Neidio i'r prif gynnwys

YMUNWCH Â RHWYDWAITH CROESO CARDIFF HEDDIW...

Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi! Cofrestrwch i Rwydwaith Croeso Caerdydd a mwynhewch lu o fuddion marchnata o ddim ond £400.00 y flwyddyn.

BETH YW RHWYDWAITH CROESO CAERDYDD?

Croeso Caerdydd yw sefydliad twristiaeth swyddogol y ddinas. Mae nod y rhwydwaith yn un syml, sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer teithio a thwristiaeth drwy hyrwyddo delwedd ddynamig Caerdydd i drigolion ac i’r byd.

 

AR GYFER PWY MAE’R RHWYDWAITH?

Mae rhwydwaith Croeso Caerdydd yn gorff aelodaeth sy’n cynnwys busnesau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Mae ein haelodau yn cynnwys lleoliadau cynadledda, gwestai, fflatiau â gwasanaeth, trefnwyr teithiau, siopau, bwytai, timau chwaraeon a gweithredwyr cludiant sydd oll wedi ymuno â’r nod cyffredin o gyrraedd cynulleidfa ryngwladol ehangach.

BETH FYDD Y BUDDION I MI?

Haen Croeso Caerdydd (£400 y flwyddyn)
  • Cofnod premiwm ar ein gwefan gyda disgrifiad llawn, dolenni gwe a chymdeithasol a llyfrgell o ddelweddau
  • Cyfle i lanlwytho eich digwyddiadau i croseocaerdydd.com/digwyddiadau
  • 4 neges ar Twitter, 4 ar Facebook a 4 ar Instagram
  • Cymorth cyfryngau cymdeithasol gan ein rhwydweithiau cysylltiedig
  • 1 blog y flwyddyn gyda mynediad at ein Rhwydwaith Blogwyr
  • Mynediad at hysbysebu yn y Ganolfan Croeso
  • Hyrwyddo yn ein e-gylchlythyrau (Rhwydwaith Croeso Caerdydd a Chronfeydd data cyhoeddus)
  • Eitemau ar Dudalennau Cynigion Arbennig ein gwefan
  • Eich cynnwys yn ein hymgyrchoedd marchnata integredig
  • Gwahoddiadau i o leiaf bedwar digwyddiad rhwydweithio VCN bob blwyddyn
Cwrdd Yng Nghaerdydd - Hyrwyddo Cynadleddau (£750 y flwyddyn)
  • Cael eich cynnwys fel lleoliad posibl ar gyfer digwyddiadau, cynadleddau a chyfarfodydd
  • Bod yn rhan o raglenni cymdeithasol ar gyfer grwpiau mawr
  • Cael eich cynnwys ar ddogfennau marchnata
  • Cymorth gan y cyfryngau cymdeithasol gan @meetincardiff
  • Cymorth gydag ymweliadau ymgyfarwyddo
  • Cael eich cynnwys mewn cynigion mawr i gefnogi ein Rhaglen Cenhadon newydd
  • Cael eich cynrychioli mewn digwyddiadau masnachu rhyngwladol a domestig
Cwrdd yng Nghaerdydd a Hyrwyddo Ystafelloedd Gwestai (£1200 y flwyddyn)
  • Cael eich cynnwys fel lleoliad posibl ar gyfer digwyddiadau, cynadleddau a chyfarfodydd
  • Bod yn rhan o raglenni cymdeithasol ar gyfer grwpiau mawr
  • Cael eich cynnwys ar ddogfennau marchnata
  • Cymorth gan y cyfryngau cymdeithasol gan @meetincardiff
  • Cymorth gydag ymweliadau ymgyfarwyddo
  • Cael eich cynnwys mewn cynigion mawr i gefnogi ein Rhaglen Cenhadon newydd
  • Cael eich cynrychioli mewn digwyddiadau masnachu rhyngwladol a domestig
  • Llety cyfradd ffafriol a, dolen i gyfranogwyr archebu ystafelloedd gwely

3 RHESWM PAM Y DYLECH YMUNO Â'R RHWYDWAITH

#1

Mae’n werth da iawn am arian. Mae Aelodaeth un flwyddyn gyda Croeso Caerdydd yn costio yr un arian ag un hysbyseb ar faner gwefan am ddau fis.

#2

Mae’n gyfle gwych i gwrdd a rhwydweithio gyda busnesau lleol eraill.

A wyddech chi y gallwn helpu i gyflwyno aelodau i’w gilydd?

#3

Mae’r ffi a dalwch yn mynd yn ôl i’r gyllideb i farchnata Caerdydd fel cyrchfan – gan ddod â mwy o bobl i’n dinas!

YMUNWCH Â RHWYDWAITH CROESO CAERDYDD

Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi yn fuan.