Beth wyt ti'n edrych am?
Nadolig ym Mharc Bute 2026
Dyddiad(au)
19 Tach 2026 - 31 Rhag 2026
Amseroedd
16:15 - 20:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
MAE NADOLIG YM MHARC BUTE YN DYCHWELYD I GAERDYDD GYDAG ARLWY O RYFEDDODAU GAEAFOL
Mae llwybr golau mwyaf Cymru yn dychwelyd i galon prifddinas Cymru y gaeaf hwn, gyda thaith newydd sbon drwy Ysbryd y Nadolig.
Eleni, bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i archwilio pedwar byd hudol; Llawenydd, Gobaith, Rhyfeddod a Hud – pob un yn dod â’i awyrgylch unigryw ei hun, goleuadau ysblennydd a syrpreis Nadoligaidd. Gyda llwybr wedi’i ail-ddychmygu, gosodiadau newydd sbon mae digon i’w ddarganfod ar hyd y ffordd.
Bellach yn atyniad mawr yn y gaeaf, mae’r Nadolig ym Mharc Bute yn croesawu hyd at 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ddod â phobl o bob oed a chefndir at ei gilydd i fwynhau goleuadau o’r radd flaenaf ochr yn ochr â gwaith celf a chreadigrwydd gan dalent Cymreig newydd.
Ac mae mwy iddo na’r goleuadau. Gall selogion bwyd fwynhau bwyd stryd blasus gan fasnachwyr lleol, tra bod Tafarn Parc Bute yn cynnig encil clyd yn ei gaban arddull Alpaidd wedi’i gynhesu, y lle perffaith i eistedd yn ôl, mwynhau diod Nadoligaidd ac amsugno’r amgylchedd disglair.