Beth wyt ti'n edrych am?
Awgrym da: Ymwelwch ar ddydd Sul i fwynhau Marchnad Glan-yr-afon. Wedi’i lleoli yng nghysgod Stadiwm Principality, mae’n arddangos amrywiaeth o gynhyrchwyr bwyd Cymru.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Glan-yr-Afon yn rhedeg ochr yn ochr ag Afon hardd Taf gyda golygfeydd gwych ar draws y dŵr i Stadiwm Principality a dim ond ychydig funudau o waith cerdded sydd i Barc Bute. Mae’n ganddo ysbryd cymunedol sy’n nodweddiadol o ardal sydd lawer ymhellach i ffwrdd o Ganol y Ddinas. Yma ceir marchnadoedd bwyd anhygoel a bwyd Asiaidd.
Dim ond tafliad carreg i ffwrdd mae Grangetown. Mae hon yn ardal nodweddiadol o ganol dinas Caerdydd, ac mae’n ardal sy’n datblygu ac yn amrywiol. Mae pobl Grangetown yn hynod falch o’u cymuned brysur. Gall ymdeimlad o gymuned fod yn brin mewn prifddinas, ond mae gan Grangetown ddigonedd. Mae hon yn ardal hardd gyda thai teras Fictoraidd, mannau gwyrdd, a digon o dafarndai da i gwrdd â ffrindiau ynddynt.
ATYNIADAU
MYND AM DDIOD BACH
CHWANT BWYD?
SUT I GYRRAEDD GLAN-YR-AFON
Ar droed: Mae modd cerdded i Lan-yr-afon o Ganol y Ddinas mewn tua 20 munud. Ewch ar hyd Stryd y Castell, dros y bont a chyn bo hir fe welwch Arglawdd Dôl Afon Taf o’ch blaen. Mae Glan-yr-afon yn gymdogaeth gymharol fach ac mae modd ei harchwilio ar droed.
Beic: Reidiwch eich beic i’r gymdogaeth hon, a’i barcio ar Arglawdd Fitzhamon. Mae rhagor o wybodaeth am feicio ar gael yma, gan gynnwys y llwybrau gorau, llwybrau beicio a chyfleusterau parcio.
Trên: Yr orsaf drenau agosaf yw Caerdydd Canolog, 10 munud i ffwrdd ar droed.
Bws: Mae llawer o lwybrau Bws Caerdydd yn teithio drwy Lan-yr-afon. Un ohonynt yw bws rhif 8 – dewch oddi ar y bws yng Nghyfnewidfa Fysiau Caerdydd ac fe fyddwch ychydig funudau ar droed o On the River a Marchnad Fwyd Glan-yr-afon.
Car: Mae’r rhan fwyaf o’r mannau parcio ar strydoedd Glan-yr-afon wedi’i neilltuo i breswylwyr. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.
SUT I GYRRAEDD GRANGETOWN
Ar droed: Mae’n bosib cerdded i Grangetown o Ganol y Ddinas mewn 20 munud. Ewch dros y bont ac yn eich blaen ar hyd Heol Penarth nes i chi gyrraedd Grangetown.
Beic: Reidiwch eich beic i’r gymdogaeth hon, yna parciwch y tu allan i siop Tesco Express. Mae rhagor o wybodaeth am feicio ar gael yma, gan gynnwys y llwybrau gorau, llwybrau beicio a chyfleusterau parcio.
Trên: Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog 10 munud i ffwrdd ar droed ac mae gan Grangetown ei gorsaf drenau ei hun.
Bws: Daliwch Fws Caerdydd rhif 8 yng Nghyfnewidfa Fysiau Caerdydd a gadewch y bws ar Rodfa Olympaidd. Mae gan Grangetown hefyd ei gorsaf drenau ei hun (Clive Street, CF11 7JB), gallwch deithio o Ganol y Ddinas i’r orsaf mewn 5 munud.
Car: Mae’r rhan fwyaf o’r mannau parcio ar strydoedd Grangetown wedi’u neilltuo i breswylwyr. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.
HOFFECH CHI GYMERADWYO RHYWLE?
EISIAU CYNNWYS EICH BUSNES?
Rydym wrth ein boddau o weithio gyda lleoliadau newydd. Llenwch ein ffurflen i gael gwybod mwy.