Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r gymdogaeth hon yn cynnig bywyd pentref bywiog gydag ymdeimlad cryf o gymuned a phopeth sydd ei angen arnoch yn gyfleus wrth law. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb, p’un a ydych yn chwilio am siop goffi leol, dawel i gwrdd â ffrindiau neu’n awyddus i roi cynnig ar lwybr cerdded newydd yn y lleoliadau deiliog niferus. Ewch i lawr Heol Merthyr lle mae rhai o’r parciau, bwyd a diod gorau i’w cael.

Mae hefyd yn fan geni nifer o enwogion lleol.  Roedd y chwaraewr rygbi Sam Warburton a’r pêl-droediwr Gareth Bale yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.

Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r hyn sydd ar gael yn y gymdogaeth yw hwn!

SUT I GYRRAEDD YR EGLWYS NEWYDD

Ar droed: Mae’r Eglwys Newydd yn daith deg munud mewn car o Ganol Dinas Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf o’r bwytai, y bariau a’r atyniadau i’w gweld wrth i chi gerdded i lawr Heol Merthyr.

Beic: Reidiwch eich Nextbike i’r gymdogaeth hon, yna’i gadael tu allan i’r Fino Lounge ar Heol Merthyr (8330).

Trên: Yr orsaf drenau agosaf yw Llandaf, tua 15 munud i ffwrdd ar droed.

Bws: Daliwch Fws Caerdydd 24 ar Heol y Porth ger Giât 4 Stadiwm Principality. Dewch oddi ar y bws wrth ymyl The Three Elms. Dylech ddod o hyd i’r rhan fwyaf o atyniadau, tafarndai a chaffis ar hyd y ffordd hon.

Car:  Mae’r rhan fwyaf o fannau parcio ar strydoedd yr Eglwys Newydd wedi’u neilltuo ar gyfer preswylwyr. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.

 

HOFFECH CHI GYMERADWYO RHYWLE?

EISIAU CYNNWYS EICH BUSNES?

Rydym wrth ein boddau o weithio gyda lleoliadau newydd. Llenwch ein ffurflen i gael gwybod mwy.