Neidio i'r prif gynnwys

CANLLAW CANLYN CAERDYDD

Felly, rydych chi wedi sicrhau’r noson allan, nawr mae’n amser i chi wneud argraff. P’un a yw’n cyfarfod cyntaf, neu’r diweddaraf o gant ac un, mae’n bwysig dangos iddynt faint rydych yn eu gwerthfawrogi.

Caerdydd yw’r noson allan berffaith ar gyfer pob diddordeb a phersonoliaeth, boed yn chwilio am antur, yn dwlu ar ymlacio, yn arbenigo ar ffilmiau neu’n un o’r selogion bwyd.

Arbedwch eich hun rhag gwneud yr ymchwil ac edrychwch ar ein hawgrymiadau isod, mae’n siŵr o sicrhau’r ail gyfarfod!

AR GYFER Y SAWL SY’N CHWILIO AM ANTUR

Treetops Adventure Golf

Cyflwyniadau lletchwith? Bydd hwn yn cychwyn y sgwrs! Heriwch eich partner gydag antur epig Ewch am dro drwy fforest drofannol wyrddaf Caerdydd, lle mae’r taranau’n taranu, hen ysbrydion yn aflonyddu a golff mini’n gormesu! Teimlo’n gystadleuol? Pa un ohonoch sy’n gallu curo’r 19eg twll ac ennill gêm rhad ac am ddim – byddai hynny’n ail noson allan wedi’i threfnu eisoes, cewch ddiolch i ni nes ymlaen.

Sglefrio Iâ yn Arena Viola.

Lleoliad am noson allan fydd yn torri’r garw. Mae Arena Viola yn cynnal sglefrio i’r cyhoedd bob dydd, ac yn cynnig sesiynau ‘dysgu sglefrio’ i ddechreuwyr yn rheolaidd. Beth am brofi sgiliau eich parther a gweld a yw mor osgeiddig â gasel neu’n edrych fel Bambi ar yr iâ.

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

P’un a yw eich parther yn arbenigo ar chwaraeon dŵr neu’n ddechreuwr pur, mae DGRhC yn siŵr o ddarparu’r gweithgaredd perffaith er mwyn peri i’ch calonnau rasio! Beth am fynd â nhw ar sesiwn Rafftio Dŵr Gwyn neu Ganŵio? (Efallai nid yw hyn ar gyfer y rhai gwangalon) Os yw ychydig yn llai mentrus, trefnwch gwrs Ioga Padlfyrddio (ie, mae hynny’n rhywbeth go iawn)!

Castell Caerdydd

Sicrhewch fod y noson allan yn hynod arbennig gyda thaith breifat o gwmpas Castell Caerdydd ac ewch i ystafelloedd anhygoel o ramantus, gan gynnwys y cloc tŵr eiconig. Mae rhai sesiynau yn cynnwys lluniaeth ysgafn naill ai cyn neu ar ôl eich taith – y gweithgaredd perffaith yn ystod y dydd.

Psst … Yn barod i ofyn y cwestiwn? Archebwch y pecyn cynnig priodi. Pa le gwell na mewn castell tylwyth teg?

Taith Hofrennydd Whizzard

Os ydych am drin eich partner fel un o’r enwogion, ewch i fyny yn yr awyr a hedfan dros Gaerdydd gyda thaith breifat mewn hofrennydd. Am daith allan bythgofiadwy, mae taith Dinas Caerdydd yn mynd â chi dros dirnodau enwog y ddinas, gan gynnwys Stadiwm y Principality, Castell Caerdydd a Bae Caerdydd. Gallwch hyd yn oed archebu sesiwn blas ar hedfan a rhoi cynnig arni drostoch eich hun!

Alcotraz

Os ydych chi’n chwilio am leoliad dyddiad od, nid yw’n dod llawer mwy od na threulio awr a 45 munud y tu ôl i fariau, gan drochi eich hun mewn stori sy’n cael ei dod â bywyd gan actorion sy’n chwarae’r Carcharor, y Gwarchodwyr a chymeriad carcharor, wrth fwynhau 4 cockteil personol gan ddefnyddio’r ysbryd rydych chi wedi’i smyglo i mewn (mocktails ar gael hefyd).

Ac mae hynny’n sôn am ychydig yn unig, ewch i visitcardiff.com/see-do/activities i weld llawer mwy!

AR GYFER YR ARBENIGWR FFILMIAU

Everyman Cinema

Ewch â’ch partner i weld ffilm wahanol Mae Everyman ym Mae Caerdydd yn ailddiffinio sinema ac yn cyflwyno ymagwedd arloesol at sinema. Byddwch yn barod i gyfnewid eich diod ysgafn am wydraid o win a sleisen o bitsa ffres, wedi’u gweini wrth eich sedd!

Odeon IMAX

Mae Canolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd yn gartref i sinema ODEON, gyda’r unig sgrin IMAX digidol yn Ne Cymru gyda’r gallu i ddangos ffilmiau IMAX 2D ac IMAX 3D. Os ydych eisiau creu argraff go iawn, archebwch yr ardal Gallery VIP gyda llawer o bethau ychwanegol! Os ydych chi eisiau bwyd ar ôl y ffilm, mae Canolfan y Ddraig Goch yn llawn dop o fwytai gan gynnwys Five Guys, Bella Italia ac Oriental Garden, felly nid oes rhaid i’r noson allan orffen yn gynnar.

 

Ydych chi’n chwilio am ragor o opsiynau o ran adloniant? Gwelwch yr hyn sydd ar gael yma: https://www.croesocaerdydd.com/gweld-gwneud/adloniant/

AR GYFER SELOGION BWYD

The Ivy

Os ydych yn chwilio am leoliad statws uchel ar gyfer cinio, dros ddau lawr, sy’n cynnig ciniawa soffistigedig ond cyfeillgar trwy’r dydd mewn lleoliad hyfryd, The Ivy yw’r lle i chi! Mae’r brasserie ar agor saith niwrnod yr wythnos o fore tan hwyr, gan gynnig lleoliad delfrydol beth bynnag fo’r achlysur. Rhowch wledd o addurno trawiadol a lliwgar a choctels danteithiol i’ch partner, neu gallech hyd yn oed fod yn hael trwy logi eich lle ciniawa preifat eich hunain!

Pho Café

Os ydych yn bâr sy’n ymwybodol o iechyd, mae Pho Café yn ddewis gwych. Mae Pho Cafe yn fwyty Fietnamaidd sy’n cynnig bwydlen amrywiol i’w westeion – lle gallwch ddewis o sŵp nwdl pho, cyri, salad, powlen reis, a llawer mwy. Hefyd mae’r fwydlen dros chwarter fegan a bron i gyd heb glwten – yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â gofynion dietegol.

Honest Burgers

Yn chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol? Mae Honest Burgers yn gweini byrgyrs cartref, sy’n defnyddio cig eidion palfais a chap yr asen o Brydain o’u cigydd eu hunain, sy’n cael ei weini’n lled binc fel arfer. Mae tystiolaeth o gynnych lleol gyda chwrw gan Tiny Rebel a thonau yn cael ei chwarae gan Kelly’s Records – gan greu’r awyrgylch perffaith!

Rydym wedi rhoi ychydig o ddewisiadau i chi ond mae’r rhestr wir yn ddiderfyn, mae rhywbeth ar gael at ddant pawb ac yn addas i bob angen dietegol! https://www.croesocaerdydd.com/bwyta-yfed/bwytai/

Rydym wedi rhoi ychydig o ddewisiadau i chi ond mae’r rhestr wir yn ddiderfyn, mae rhywbeth ar gael at ddant pawb ac yn addas i bob angen dietegol! https://www.visitcardiff.com/eat-drink/restaurants/

Chapel 1877

Wedi’i leoli mewn capel â thema Ffrengig/Eidalaidd, wedi’i adeiladu ym 1877, mae Chapel 1877 yn cynnig profiad ciniawau gwych pwrpasol heb ei ail. Mae gan y llawr cyntaf fwyty gyda bwydlen A La Carte a gwinoedd da o bedwar ban byd. Neu ewch i’r prif far ar y llawr gwaelod i gael coffi neu goctels. Mae’r bwyty hefyd yn cynnig te prynhawn moethus, sesiynau blasu gin a dosbarthiadau gwneud coctels am noson allan gyda gwahaniaeth!

I’R ARBENIGWR COCTELS

Byddai’n well gennych gael diodydd yn unig? Mae sin barrau Caerdydd yn ffynnu, dewiswch o goctels o safon, cwrw go iawn a chwrw crefft mewn lleoliadau bywiog neu fannau tawelach.  Edrychwch ar y rhestr gyfan <https://www.visitcardiff.com/eat-drink/pubs-bars/> ond dyma rai hanfodol:

Pitch Bar & Eatery

Rhowch gynnig ar rywbeth ffyrnig o annibynnol. Mae Pitch yn ymfalchïo mewn cynnyrch Cymreig lleol o’r cinio rhost dydd Sul i’w coctels!

Depot

Depot

Fel lleoliad a fydd yn cael y sgwrs i lifo, mae Depot wedi’i leoli mewn warws gyda digwyddiadau sbonc, creadigol a gwahanol yn rheolaidd. Yn nerfus ar gyfer eich noson allan gyntaf? Tawelwch eich nerfau ar archebwch sesiwn Bingo Lingo – yn sicr ni fydd angen i chi gynnal y sgwrs!

The Alchemist

The Alchemist

Mae’r bar hwn wedi meistroli’r celfyddydau tywyll a ‘mixology’ moleciwlau, rhowch gynnig ar ychwanegu rywfaint o theatr ddiawledig i’ch noson allan. Daw’r coctels yn fflamio, yn llawn mŵg a swigod, maent yn dallu, yn swyno ac yn gosod yr olygfa yn the Alchemist! Awydd rhoi cynnig ar goctel i’w rannu? Mae’r Mad Hatters yn cynnwys gwyddoniaeth cyfareddol a chaiff ei hidlo o flaen eich llygaid cyn rhyddhau mŵg persawrus. Nid oes y fath beth â noson allan ddiflas yn y bar hwn.

Ten Mill Lane

Ddim eisiau i’r noson allan ddod i ben yn rhy gynnar? Mae hynny’n arwydd da. Mae Ten Mill Lane, gyda’i leoliad ar, ie, Mill Lane yn cynnig coctels coeth, gwasanaeth o safon ac awyrgylch parti tan 6am!

YDYCH CHI’N UN SY’N DWLU AR YMLACIO?

Efallai bod aros dros nos neu ddiwrnod sba yn fwy at eich dant chi? Mae’r ddinas yn llawn gwestai steilus gyda bargeinio a chynigion sy’n newid yn barhaus.

Dyma rai o’n ffefrynnau, ond sicrhewch eich bod yn edrych ar ein rhestr helaeth yma  https://www.visitcardiff.com/stay/hotels/

Gwesty Dewi Sant Voco

Os hoffech chi aros yn y Bae, mae Voco yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar dros Gaerdydd a Marina Penarth, Mae’r sba yn hyrwyddo’r ideoleg bod ymlacio yn dda i’r enaid ac i’r croen. Mae Sba Gwesty Dewi Sant Voco yn cynnig pecyn ‘Paradwys i Barau’, sy’n cynnwys sesiwn tylino 50 munud, ac wedyn cinio dau gwrs yn edrych dros Fae Caerdydd.

Clayton Hotel

Gwesty’r Clayton

Os byddai’n well gennych aros yng nghanol y ddinas, nid oes gwesty sy’n fyw canolog na’r Clayton. Gyda phecynnau siopa a chiniawa ar gael, byddwch yn cadw’n brysur gyda gwely cyfforddus i ddringo i mewn iddo ar ddiwedd y dydd.

Hotel Indigo

Hotel Indigo

Mae’r gwesty hwn yn bendant wedi rhoi ei naws Cymreig arno. Os mai dyma yw eich tro cyntaf yn y ddinas, byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddyluniad, p’un a ydych yn treulio eich noson yn y mannau ‘Made in Wales’, ‘Industry’ neu ‘Music’, byddwch yn gadael gan adnabod ein dinas ychydig yn well! Awgrym: Mae gan Hotel Indigo ei fwyty a’i far ei hun, Marco Pierre White, sy’n ddelfrydol ar gyfer dathliad personol gyda’ch partner.


Cofiwch Mae Caerdydd yn enwog am ei sin cerddoriaeth a digwyddiadau mawr. Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am beth sy’n digwydd, mae’n bosibl y bydd y digwyddiad perffaith ar gyfer noson allan gyntaf ar y gorwel! www.visitcardiff.com/events

 

Wedi derbyn ein cyngor? Dywedwch wrthym am eich noson gyntaf yng Nghaerdydd ac ymunwch yn y sgwrs! @CroesoCaerdydd #CroesoCaerdydd