Neidio i'r prif gynnwys

BETH SYDD YMLAEN YNG NGHAERDYDD DROS WYLIAU'R HAF?

Mae Gwyliau’r Haf wedi cyrraedd ac yma yn Croeso Caerdydd rydyn ni’n meddwl bod yr oedolion a’r rhai bach fel ei gilydd yn haeddu llwyth o ddiwrnodau hwyliog ac arbennig gyda’i gilydd!

Rydyn ni wedi llunio’r canllaw hwn sy’n cynnwys 16 o weithgareddau cyffrous i chi eu mwynhau fel teulu. Sgroliwch i weld yr atyniadau a digwyddiadau lle mae angen tocyn ymlaen llaw, gweithgareddau hwyliog gallwch chi eu gwneud funud olaf, rhestr o westyau sy’n ystyriol o deuluoedd rhag ofn y byddwch chi am aros ychydig yn hirach, a rhywfaint o gyngor ymarferol.

1. HANESION Y TŴR DU

Darganfyddwch Hanesion y Tŵr Du yng Nghastell Caerdydd, profiad newydd cyffrous sy’n adrodd o’r newydd hanes Llywelyn Bren, arwr  o hanes ganoloesol Cymru sydd wedi mynd yn angof.

Dewch i gwrdd â’r ysbrydion o gyfnodau a fu wrth i’r atyniad trochi hwn ddod â hanes yn fyw mewn ffordd na fyddwch chi’n ei hanghofio’n fuan. Archebwch yn swyddfa Castell Caerdydd.

2. CANOLFAN RED DRAGON

Nid yw aros gartref dros yr haf erioed wedi edrych mor dda yng Nghanolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd. O giniawau hwyliog a ffilmiau sgrin fawr i’r bowlio bendigedig a difyrrwch gwych, maen nhw yn disgwyl amdanoch yr haf hwn – adloniant a bwyd gwych i gyd o dan yr un to. Gall cwsmeriaid hefyd fwynhau parcio di-drafferth ac aros am hyd at 6 awr AM DDIM gyda dilysiad ANPR.

Beth bynnag fo’r tywydd, mae atgofion bob amser yn cael eu gwarantu yn y ganolfan hwyliog hon! Swnio’n dda? Dysgwch fwy yma.

3. PARC HWYL I DEULUOEDD BAE CAERDYDD

Mae Parc Hwyl i Deuluoedd Bae Caerdydd yn mynd i Roald Dahl Plass gwyliau’r Haf yma! Bydd cyfres gyffrous o atyniadau Ffair awyr agored yn llenwi’r Plass yng nghanol Bae Caerdydd – rhwng Cei’r Fôr-Forwyn a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mwynhewch ffefrynnau fel ‘Y Ceir Taro’ a ‘Tŷ Hwyl Parti’r Môr-ladron’, yn ogystal â reidiau amrywiol i blant a stondinau gemau i deuluoedd sy’n rhoi’r cyfle i ennill teganau enfawr.

Bydd dewis o ddanteithion tecawê melys a sawrus ar gael hefyd. Gweld y digwyddiad yma.

4. DIGWYDDIADAU CYFFROUS YNG NGHASTELL Ffwl-y-mwn

Penwythnos Môr-ladron 5 – 6 Awst

Peidiwch â methu penwythnos llawn antur gyda Môr-ladron  Castell Ffwl-y-mwn. Ai chi fydd y Barti Ddu nesaf? Profwch eich sgiliau gyda rhaffau a chlymau, cerddwch y planc, a beth am frwydr gynau dŵr gyda’n Môr-Ladron lleol!

Pantoland 2023 12 – 13 Awst

Mae Byd y Panto yn dod i Gastell Ffwl-y-mwn yr haf yma gyda chyfle i gwrdd â sêr y panto! O’r Weddw Tankey i Sinderela, cerddoriaeth fyw a gemau ar y lawnt, bydd hi’n benwythnos llawn hwyl a hud y Panto.

Dysgwch fwy yma.

5. RAFFTIO I’R TEULU YNG NGHANOLFAN DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Rhowch gynnig ar rafftio dŵr gwyn.  Yn fwy hamddenol na’r cwrs traddodiadol, mae sesiynau teuluol rafftio dŵr gwyn yn llawer o hwyl i’r teulu cyfan, gan roi cyfle i bawb brofi diwrnod antur teuluol bythgofiadwy ar y dŵr.

Reidiwch y dŵr gwyllt gyda’ch gilydd a chadwch le ar eich sesiwn yma.

6. TECHNIQUEST

Diwrnod allan fel dim un arall yr haf hwn, yng nghanol Bae Caerdydd!  Erbyn hyn mae gan Techniquest dros 50 o arddangosiadau newydd sbon sy’n aros i gael eu darganfod a byddan nhw ar agor bob dydd drwy gydol gwyliau’r haf er mwyn i chi ddod i’w gweld.

Beth bynnag yw eich oedran, mae digon i bawb allu ymgolli ynddo – gan gynnwys bwrdd llawdriniaeth rhithwir, wal corwynt a hyd yn oed efelychydd daeargryn. Ac os nad yw hynny’n ddigon, mae sioe theatr wyddoniaeth Dinosor newydd sbon ar gael i’w gweld hefyd. Archebwch eich tocynnau nawr!

7. PARC DŴR

Dewch i lithro, sblasio a chwerthin yn ystod gwylia’r haf ym mharc dŵr mwyaf Cymru! Mwynhewch dymor llawn o wefr ac o wlychu gyda’r tocyn tymor newydd sbon!

Gyda waliau dringo, trampolinau, barrau cydbwyso, llithrennau, blast bags a bariau mwnci, mae’n ddiwrnod heb ei debyg i grwpiau, teuluoedd, plant 8+ oed a phawb sy’n gaeth i adrenalin! Archebwch eich sesiwn ymlaen llaw yma.

8. TEITHIAU STIWDIO’R BBC

Chwilio am rywbeth gwahanol i ddiddanu’r plant dros wyliau’r haf? Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios mwyaf newydd a mwyaf datblygedig y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Ymunwch â staff tywys cyfeillgar ar daith unigryw y tu ôl i lenni stiwdios teledu a radio gyda thechnoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, rhith-realiti a chamerâu robotig.

Mae BBC Cymru Wales wedi derbyn gwobr Dewis Teithwyr Tripadvisor, a gwobr aur wych gan Croeso Cymru am ansawdd y teithiau. Chwiliwch am daith a chadwch le nawr yn bbc.co.uk/tours.

9. TEITHIAU CWCH CAERDYDD

Yr haf hwn mae Teithiau Cychod Caerdydd yn cynnig ein gwasanaeth tacsi dŵr poblogaidd ar fwrdd y Dywysoges Katharine – sy’n ddelfrydol ar gyfer teithio i Fae Caerdydd neu Barc Bute neu daith hamddenol awr o hyd o’r naill fan neu’r llall. Rydyn ni hefyd yn gyffrous fod ein cwch agored vintage 7 sedd Singfly ar gael – perffaith i deulu.

Mae’r Dywysoges Katharine yn gadael Bae Caerdydd ar yr awr bob dydd rhwng 10am a 4pm a gellir archebu Singfly dros y ffôn ar 07445440874 neu e-bostiwch cardiff.boat.tours@gmail.com. Bydd rhywun yn ein bwth ar y llwybr cychod isaf bob dydd rhwng 9.30am a 4pm lle cewch wybodaeth am y ddau gwch.

10. FFIESTA PÊL-DROED

Mae’r Football Fiesta ar agor ac yn edrych ymlaen at groesawu pob oed a gallu i’n Parc Ffans Pêl-droed dan do. Does dim ots beth yw lefel eich sgiliau, mae rhywbeth at ddant pawb ac rydyn ni ar agor bob dydd o’r gwyliau gyda hwyl i’r teulu, heriau tîm a mwy.

Rydyn ni hefyd yn cynnal ein sesiynau Bambino ar gyfer plant cyn-ysgol ar Foreau Iau; Sesiynau “Here Come the Girls” i ferched yn unig ar Brynhawn Iau a Sesiynau Tawel ar Nosweithiau Iau.  Mae croeso i bawb ddod draw, cael gwared â rhywfaint o stêm a chael llawer o hwyl! Archebwch yma nawr neu ffoniwch 0330 055 3263.

11. HWYL a DIGWYDDIADAU AM DDIM YN IKEA

Mae gan IKEA nifer o ddigwyddiadau am ddim i gadw’r plant yn brysur yn ystod gwyliau’r haf hwn.  Ewch i’r siop ar wahanol ddyddiadau o fis Gorffennaf i fis Medi i greu eich ffrâm llun wych eich hun, dylunio dreamcatcher, cystadlu yn erbyn eraill mewn gêm rasio rhithwir a helfa drysor i ddod o hyd i 12 eirth Bjorn o yn y siop!

A mwy – mae rhestr lawn yma. Peidiwch ag anghofio, rhaid i chi gadw slot amser i gymryd rhan – cadwch eich llefydd heddiw!

12. PARC BUTE

Parc Bute yw calon werdd y ddinas. Darganfyddwch nodweddion chwarae a llwybrau byd natur, canolfan ymwelwyr, tri chaffi yn ogystal â chyfoeth o elfennau garddwriaethol a bywyd gwyllt.

Crwydrwch drwy gasgliad gwych o goed mewn ardal eang o barcdir aeddfed. Mae Parc Bute yn safle Baner Werdd a pharc a gardd hanesyddol rhestredig CADW Gradd 1.  Dysgwch fwy yma.

13. MORGLAWDD BAE CAERDYDD

Yn berffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol neu daith ar gefn beic, mae’r Morglawdd mewn safle arforol trawiadol ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o Fae Caerdydd ac Aber Afon Hafren.

Gan ei fod yn wastad, mae’n hygyrch i bob ymwelydd. Cadwch olwg am y Croc yn y Doc!  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

14. SGWÂR CYHOEDDUS CASTELL CAERDYDD

Os ydych chi’n cynllunio taith i Gaerdydd ac eisiau man hyfryd i ymlacio ar ôl bod i’r siopau, neu rydych chi eisiau treulio amser gyda ffrindiau mewn lleoliad braf, dewch i’r sgwâr cyhoeddus.

Mae mynediad am ddim yn cynnwys y Sgwâr Cyhoeddus, Teras y Gorthwr, Siop Anrhegion, Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr a thoiledau cyhoeddus. Bydd detholiad o brydau bwyd, byrbrydau

15. AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN

Un o amgueddfeydd awyr agored gorau’r byd, gallwch weld dros hanner cant o adeiladau gwreiddiol a ail-godwyd o wahanol leoliadau yng Nghymru ac o gyfnodau hanesyddol gwahanol yn y parc 100 erw hwn. Mae pob adeilad wedi ei ddal mewn amser ac yn agor drws ar hanes Cymru gan gynnig cipolwg i ni ar y gorffennol.

Mae gan yr amgueddfa hon le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru gan mai amgueddfa’r bobl yw hi, lle gallwch archwilio hanes gyda’ch gilydd drwy fywydau bob dydd pobl.  Dysgwch fwy yma.

16. TEITHIAU STADIWM PRINCIPALITY

Camwch y tu ôl i lenni Stadiwm Principality a dilynwch ôl troed eich arwyr rygbi.

Bydd ein tywyswyr teithiau arbenigol yn mynd â chi ar daith, gan rannu ffeithiau a mewnwelediadau hwyliog o hanes digwyddiadau’r stadiwm o fyd rygbi, y goreuon o fyd bocsio, pêl-droed a chwaraeon modur i gyngherddau gan gewri roc a rol fel y Rolling Stones, U2, Beyoncé a Jay-Z. Profiad i beidio â’i golli! Archebwch eich tocynnau nawr!

 


Peidiwch ag anghofio, dim ond blas bach o bopeth sydd ar gael yng Nghaerdydd yr haf yma yw hwn, edrychwch ar ein  tudalennau Gweld a Gwneud a Digwyddiadau am fwy!


 

LLETY I DEULUOEDD

HOLIDAY INN EXPRESS BAE CAERDYDD

Beth am becyn gwyliau haf bach hyfryd i’r teulu? (2 oedolyn, 2 blentyn yn rhannu).  Gan gynnwys brecwast bob dydd a phrif gwrs bob nos i bawb, gyda photel o win i’r oedolion ei rhannu, a chymaint o ddiodydd meddal â chi eisiau i’r plant.

Wedi’i leoli ger y môr yn Hen Dociau Bae Caerdydd, a dim ond 15 munud o canol y ddinas – perffaith i weld yr ardal leol! Gwybodaeth a phrynu yma.

VOCO ST DAVID’S, CAERDYDD

Yr Admiral yn voco® St Davids Caerdydd yw ein bwyty a’n bar eclectig. Mae’r blasau cryf yn dwyn ysbrydoliaeth o ddiwylliannau bwyd y byd ac yn cyd-fynd yn berffaith â’r cynnyrch tymhorol gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.

Maen nhw hefyd yn ystyriol o deuluoedd ac yn cynnig ystafelloedd rhyng-gysylltiedig neu ystafell deuluol, sy’n cynnwys dau wely dwbl.  Darganfyddwch fwy ac archebwch eich arhosiad yma.


Oeddech chi’n gwybod bod y rhan fwyaf o westyau Caerdydd yn cynnig ystafelloedd teuluol pwrpasol ar draws y Ddinas? Ewch i’n tudalen Aros am fwy o ddewisiadau.


 

GWYBODAETH YMARFEROL

BYSUS

Mae Bws Caerdydd yn cynnal gwasanaethau haf arbennig fel y gallwch fwynhau eich arhosiad gan gynnwys gostyngiadau ar  docynnau teuluol yn ystod gwyliau’r ysgol. Dysgwch fwy yma.

TRENAU

Cofiwch wirio Gwiriwr Capasiti’r trên ar wefan Trafnidiaeth Cymru cyn i chi brynu eich tocynnau, mae hyn yn helpu i nodi’r trenau sy’n aml yn llawn a’r rhai sydd â digon o seddi ar gael.

 

For further information on getting around, parking, mobility buggies & maps, check out our Visitor Information page.