Neidio i'r prif gynnwys

GWNEUD CAWL GYDA CHROESO CAERDYDD

CAWL CIG OEN – CINIO CYFNOD CLO AR DDYDD GŴYL DEWI

Mae cawl yn draddodiad Cymreig, yn bendant yn un o brydau mwyaf adnabyddus y wlad ac mae’n arbennig o boblogaidd o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Yn y bôn, cawl cig a llysiau ydyw, sy’n flasus ac yn sylweddol, i’ch cynhesu go iawn yn y gaeaf a gallwch ei fwynhau unrhyw adeg o’r flwyddyn.  Mae’r rysáit yn amrywio llawer o le i le, hyd yn oed o deulu i deulu, ac mae gan lawer o bobl leol fam-gu sy’n gwneud yr un gorau

Y cig a ddefnyddir fel arfer yw cig oen ond defnyddir cig eidion neu ham hefyd ac maen nhw yr un mor dda. Bydd unrhyw gyfuniad o wreiddlysiau sy’n mynd â’ch ffansi yn gweithio; ond mae tatws, moron a swêds bron yn orfodol. Hefyd peidiwch ag anghofio’r cennin! Mae cennin yn symbol Cymreig enwog ac nid yw cawl yn gyflawn hebddyn nhw. Sesnwch gyda halen a phupur, ychwanegwch flas gyda pherlysiau a dyna chi.

Yn tyfu i fyny, roedd cawl bob amser ar fwydlen cinio’r ysgol ar 1 Mawrth ac mae’n siŵr o fod felly o hyd heddiw. Roedden nhw’n arfer ei weini gyda 2 giwb o gaws a’r peth gorau oedd eu gollwng i mewn am funud neu ddwy, wedyn eu tynnu allan a’u bwyta pan roedden nhw wedi toddi ychydig.  Rwy’n cofio gwneud cawl fel dosbarth yn yr ysgol gynradd, ac wedyn yn “addysgu” fy mam i’w wneud gartref wedyn, y tro cyntaf i mi fentro i fyd coginio.

Gan fod Dydd Gŵyl Dewi ar y gorwel, dyma fy ffordd i o wneud cawl blasus ar gyfer cinio blasus yn ystod y cyfnod cloi. Efallai na fydd traddodiadwyr yn cytuno â’m holl gynhwysion ond rwy’n eu hoffi, felly maen nhw’n mynd i mewn. Y peth gwych am hyn yw eich bod yn gallu ei newid yn hawdd, yn dibynnu ar beth rydych chi’n ei hoffi neu beth sydd gennych chi wrth law.

CYNHWYSION:

  • Cig oen mewn ciwbiau
  • Cennin (1 fawr neu 2 fach)
  • Tatws x3 (maint canolig)
  • Moron x3
  • Pannas x2
  • 1 swedsen weddol fach
  • 2 winwnsyn brown
  • Stoc llysiau 1.5 litr
  • Garlleg (cymaint ag yr hoffech chi)
  • Perlysiau (defnyddiais i rosmari o’r ardd)
  • Halen
  • Pupur

GWNEUD EICH CAWL:

  1. Cyn i chi ddechrau, paratowch eich holl lysiau a’u torri yn dalpiau o faint sy’n hawdd i’w bwyta.
  2. Gan ddefnyddio eich hoff sosban ar gyfer gwneud cawl, ychwanegwch sblash o olew olewydd, a thaflwch eich winwns a’ch garlleg wedi’u torri i mewn. Ceisiwch beidio â’u llosgi fel y gwnes i yn y fideo, mae’n debyg bod ffilmio a choginio yn anodd!
  3. Ychwanegwch y stoc llysiau (neu defnyddiwch stoc cig oen os hoffech chi) a chynheswch nes ei fod yn berwi.
  4. Pan fydd y stoc yn berwi, ychwanegwch eich ciwbiau o gig oen yn ofalus (peidiwch â’u gollwng i mewn rhag ofn i chi sblasio eich dwylo, dw i wedi dysgu o brofiad). Trowch ef am tua 30 eiliad i frownio’r cig, ac yna
  5. Trowch y gwres i lawr ychydig ac ychwanegu eich holl lysiau (ychwanegwch ychydig yn rhagor o ddŵr os bydd angen).
  6. Gadewch i’r sosban fudferwi am tua 25 munud, ac yna ychwanegwch y perlysiau a sesnin at eich dant chi gyda halen a phupur
  7. Mudferwch am tua 20 munud arall, ei weini a’i fwynhau.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.