Home > Hafan

Croeso i Gaerdydd, y Porth i Gymru!

Welcome to Cardiff, Capital of Wales!

 

Dinas yn llawn gwrthgyferbyniadau yw Caerdydd, prifddinas Cymru. Mae pensaernïaeth arloesol yn sefyll ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol, tra bo aceri o barciau heddychlon dafliad carreg o brysurdeb canol y ddinas. Ar ben hynny, mae’r diwylliant Cymreig a’i ddreigiau a’i chwedlau’n cyd-fynd yn berffaith â’r ddinas fodern, llawn technoleg.

Rai munudau o’r castell a’r ddinas, mae dociau Bae Caerdydd ar eu newydd wedd, a’r rheiny’n llawn bwytai a chaffis o bob math. Ben ac ysgwydd uwchben popeth yn y Bae mae Canolfan Mileniwm Cymru, sy'n gartref i saith o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Mae strydoedd siopa pwrpasol Caerdydd a’u marchnadoedd yn llawn siopau poblogaidd y stryd fawr, ac mae'r arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd sy'n plethu drwy'r ddinas yn gartref i ddwsinau o siopau annibynnol bach lle gellir cael anrhegion unigryw, dillad a bwyd, gyda naws Gymreig i lawer ohonynt.

Rydych chi'n sicr o gael croeso cynnes iawn yn ein dinas.

Mwynhewch eich ymweliad!


Trefnu [%2%]Llety</a> ar-lein

Archebwch ar y we...

Gwnewch ddefnydd o prisiau cystadleuol ein gwestai -  yn amrywio  o westai bach teuluol i
westai moethus. Darllenwch sylwadau diduedd gan wahoddedigion blaenorol, a manteision ar
gyflymder y system cadarnhau archeb sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Ewch i ymweld ar
tudalennau Ble i aros am fwy o wybodaeth.
 
 

Gwyl Caws PrydeinigDigwyddiadau

Mae yna lawer o ddigwyddiadau  yn dod i Gaerdydd efo’r Gŵyl Caws Prydeinig yn cael ei wneud yn gartrefol yng nghastell Caerdydd. Mae’r Gŵyl Iris ym mis Hydref yn arddangos y goreuon o ffilmiau hoyw a lesbiad o ar draws y byd. Am rhywbeth mwy fywiog pam na cymrwch rhan yn hanner marathon Caerdydd, ac mae’r cwpan Heineken yn dechrau ar y 10fed o mis Hydref, efo gem gyntaf Caerdydd ar yr 19eg.
 

Mermaid Quay

Cynigion arbennig...

Er mwyn gweld cynigion gan westai, Atyniadau, a bwytai yng Nghaerdydd, ewch i ymweld ar dudalen cynigion arbennig. Saesneg y unig.
 
 
 

Castell Caerdydd

Gyda'r gorau yn y byd - Caerdydd

Mae Caerdydd wedi cael eu dewis gan Frommer's Guide fel un o’r 13 o'r llefydd gorau fyd-eang yn eu rhestr o gyrchfannau ar gyfer 2008. Mae llefydd arbennig ar draws y byd yn cael ei dewis gan dîm o ysgrifenwyr y teithlyfr. Ar gyfer y flwyddyn nesaf bydd Caerdydd ochr yn ochr a llefydd megis, Pittsburg, Denver, New orleans, St Lucia, Quito, a Seoul, i enwi ond ychydig. Er mwyn darganfod mwy, ewch i'r tudalen Beth sy'n newydd
 

Doctor Who ac Rose (c) BBC

Ewch i ymweld a chartref Doctor Who...

Rydych yn medru codi map leoliadau Atyniadau Caerdydd sydd heyfd yn lleoliadau ar gyfer y ddwy gyfres Doctor Who a Torchwood. Gallwch hefyd gyfuno ymweliad ag arddangosfa Doctor Who ym Mae Caerdydd efo taith o’r lleoliadau.
 
 

Map o DU

Yn agosach nag y myddyliech chi...

Yn hawdd i gyrraedd o unrhyw le o fewn y Deyrnas Unedig, dim ond dwy awr o Lundain ar y trên, a dim ond naid byr o gyrchfannau Ewropeaidd eraill - ewch ir adran deithio er mwyn lawr lwytho mapiau dinasoedd a darganfod manylion o sut i cyrraedd yno.
 
 


Taflen newyddion

Taflen newyddion Visit Cardiff...

Tanysgrifiwch ir daflen newyddion Visit Cardiff er mwyn derbyn e-bost o’r newyddion diweddaraf, Digwyddiadau a'r cynigion arbennig yn syth. Mae’r daflen hon yn Saesneg yn unig.

 

 


ble i aros teithlyfr hanfodolCyhoeddiadau...

Os ydych yn dymuno teithlyfr neu am lawr lwytho y teithlyfr  Ble i aros diweddaraf, ewch i'r dudalen brochure request. Yn Saesneg yn unig.
 
 
 
 
 

Cysylltwch â Chanolfan Groeso Caerdydd

Ffôn: +44 (0) 8701 211 258
E-bost: visitor@cardiff.gov.uk


Logo Caerdydd

 




Created by IT3.com SEO Site Builder - Search Engine Optimisation Specialists Wales UK