Beth wyt ti'n edrych am?
Padlfyrddio Gyda Stand Up Paddle UK – Rhan 1
Treuliodd Dale a Darren o Stand Up Paddle UK ychydig ddyddiau yn archwilio glannau Caerdydd ar eu padlfyrddau, gan aros yn un o westai mwyaf crand y ddinas a darganfod popeth sydd ar gael ar dir sych y Bae hefyd!
DIWRNOD 1
CYRRAEDD CAERDYDD
Cyrhaeddodd dydd Gwener ac roeddwn i a Darren yn barod am antur Padlfyrddio arall. Roedd Paldfyrddau ac offer lond y car a bant â ni – y ddau ohonom yn cychwyn o wahanol leoliadau.
Roedden ni am roi cynnig ar Gaerdydd ac roedd y ffaith bod cyfleoedd niferus i fwynhau chwaraeon dŵr yno er ei bod yn ddinas yn atyniad. Mae DGRhC, canolfan dŵr gwyn Caerdydd yn y ddinas, ac yma gallwch badlo ar yr afon leol neu roi cynnig ar badlfyrddio ar y lagŵn, rafftio dŵr gwyn, a gweithgareddau amrywiol eraill yn seiliedig ar ddŵr. Mae ganddyn nhw beiriant syrffio o’r enw Ton Dan Do hyd yn oed.
Gadewais Nottingham gyda fy nheulu am 4pm ac roedd y daith yn hwylus iawn, yn gyrru i Fae Caerdydd a chyrraedd tua 7pm. Roedd Darren yn dod o Swydd Bedford felly roedd awr ychwanegol o deithio iddo fe.
VOCO ST DAVID’S CARDIFF
Wrth gyrraedd y Gwesty roedd hi’n amlwg pam mae’n westy 5*. Roedd y lobi’n drawiadol iawn ac roedd y lletygarwch yn wych. Roedd yr ystafelloedd yn Voco yn anhygoel, roedd gan y ddwy olygfeydd eang iawn dros y bae – ac am olygfeydd anhygoel! Gan ein bod wedi teithio yn y car fe wnaethon ni adael ein hoffer ynddo, ond rwy’n siŵr y byddai’r gwesty wedi eu storio pe bai angen.
BAE CAERDYDD
Gan fod Darren yn cyrraedd yn hwyrach yn y dydd, aethon ni am dro byr i Gei’r Fôr-forwyn, yn agos iawn i’r gwesty, lle’r oedd llawer o fwytai a barau gyda golygfeydd gwych dros y dŵr. Fe grwydron ni ychydig a mynd ar fersiwn Caerdydd o’r Olwyn Fawr (mae yno yn ystod misoedd yr haf), gan fwynhau golygfeydd ysblennydd dros y Bae yn ystod y machlud! Yna tamaid cyflym i’w fwyta ac yn ôl i’r gwesty am noson dda o gwsg. Pan gyrhaeddodd Darren ychydig yn hwyrach, gwerthfawrogwyd y cofrestru a’r derbyn rhwydd iawn! Roedd yr ystafelloedd yn Voco yn anhygoel, roedd gan y ddwy olygfeydd eang iawn dros y bae – ac am olygfeydd anhygoel!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Rhan 2 o benwythnos Padlfyrddio Darren a Dale yng Nghaerdydd!
VLOG – DIWRNOD 1
SUPUK yn ymweld â Chaerdydd a Voco Gwesty Dewi Sant