae’n siŵr mai maestref deiliog Pontcanna yw’r lle mwyaf ffasiynol i fyw yng Nghaerdydd. Mae hon yn ardal yn gyfoethog, unigryw ac yn un o’r lleoedd mwyaf ffasiynol i fyw yn y DU.
Disgrifir Pontcanna yn aml fel ‘pentref dinesig’, oherwydd mae gennych bopeth y gallai fod ei angen ar gymdogaeth! Mae ganddi bensaernïaeth hardd, siopau annibynnol a bwytai, parcdir – ac mae dafliad carreg o ganol y ddinas.
ATYNIADAU
TAFARNDAI
AMSER PANED
CHWANT BWYD?
Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r hyn sydd ar gael yn y gymdogaeth yw hyn!
SUT I GYRRAEDD PONTCANNA
Ar droed: mae’n bosib cerdded i Bontcanna o Ganol Dinas Caerdydd mewn ugain munud. Mae’r rhan fwyaf o’r bwytai, y bariau a’r atyniadau i’w gweld wrth i chi gerdded i lawr Heol y Gadeirlan a Pontcanna Street.
Beic: reidiwch eich beic i’r gymdogaeth hon, yna parciwch ar bwys Caeau Pontcanna. Mae rhagor o wybodaeth am feicio ar gael yma, gan gynnwys y llwybrau beicio gorau a chyfleusterau parcio. Mae beiciau hefyd ar gael i’w benthyg gan Pedal Power yn Gerddi Sophia.
Trên: Taith gerdded fer 20 munud o Gaerdydd Canolog – hefyd yn hygyrch o Barc Ninian a Cathays, sydd yn bellter tebyg.
Bws: daliwch Fws Caerdydd rhif 24 neu 25 yng Nghyfnewidfa Fysus Bws Caerdydd ger Gât 4 Stadiwm Principality. Gadewch y bws yn safle bysus Rhodfa’r Gorllewin neu’r Black Lion, nid yw Eglwys Gadeiriol Llandaf yn bell iawn wedyn.
Mae’r rhan fwyaf o’r mannau parcio yn strydoedd Pontcanna wedi’u neilltuo i drigolion. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.
HOFFECH CHI GYMERADWYO RHYWLE?
WHERE TO NEXT?
It’s time to live like a local. Each area of the city has its own unique quality.