Neidio i'r prif gynnwys

Mae mwy o bobl yn berchen ar gŵn nag erioed o’r blaen, ac mae Croeso Caerdydd yn sylweddoli nad yw gadael eich ffrindiau blewog gartref bob amser yn opsiwn. Felly beth am ddod â’ch ci y tro nesaf y byddwch yn ymweld â phrifddinas Cymru? Efallai eich bod wedi dewis dihangfa wledig yn hytrach nag egwyl yn y ddinas o’r blaen, ond mae Caerdydd yn llawn atyniadau sy’n croesawu cŵn; bariau, bwytai, gwestai a pharciau hardd sy’n gefndir perffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol i gŵn.

Nid yw ein canllaw yn un cynhwysfawr, ond gobeithiwn y bydd yn rhoi blas i chi o’r hwyl y gall eich gwboi neu’ch gwgyrl ei gael yng Nghaerdydd. A chofiwch, os nad ydych yn siŵr a yw sefydliad yn croesawu cŵn, nid oes unrhyw niwed mewn rhoi’ch pen drwy’r drws a gofyn yn gwrtais.

GWELD A GWNEUD

Diolch byth, nid yw dod â’ch ci ar wyliau dinas yn golygu y byddwch yn colli allan ar fwynhau diwylliant, treftadaeth ac atyniadau niferus Caerdydd. Gallwch hefyd wneud tamaid o siopa tra byddwch yma mewn amryw siopau.

Er y gall fod rhai cyfyngiadau ar le y gallan nhw fynd, mae croeso i’r sawl ar ddwy neu bedair coes yn y lleoliadau isod…

CAFFIS, TAFARNDAI A BWYTAI

Rydyn ni’n gwybod y gall bwyta allan gyda’ch ci fod yn anodd. Yn ffodus, mae llawer o sefydliadau bwyd a diod yng Nghaerdydd yn hapus i’w croesawu cyn belled â’u bod yn ymddwyn yn dda.

Mae’r rhan fwyaf o fannau sy’n croesawu cŵn yn cynnig powlen o ddŵr ffres wrth eich bwrdd ar ôl taith gerdded hir. Neu, os oes gennych gi mwy soffistigedig, efallai y caiff puppuccino neu beint o gwrw cŵn!

TEITHIAU CERDDED CŴN GOLYGFAOL

Os yw eich ci yn barod i ddianc rhag prysurdeb bywyd y ddinas am ychydig oriau, rydych chi mewn lle da. Mae Caerdydd yn llawn o wahanol dirweddau, golygfeydd i’w gweld ac arogleuon newydd i’w snwyro.

P’un a hoffech grwydro mannau gwyrdd, mynd am dro ar draws morglawdd ar y glannau neu adael i’ch ci redeg yn rhydd mewn cae caeedig – mae gan y ddinas y cyfan!

GWESTAI SY’N CROESAWU CŴN

Beryg y bydd eich cyfaill bach blewog wedi blino’n lân wedi’r holl grwydro. Gadewch iddo orffwys ei bawennau yn rhai o westai a fflatiau niferus Caerdydd sy’n croesawu cŵn.

Cofiwch wirio rheolau ble rydych chi’n aros, gan mai dim ond cŵn o faint penodol mae rhai’n darparu ar eu cyfer.

Cofiwch, mae mwy o le daeth hynny. Crwydrwch fwy o fannau poblogaidd gyda’ch anifeiliaid anwes drwy ddewis y tag a’r categori ‘Croesawu Cŵn’ ar ein gwefan.

GORMOD O DDEWIS?

Dysgwch beth mae pomeranians Proper Lush Cardiff, Teddy a Norman, yn ei garu am y ddinas.