Neidio i'r prif gynnwys

CANOLFAN Y DDRAIG GOCH

Canolfan y Ddraig Goch yw’r lleoliad perffaith ar gyfer adloniant dan do, gyda ffilmiau ar y sgrîn fawr, 26 lôn Bowlio Deg, bariau cŵl, bwytai a chaffis.

Canolfan y Ddraig Goch Canolfan y Ddraig Goch Canolfan y Ddraig Goch

Ni yw cartref hwyl a sbri dan do! Canolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd yw lleoliad adloniant gorau’r Ddinas, gyda bwyd blasus a gweithgareddau gwych i gyd yn yr un man. A dyw hi byth yn bwrw yma chwaith!

Fe welwch sinema ODEON fodern, sy’n gartref i unig sgrîn IMAX ddigidol de Cymru, 26 lôn Bowlio Deg ag ardal arcêd arbennig, Casino Grosvenor 24 awr gyda lolfa chwaraeon foethus, a Simply Gym 20,000 tr. sgwâr o faint!

Ac mae yma lond lle o fwyd fydd at ddant pawb! Cadwch lygad allan am rai o enwau mwyaf y byd bwyd, gan gynnwys Five Guys a Bella Italia, a rhai o’r bwytai annibynnol mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd gan gynnwys Zaika, Volcano, Spice Route, Everytime a Easythali.

Siawns y gwelwch chi seren neu ddwy hefyd! Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i’r darlledwyr chwedlonol Capital FM a Heart FM.

Mae Canolfan y Ddraig Goch ar agor 7 diwrnod yr wythnos (ac eithrio Dydd Nadolig). Gall cwsmeriaid hefyd fanteisio ar chwe awr o barcio y tu blaen i’r adeilad drwy wario o leiaf £6.

GWYBODAETH I YMWELWYR:

Pwy sydd yng Nghanolfan y Ddraig Goch?

BWYTA AC YFED

  • Five Guys
  • Spice Route
  • Zaika
  • Volcano
  • Roots

GWYLIO

  • Odeon – IMAX

CHWARAE

  • Hollywood Bowl
  • Simply Gym

GWRANDO

  • Capital FM

Ffôn

029 2025 6261

E-bost

info@thereddragoncentre.co.uk

Cyfeiriad

Hemingway Road, Atlantic Wharf, CF10 4JY