Beth wyt ti'n edrych am?
SIOEAU TELEDU A FFILMIAU A FFILMIWYD YNG NGHAERDYDD
Rydym wedi llunio rhestr o’r 13 sioe deledu a ffilm orau sy’n werth eistedd am oriau yn eu gwylio ac sydd wedi ffilmio rhai oâu golygfeydd yng Nghaerdydd. Maen nhwân ddelfrydol i’r rheiny ohonoch sy’n gorfod aros i mewn ar hyn o bryd ac sydd angen ffilmiau a sioeau teledu hwyliog iâw ffrydio yn y cartref.
Nid mewn unrhyw drefn arbennig – dymaâr 12 sioe deledu a ffilm gorau a ffilmiwyd yng Nghaerdydd.
1. SEX EDUCATION
(2019 – 2020) Sioe deledu, drama, 2 dymor, ar gael ar hyn o bryd ar Netflix.
Efallai nad oes gan Otis, syân fyfyrwyr ysgol uwchradd lletchwith yn gymdeithasol, lawer o brofiad ym maes rhyw, ond mae’n cael arweiniad da ar y pwnc yn ei gwrs addysg rhyw personol – gan ei fod yn byw gydaâi fam Jean, syân therapydd rhyw. Wediâi amgylchynu gan lawlyfrau a fideos a drwy gael sgyrsiau agored diflas am ryw, mae Otis wedi dod yn arbenigwr hwyrfrydig ar y pwnc. Pan ddaw ei gyd-ddisgyblion i ddysgu am ei fywyd gartref, mae Otis yn penderfynu defnyddio ei wybodaeth o lygad y ffynnon i godiâi statws yn yr ysgol. Mae’n trefnu felly gyda Maeve – merch ddrwg a chraff – i sefydlu clinig therapi rhyw tanddaearol i ddelio â phroblemau eu cyd-ddisgyblion. Ond trwy ei ddadansoddiad o rywioldeb yn yr arddegau, mae Otis yn sylweddoli y gall fod arno angen rhyw fath o therapi ei hun.
Cafodd golygfeydd neuadd yr ysgol eu ffilmio yn Ystafelloedd Paget, Victoria Road, Penarth. Gerllaw yn Sgwâr Fictoria, y ganolfan gymunedol yn y ffilm mewn gwirionedd yw Neuadd Eglwys yr Holl Saint, y gallech fod wedi sylwi arni hefyd yn Doctor Who.
2. HIS DARK MATERIALS

(2019) Sioe deledu, Drama Ffantasi, 1 Tymor, ar gael ar hyn o bryd ar BBC I-Player.
Mae His Dark Materials yn sioe wediâi gosod mewn realiti aml-fyd, gyda’r storiân symud o un byd i’r llall. Mae’r stori’n dechrau mewn byd amgen lle mae gan bob dyn anifail yn gymar o’r enw âdaemonsâ, sydd i fod yn ymgorfforiad oâr enaid dynol. Mae’r gyfres yn dilyn bywyd merch ifanc o’r enw Lyra sy’n amddifad ac yn byw gyda’r ysgolheigion yng Ngholeg Jordan, Rhydychen. Fel yn nofel Pullman, mae Lyra yn darganfod cyfrinach beryglus yn ymwneud ââr Arglwydd Asriel Belacqua a Marisa Coulter. Wrth chwilio am ffrind coll, mae Lyra hefyd yn darganfod cyfres o ddigwyddiadau o herwgipio a’u cysylltiad â sylwedd dirgel o’r enw Dust, sy’n ei harwain ar daith epig a fydd yn ei harwain at groesi llwybrau â bachgen oâr enw Will.
Mae Lin-Manuel Miranda wedi datgan ei gariad at Gaerdydd ar nifer o leoliadau. O rapio ar strydoedd Efrog Newydd am ei gariad at Gaerdydd, i ffrwydro ar y cyfryngau cymdeithasol pan synnodd bawb mewn noson o gyd-ganu caneuon theatr cerdd oâr enw âJane’s Calamityâ ym mar Porters yng Nghaerdydd. Ymunodd â’r dorf i ganu fersiwn o Stars o Les Miserables.
3. DISCOVERY OF WITCHES

(2018-2020) Sioe Deledu, Rhamant Ffantasi, 3 tymor, ar gael ar hyn o bryd ar Now TV.
Cyfres ffantasi yw âA Discovery of Witchesâ wediâi seilio ar y nofel oâr un enw yn y drioleg âAll Soulsâ, a ysgrifennwyd gan Deborah Harkness. Maeâr wrach/hanesydd anfoddog Diana Bishop yn darganfod llawysgrif wediâi hudo yn Llyfrgell Bodleian. Wrth iddi geisio datrys y cyfrinachau yn y llyfr hwn am greaduriaid hudol, mae’n cael ei gorfodi yn Ă´l i fyd hud, yn llawn fampirau, daemoniaid, gwrachod a chariad gwaharddedig. Gan ffurfio cynghrair annhebygol, maeâr genetegydd a’r fampir Matthew Clairmont yn helpu Diana i geisio amddiffyn y llyfr a datrys y posau oâi fewn, tra ar yr un pryd yn osgoi bygythiadau o fyd y creaduriaid hudolus.
Ffilmiwyd y sioe mewn sawl lleoliad ledled Caerdydd, ac ymhlith y rhai mwyaf nodedig mae Marchnad Caerdydd, Cwrt Insole a Gwesty’r Exchange. Am restr lawn o leoliadau ffilmio, ewch i ganllaw Croeso Cymru.
4. DR. WHO

(2005 – 2020) Sioe Deledu, Drama Ffuglen Wyddonol, 12 tymor, ar gael ar hyn o bryd ar BBC I-Player.
Mae Doctor Who yn rhaglen deledu ffuglen wyddonol a gynhyrchwyd gan y BBC ers 1963. Cafodd y gyfres ei hadfywio yn 2005 a chafodd pob un oâr 12 tymor eu ffilmio yng Nghaerdydd a Chymru. Mae’r ail-lansiad wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn fyd-eang. Mae wedi denu cenhedlaeth iau o gefnogwyr ac mae gan y gyfres ddilynwyr selog. Dilynwch anturiaethauâr âArglwydd Amserâ o’r enw “y Doctor”, sef allfydolyn sydd i bob golwg yn fod dynol, o’r blaned Gallifrey. Mae’r Doctor yn archwilioâr bydysawd mewn llong ofod sy’n teithio drwy amser o’r enw Y Tardis. Ynghyd â nifer o gymdeithion, mae’r Doctor yn gwrthdaro ag amrywiaeth o elynion wrth weithio i achub gwareiddiadau a helpu pobl mewn angen.
Os byddwch yn ymweld â Chaerdydd fel un o ffans Dr. Who gallwch chwarae gĂŞm ‘Enwiâr Lleoliad’ gan fod cynifer o leoliadau yn y ddinas wedi ymddangos ym mhob un o’r 12 tymor fel Castell Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan, a Bae Caerdydd. Am restr lawn o leoliadau edrychwch ar y rhestr hon.
5. JOURNEY’S END

(2017) Ffilm, Drama Ryfel, ar gael ar hyn o bryd ar Youtube a Google Play.
Daw âJourneyâs Endâ â drama R.C. Sherriff syân 90 oed iâr sgrin yn bwerus o gyffrous, diolch i arddull ar-ruthr Saul Dibb a gwaith gwych gan gast talentog. Ăâr stori wediâi gosod mewn ffos yn Aisne yn 1918, dyma hanes grĹľp o swyddogion Prydeinig, dan arweiniad y swyddog ifanc Stanhope sydd ââi feddwl ar chwâl, wrth iddyn nhw aros eu tynged.
Cynhyrchwyd y ffilm yn Pinewood Studios Wales, yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd.
6. SHERLOCK

(2010 – 2017) Sioe Deledu, 4 Tymor, Sioe Ias a Chyffro Droseddol, ar gael ar hyn o bryd ar BBC I- Player.
Mae Dr. Watson, cyn-feddyg yn y fyddin, yn canfod ei hun yn rhannu fflat gyda Sherlock Holmes, unigolyn egsentrig gyda dawn i ddatrys troseddau. Gyda’i gilydd, maent yn ymgymryd â’r achosion mwyaf anarferol.
Mae Sherlock wedi cael ei ffilmio mewn sawl lleoliad ledled Caerdydd, fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Ffaith hwyliog – y cynteddau o fewn prif adeilad Prifysgol Caerdydd yw’r cynteddau a ddefnyddir i gynrychioli “Palas Meddwl” Sherlock yn y rhaglen.
7. HUMAN TRAFFIC (FILM)

(1999) Ffilm, Drama Gomedi, ar gael ar hyn o bryd ar Amazon Prime
I Jip, Lulu, Koop, Nina and Moff, maeâr swyddi diflas y maen nhwân eu goddef yn ystod yr wythnos ond yn pasioâr amser tan nos Wener. Dyna pryd maen nhw’n torri’n rhydd ac yn mynd ar y reid fawr wallgof sy’n mynd â nhw hyd at fore Llun. Yn gomedi llawn adrenalin, mae “Human Traffic” yn cofnodi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau – yn gemegol ac yn emosiynol – pump o ffrindiau y mae eu penwythnosau’n llawn clybio diddiwedd, crwydro o dafarn i dafarn a phartio lle nad oes unrhyw reolau, dim cyfyngiadau a dim dweud “na.”
8. GAVIN AND STACEY

(2007 – 2019) Sioe deledu, Drama Gomedi, ar gael ar hyn o bryd ar Netflix.
Stori gomig o gariad rhwng bachgen o Essex a merch o Gymru, gyda Matthew Horne a Joanna Page, â chast yn cynnwys James Corden, Ruth Jones, Rob Brydon ac Alison Steadman.
Yn ddewis amlwg ar ein rhestr, Gavin and Stacey yw un o’r cyfresi teledu mwyaf poblogaidd ym Mhrydain dros yr 20 mlynedd diwethaf. Er bod y rhan fwyaf oâr golygfeydd Cymreig yn digwydd ar Ynys y Barri, cafodd llawer oâr golygfeydd eu ffilmio mewn lleoliadau eiconig yng Nghaerdydd, fel Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Dysgwch fwy yma.
9. WAR OF THE WORLDS (TV)

(2019) Sioe Deledu, 1 tymor. Ffuglen wyddonol ias a chyffro. Ar gael ar hyn o bryd ar FOX
Wedi’i osod yn Ffrainc gyfoes, mae’r ail-luniad Eingl-Ffrengig hwn o glasur H. G. Wells yn arddull Walking Dead yn dilyn pocedi o oroeswyr a orfodwyd i ymuno ar Ă´l streic all-ddaearol apocalyptaidd.
Ffilmiwyd y sioe deledu mewn nifer o leoliadau yng Nghaerdydd, a’r mwyaf nodedig yw’r Siambr yn y Senedd, sef cartref democratiaeth Cymru.
10. 28 DAYS LATER

(2002) Ffilm ffuglen wyddonol ias a chyffro, Ar gael ar hyn o bryd ar Google Play.
Ar ôl i feirws dirgel achosi dinistr yn y Deyrnas Unedig, mae tÎm o oroeswyr yn ceisio dygymod â chanlyniad y drychineb a dod o hyd i ddiogelwch.
Er bod y rhan fwyaf o’r ffilm wedi’i lleoli yn Llundain, defnyddiwyd Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd fel lleoliad yn lle Arena Wembley a oedd â gwaith ailadeiladu mawr yn mynd rhagddo ar y pryd.
11. TRIATORS

(2019) Sioe deledu, 1 Gyfres, Drama, Ar gael ar hyn o bryd ar All 4.
Yn 1945 yn Llundain, caiff Feef Symonds ei hudo gan asiant twyllodrus o’r UD i genhadaeth beryglus yn ysbĂŻo ar ei gwlad ei hun. Ei thasg yw darganfod ymdreiddiad Rwsiaidd i galon Llywodraeth Prydain.
Gyda Keeley Hawes, Emma Appleton o âCliqueâ BBC Three a Michael Stuhlbarg o âShape of Waterâ yn serennu ynddo, cafodd âTraitorsâ ei ffilmio yn nhafarn y Goat Major ar y Stryd Fawr, ArcĂŞd y Castell a Heol y Cawl. Cafwyd hyd yn oed ail-gread oâr Blitz yn Llundain ar Stryd Bute.
12. TOURIST TRAP

(2018 – 2019) Sioe Deledu, 2 dymor, Comedi, Ar gael ar hyn o bryd ar BBC I-Player
Os fuoch chi erioed yn dyfalu sut beth yw gweithio ym mhencadlys Croeso Caerdydd, wel y rhaglen deledu ddychanol hon ywâr peth agosach gewch chi at hynny. Comedi wediâi lled-sgriptio ac wediâi seilio ar y Bwrdd Croeso ffuglennol yng Nghymru, sy’n efelychu sawl elfen wahanol o’r farchnad dwristiaeth.
Mae’r sioe deledu yn cyfeirio at Gaerdydd ac yn defnyddio sawl un o leoliadau Caerdydd drwy gydol y gyfres.