Neidio i'r prif gynnwys

Wedi’i henwi’n un o’r ardaloedd trefol gorau i fyw ynddi yn y DU, mae Llandaf yn Ddinas Gadeiriol hanesyddol o fewn Dinas.

Mae hefyd yn fan geni’r awdur plant poblogaidd Roald Dahl ac yn gartref i Doctor Who. Mae gan ddinas Llandaf hefyd ei Heglwys Gadeiriol drawiadol ei hun, sy’n dyddio’n ôl i 1107. Mae’r ddinas wedi’i sefydlu fel man addoli Cristnogol ers y 6ed Ganrif.

Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r hyn sydd ar gael yn y gymdogaeth yw hyn!

SUT I GYRRAEDD LLANDAF

Ar droed: Mae’n bosib cerdded i Landaf o Ganol Dinas Caerdydd mewn llai nag awr. Mae’r rhan fwyaf o’r bwytai, y bariau a’r atyniadau i’w gweld wrth i chi gerdded i lawr y Stryd Fawr a Chlos y Gadeirlan.

Beic: Reidiwch eich Nextbike i’r gymdogaeth hon, yna ei adael y tu allan i Hair & Beauty (8327).

Trên: Yr orsaf drenau agosaf yw’r Tyllgoed, tua 15 munud i ffwrdd ar droed.

Bws: Daliwch Fws Caerdydd 24 neu 25 ar Heol y Porth ger Giât 4 Stadiwm Principality. Gadewch y bws yn safle bws Rhodfa’r Gorllewin neu’r Black Lion. Nid yw Eglwys Gadeiriol Llandaf yn bell iawn o’r lleoliadau hyn.

Car: Mae’r rhan fwyaf o fannau parcio yn strydoedd Pontcanna wedi’u neilltuo ar gyfer preswylwyr.   Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.

HOFFECH CHI GYMERADWYO RHYWLE?

WHERE TO NEXT?

It’s time to live like a local. Each area of the city has its own unique quality.