Neidio i'r prif gynnwys

FE OFYNNON NI, FE ATEBON NHW

I ddilyn, mae pob tîm yn esbonio’u hoff ffyrdd o #DdarganfodCaerdydd.

C1. Ar ôl gwylio gêm, ble mae’r lle gorau yn y ddinas i fwynhau diodydd gyda ffrindiau a pham?

Greg Cunningham, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Gweriniaeth Iwerddon:

“Mae’n debyg byddwn i’n dweud naill ai Revs neu Be At One. “Awyrgylch gwych yn y ddau le am ddiod neu ddau gyda ffrindiau a theulu pan fyddwn ni’n gallu.”

Nick Williams, Gleision Caerdydd:

“Yn bendant yr Alchemist. Mae yna awyrgylch gwych ac mae’r diodydd yn anhygoel. Mae’n edrych yn ffansi iawn hefyd!”

Joey Haddad, Cardiff Devils:

“Dwi wastad wedi bod yn ffan o Urban Taphouse (sef Tiny Rebel Bewery) a Brew House. Mae Tiny Rebel yn eithaf cŵl gyda llwyth o gwrw ar dâp. Mae mwy o fynd yn Brew House gyda cherddoriaeth fyw a llawer o ddewisiadau bwyd stryd gerllaw.”

Joey Martin, Cardiff Devils:

“Ar ôl gêm, dwi’n meddwl mai un o’r llefydd gorau i fwynhau diodydd gyda ffrindiau yw Brewhouse. Mae ganddynt bob amser gerddoriaeth fyw wych sy’n creu awyrgylch hwyliog iawn!”

Chris Cooke, Criced Morgannwg:

“Pontcanna Inn.” Lleoliad gwych ger y cae criced ac yn hawdd cerdded i’r dref wedyn. Staff cyfeillgar a gardd gwrw braf. Cwrw da ar dap a bwydlen flasus.”

C2. Pe byddai’n rhaid i chi fynd â’ch chwaraewyr newydd am bryd o fwyd, ble fyddech chi’n cadw bwrdd a beth fyddech chi’n ei archebu?

Greg Cunningham, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Gweriniaeth Iwerddon:
“Wagamama ar gyfer eu gyoza hwyaden neu stecen bulgogi; Yr Ivy ar gyfer cawl i ddechrau a stecen ffiled neis; neu Mowgli am gyw iâr menyn gyda bara naan!”

Nick Williams, Gleision Caerdydd:
“Y Custom House ym Mhenarth Rwy’n dwlu ar yr arddull Brasserie ac mae ganddynt stêcs ffres a bwyd môr o ansawdd anhygoel.”

Joey Haddad, Cardiff Devils: 

“Mae hwn yn anodd gan fod cymaint o fwytai anhygoel yng Nghaerdydd. Dyma rai o fy ffefrynnau: Cafe Citta (unrhyw beth), Miller and Cater (stecen ‘Ribeye’ 16 owns), Giovanni’s (spaghetti bolognese) a Wahaca (unrhyw beth).”

Joey Martin, Cardiff Devils:

“Fel arfer dw i’n hoffi dod â chwaraewyr newydd i Wahaca yng nghanol y ddinas. Mae’n lle hamddenol i fwyta gyda naws braf, ac mae eu bwydlen fawr yn cynnwys llawer o amrywiaeth sy’n rhoi sawl dewis i’r cwsmer.”

Chris Cooke, Criced Morgannwg:

“Sushi Life – Gyoza’s, sashimi eog, rhôl y Ddraig Goch a chwrw oer.”

C3. Os oeddech chi a’ch teulu yn bwriadu bod yn dwristiaid am y dydd yng Nghaerdydd, pa ddau le fyddech chi’n ymweld â nhw?

Greg Cunningham, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Gweriniaeth Iwerddon:

“Mi wna i roi tri i chi! Byddem yn mynd ar daith o amgylch Stadiwm Principality ac yna’n mynd am dro o amgylch Castell Caerdydd a Pharc Bute.”

Nick Williams, Cardiff Blues:

“Mae honno’n un anodd gyda chymaint gan Gaerdydd a’r cyffiniau i’w gynnig ond mae’n debyg y byddwn i’n dweud Bae Caerdydd. Neidiwch ar un o’r tacsis dŵr yn y Morglawdd am daith o amgylch y Bae ac i fyny’r Taf heibio Stadiwm y Principality a Pharc yr Arfau ac yna yn ôl i’r Bae i gael bwyd a diod yn un o’r bariau a’r bwytai niferus.”

Joey Haddad, Cardiff Devils:

“Brecwast yn y dref cyn taith o amgylch Castell Caerdydd yna cwrw ym Mae Caerdydd cyn taith o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru. Yna Giovanni’s yn y Bae ar gyfer swper (Spaghetti Bolognese).”

Joey Martin, Cardiff Devils:

“Y ddau le y byddwn i’n ymweld â nhw yng Nghaerdydd am y dydd fyddai Castell Caerdydd a Bae Caerdydd. Ar ddiwrnod heulog braf, mae’r Bae yn un o fy hoff lefydd i fod yng Nghaerdydd. Gallwch gerdded i’r morglawdd gyda phaned, neu gallwch eistedd ar batio a chael pryd o fwyd neu ddiod wrth ymyl y dŵr.”

Chris Cooke, Criced Morgannwg:

“Bae Caerdydd, y Castell.”

 

C4. Pe gallech gael tocyn tymor am ddim i weld unrhyw dîm chwaraeon arall yng Nghaerdydd pwy fyddai hwnnw?

Greg Cunningham, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Gweriniaeth Iwerddon:

“Yn bendant, byddai ar gyfer y Cardiff Devils yn Arena Viola ym Mae Caerdydd. Dwi wedi bod i’w gweld o’r blaen ac yn edrych ymlaen at wneud hynny eto.  Byddwn ni’n gwario rhywfaint yn siop eu clwb y tro hwn, hefyd!”

Nick Williams, Gleision Caerdydd:

“Byddai’n rhaid iddo fod yn Cardiff Devils.  Mae’n amlwg bod ganddo naws wahanol iawn i’r campau mwy traddodiadol ym Mhrydain. Mae yna awyrgylch da bob amser a dwi wastad wrth fy modd pan mae yna frwydr ar y rhew!”

Joey Haddad, Cardiff Devils:

“Byddai’n rhaid i mi ddewis yr Adar Gleision.  Cyfleuster gwych ac mae gen i lawer o ffrindiau sy’n aml yn eu gemau hefyd. ”

Joey Martin, Cardiff Devils:

“Yn bersonol, rwy’n mwynhau mynychu gemau Dinas Caerdydd.  Mae ganddynt stadiwm braf iawn ac mae’r cefnogwyr angerddol yn creu awyrgylch gwych. Mae’n noson allan wych!”

Chris Cooke, Criced Morgannwg:

“Gleision Caerdydd.”