Neidio i'r prif gynnwys

Pa Mor Hen yw Hen?

Blog gwadd o Transatlantic Storytelling. Mae Tristan Russell, myfyriwr ym Mhrifysgol Ball State, yn rhoi safbwynt ymwelydd ar hanes Caerdydd.

Pan ddechreuon ni o Faes Awyr Indianapolis ar 26 Chwefror 2020, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n barod ar gyfer ein taith Transatlantic Storytelling.

Roeddwn i wedi pacio digon o ddillad am 15 diwrnod (er mai dim ond 12 fyddai’r daith), roedd gen i’r holl offer camera y gallwn i ddychmygu ei ddefnyddio a hyd yn oed mynd i’r meddylfryd iawn ar gyfer diwrnod llawn o hedfan dros gefnfor.

Wrth gwrs, erbyn diwedd ein diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd, sylweddolais fod rhai pethau na allwch baratoi ar eu cyfer.

 

Mae cerdded trwy strydoedd Caerdydd yn eich llenwi ag ymdeimlad o hanes nad oeddwn i erioed wedi’i brofi. Mae gan fy nhref enedigol, Naperville, Illinois, gymdeithas hanesyddol dda sy’n cadw rhai o’r hen adeiladau yn ein tref.

Adeiladwyd yr adeiladau hynaf sydd gennym ganol y 1800au, felly gallwch ddychmygu fy sioc wrth ymweld â Chastell Caerdydd ar ein hail ddiwrnod.

Roedd y neuadd wledda, neu’r ystafell fwyta, yn gwbl berffaith y tu mewn i Gastell Caerdydd o’i gerfiadau pren i orffeniadau aur. Edrychwch ar yr angylion yn y nenfwd hefyd.

Gyda 2,000 o flynyddoedd o hanes o fewn ei waliau, Castell Caerdydd ar unwaith oedd yr adeilad hynaf i mi fod ynddo. Adeiladwyd y gaer Rufeinig tua diwedd y 50au OC, ar safle strategol gyda mynediad i’r môr.

Mae meddwl am yr holl bethau mae’r waliau hynny wedi eu gweld yn dal i roi croen gwŷdd i fi. Mae’r syniad bod un adeilad wedi gwylio dros ddinas Caerdydd wrth iddi drawsnewid o fod yn dref fach i fod yn brifddinas Cymru yn anhygoel.

Syniad hyd yn oed yn fwy gwyllt i feddwl amdano, llwyddodd Castell Caerdydd i raddau helaeth i ddianc rhag gweithredu’r gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd y waliau allanol fel llochesi cyrch awyr, a oedd yn gallu dal bron i 2000 o bobl. Roedd y daith gerdded drwy’r rhain yn ddwys.

Wrth gerdded trwy waliau allanol y castell, ni allech ond cael eich trawsnewid mewn amser.

Yn America, nid ydym yn dysgu llawer am yr Oesoedd Canol yn yr ysgol. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o blant yn credu bod hanes wedi dechrau ym 1776 pan ddatganodd America ei Hannibyniaeth.

Mewn gwirionedd, mae’n hawdd anghofio bod cymaint o’r hanes hynafol hwn wedi digwydd mewn gwirionedd pan nad ydym yn clywed dim amdano fe gartref. Roedd cerdded trwy’r castell yn agoriad llygaid llwyr i’r cyfan.

Nid yn unig y mae’r safle hwnnw’n gartref i’r Castell, ond hefyd yn gyn-breswylfa’r teulu Bute. Roedd y manylion manwl roddwyd yn yr tŷ hwnnw yn syfrdanol.

Cadwyd yr arglwyddiaeth gan deulu Bute o 1776 tan 1947, pan roddwyd y Castell i Ddinas Caerdydd.

Teulu Bute oedd yn bennaf gyfrifol am dwf Caerdydd i’r hyn a fu unwaith yn un o’r porthladdoedd allforio glo mwyaf yn y byd.

Roedd pob ystafell y cerddon ni iddi rywsut yn fwy moethus a drud na’r diwethaf. Ond yn fwy na hynny, gallwch chi weld y cariad a’r gofal a roddwyd wrth berffeithio’r castell a’i droi’n sioe.

Rhoddodd y daith i’r castell y teimlad i fi fy mod i’n ddarn bach mewn rhywbeth mor fawr. Roedd gallu cerdded i lawr y stryd a gweld adeiladau wrth ymyl ei gilydd a gafodd eu hadeiladu gannoedd o flynyddoedd ar wahân yn deimlad mor arbennig.

Mae dinas gyfan Caerdydd yn teimlo fel dathliad o ba mor bell mae dynoliaeth wedi dod dros y mil o flynyddoedd diwethaf.

 

Ni adawodd y teimlad hwnnw drwy gydol y daith. Roedd darnau bach o wybodaeth yn chwalu fy meddwl yn gyson, tra bod dinasyddion Caerdydd yn ddi-hidio fel petai’n normal.

Gofynnais i Matthew Leon, un o’r cyn-fyfyrwyr o Met Caerdydd yr oeddem yn gweithio gyda nhw, beth fyddai’n ei ddiffinio fel “hen” a dywedodd unrhyw beth dros 500 mlynedd yn ôl.

Mae unrhyw beth yn gynharach na’r 50au yn hynafol i fi! Teimlais yn hynod genfigennus i allu cael cymaint o hanes ar gael lle bynnag yr ewch.

Dwi wedi bod yn meddwl am y cwestiwn yna ers amser maith. Mae’n ddiddorol i fi sut mae ein diwylliant ni yn America yn symud ymlaen yn gyson tra bod mwy o werthfawrogiad o’r gorffennol yng Nghymru.

Ond ar yr un pryd, gall bod â chymaint o hanes o’ch cwmpas bob amser achosi i chi ddiystyru adeilad 500 oed yn rhywbeth mawr.

Un o’r rhannau gorau o deithio yw sut mae’n caniatáu i chi gael golwg newydd ar y byd rydych chi’n byw ynddo. Er nad oes unrhyw beth wedi newid yn y byd ers i mi ddychwelyd (heblaw am bandemig enfawr) rwy’n dechrau ei weld yn wahanol.

 

Rwy’n hoffi meddwl bod gen i lawer mwy o werthfawrogiad o ddiwylliant Cymru a Phrydain nawr, ond hefyd am fy nhref enedigol. Ac os dim byd arall, mae gen i bersbectif unigryw nawr ar beth mae “hen” wir yn ei olygu i fi.


YNGHYLCH YR AWDUR:

Tristan Russell

Mae Tristan Russell yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Ball State ac yn fyfyriwr gynhyrchydd ar gyfer Ball State Sports Link. Dilynwch @_tristanrussell ar Twitter.

Mae Transatlantic Storytelling yn brosiect dysgu ymgolli ac adrodd straeon byd-eang rhwng myfyrwyr Prifysgol Ball State ym Muncie, Indiana a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yng Nghaerdydd, Cymru.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.