Neidio i'r prif gynnwys

Y Gwestai Gorau ym Mae Caerdydd

Os ydych chi’n chwilio am westai yng Nghaerdydd, mae gan Fae Caerdydd leoedd gwych i aros. Mae gan y Bae lan y dŵr trawiadol i’w archwilio a digon o fariau, bwytai ac adloniant i’w mwynhau.

DEWISWCH EICH GWESTY

Os mai 5 seren sy’n mynd â’ch bryd, mae voco® Dewi Sant Caerdydd mewn lleoliad hardd ar ymyl glan y dŵr. Mae gan y gwesty hwn olygfeydd hyfryd sy’n edrych dros Fae Caerdydd a Marina Penarth. Mae’r Gyfnewidfa Lo yn westy moethus â 200 o ystafelloedd, sy’n dathlu hanes cyfoethog un o dirnodau eiconig Cymru gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Fae Caerdydd. Os ydych chi’n chwilio am wely ar gyllideb, Future Inn Bae Caerdydd yw’r dewis i chi. Ystafelloedd helaeth wedi’u haerdymheru a chanddynt ystafell ymolchi a’r holl amwynderau y byddech yn eu disgwyl mewn gwesty 4 seren, a’r cyfan am werth ardderchog am arian. Yn y cyfamser, mae Holiday Inn Express Bae Caerdydd yn westy modern ar lan y dŵr. Wedi’i leoli’n gyfleus rhwng y Bae a chanol y ddinas fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar y ddau.

 

PAM AROS YM MAE CAERDYDD?

Ni waeth beth yw’r rheswm dros eich ymweliad, mae Bae Caerdydd yn lle anhygoel i fod. Mae’r holl westai Bae Caerdydd uchod mewn lleoliad perffaith i fwynhau ystod eang o bethau, dyma rai o’n ffefrynnau. Ewch allan gyda diwrnod llawn cyffro yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ewch ar daith i Ynys Echni neu daith gerdded hamddenol ar draws Morglawdd Bae Caerdydd. Ar ddiwrnodau gwlyb gallwch fwynhau ffilmiau a bowlio yng nghanolfan y Ddraig Goch, adloniant o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu fwyd a diod gwych yng Nghei’r Fôr-Forwyn.

 

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.