Mae ein Gwesty Caerdydd yn cynnwys 197 o ystafelloedd gwely en-suite aerdymherus moethus gyda’r holl amwynderau ystafell modern y byddech yn eu disgwyl mewn gwesty 4 seren gan gynnig gwerth am arian gwych. Mae llefydd parcio am ddim a wi-fi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r gwesty er cyfleuster gwesteion.
Mae tri math o ystafelloedd gwely ar gael: ystafell â dau wely dwbl, ystafell â gwely dwbl a gwely soffa dwbl, a swît. Mae’r holl ystafelloedd gwely yr un maint gyda’r switiau tua dwywaith maint ein hystafelloedd safonol.
Mae Bar a Bwyty Thomas, sydd yn ein gwesty Caerdydd, yn gweini bwyd Prydeinig gwych â blas Cymreig cyfoes. Mae ein bwyty yn defnyddio’r cynwysyddion lleol gorau mewn modd anffurfiol, ac yn cynnig bwyd ffres drwy’r dydd, bob dydd, mewn amgylchedd deniadol, ffres a chyfoes.
Mae gwesty Caerdydd yn cynnig wyth ystafell gyfarfod bwrpasol ac ystafelloedd achlysuron preifat i arlwyo ar gyfer digwyddiadau bach, dathliadau a chyfarfodydd i ddigwyddiadau mwy, priodasau, arddangosfeydd a digwyddiadau lansio cynhyrchion. Mae’r holl ystafelloedd cyfarfod ac achlysuron wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod ac yn cynnig mynediad rhwydd a wi-fi am ddim, taflunydd data, siart lif a phennau, system PA, cyfleusterau rheoli tymheredd a thywyllu.
Mae Future Inn Caerdydd yn noddwr balch a phartner gwesty Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig pecynnau llety arbennig i ymwelwyr y Ganolfan. Gyda Chanolfan Mileniwm Cymru ond ychydig funudau o’n gwesty, Future Inn Caerdydd yw’r dewis perffaith ar gyfer eich trip theatr.