Neidio i'r prif gynnwys

Beth yw Padlfyrddio Sefyll i Fyny?

Mae’r Padlfyrddio wedi bod yn aruthrol o boblogaidd yn y DU – ac ers y cyfnod cloi bu cynnydd enfawr o ran poblogrwydd! P’un a ydych yn athletwr brwd neu’n hoffi antur yn achlysurol, byddwch wedi clywed am y gamp ddŵr gynyddol boblogaidd Padlfyrddio.

Mae’n rhyw gyfuniad o syrffio a chanŵio / caiacio, sy’n golygu sefyll ar fwrdd mawr a defnyddio padl fel un canŵio i symud drwy’r dŵr.

Mae Padlfyrddio yn ffordd hygyrch, hwyliog a chymdeithasol o fwynhau dyfroedd morol neu fewndirol.   Gall bron unrhyw un ei wneud, beth bynnag fo’ch oedran, eich sgil neu lefel eich ffitrwydd – ac rydych chi’n cael ymarfer corff llawn.

 

SUP yng Nghaerdydd, mewn gwirionedd?

Ie! Mae Caerdydd yn lle gwych i roi cynnig ar Badlfyrddio. Gyda glannau golygfaol Bae Caerdydd, afonydd yn rhedeg drwy’r ddinas, a lleoliadau chwaraeon dŵr o’r radd flaenaf, mae’n lleoliad perffaith i ddechreuwyr llwyr a phadlwyr mwy profiadol. I gael gwybod mwy am y gwahanol leoliadau yn y ddinas edrychwch ar y blog a’r flogs gan Dale a Darren o Stand Up Paddle UK.

JOIWCH ANTUR PADLFYRDDIO GYDA STAND UP PADDLE UK

Treuliodd Dale a Darren o Stand Up Paddle UK ychydig ddyddiau yn archwilio glannau Caerdydd ar eu padlfyrddau, gan aros yn un o westai mwyaf crand y ddinas a darganfod popeth sydd ar gael ar dir sych y Bae hefyd!