Neidio i'r prif gynnwys

Padlfyrddio Gyda Stand Up Paddle UK – Rhan 2

Treuliodd Dale a Darren o Stand Up Paddle UK ychydig ddyddiau yn archwilio glannau Caerdydd ar eu padlfyrddau, gan aros yn un o westai mwyaf crand y ddinas a darganfod popeth sydd ar gael ar dir sych y Bae hefyd!

DIWRNOD 2

CANOLFAN DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Ar ôl brecwast, aethon ni draw i gofrestru yn DGRhC. Roedd hi’n agos iawn i’n gwesty, 5 munud mewn car. Gwnaethon ni baratoi ein byrddau yn y maes parcio ac yna lawr i’r dŵr â ni. Os ydych chi eisiau padlo ar yr afon mae taliad bach o £5 ac mae angen mewngofnodi yn y dderbynfa, felly dyna wnaethon ni. Ein cynllun oedd mynd i fyny Afon Elái am ryw 2 filltir gan fod y tywydd braidd yn amheus ac roedd gennym gynlluniau prynhawn gyda’n partneriaid. Fe wnaethon ni newid yn y maes parcio, ond mae cyfleusterau newid a thoiledau ar gael yn y ganolfan.

Gwnaethon ni gario ein byrddau drwy’r gatiau ochr ac i lawr ambell ris i’r pontŵn yn hawdd. Roedd yn braf iawn cael lansio yn y marina. Wrth fynd i’r dde, roedd yr afon wedi’i diogelu’n dda rhag gwyntoedd felly roedd yn teimlo fel padliad hawdd. Mae’n ddechrau braf, yn mynd drwy’r cychod yn y marina a’r adeiladau uchel yn gefnlen. Roedd yr Afon yn wag felly roedd yn hawdd iawn i ni. Gwnaethon ni ychydig dros 4 milltir mewn 1awr 20 munud. Ar ôl i ni adael y dŵr, dyma bacio’r offer yn ôl i’r car a gyrru’n ôl i’n gwesty.

YN ÔL AR DIR SYCH…

Pan oeddwn i’n padlo, aeth fy ngwraig a’n merch i Techniquest, atyniad gwyddoniaeth ym Mae Caerdydd ac fe chwaraeon nhw am oriau yno tan i ni ddychwelyd. Un peth sy’n dda am badlo yn y ddinas yw bod digon i weddill y teulu ei wneud.  Fe lwyddon ni i archebu lle ym mhwll nofio a sba’r gwesty gyda’r nos a nofio a chael sawna cyn swper.

Aeth Darren a’i bartner i siopa.  Roedd canolfan siopa Dewi Sant yn fywiog, yn brysur ac yn llawn siopau. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl! Roedd digonedd o barcio a digon o opsiynau ar gyfer cinio.

SYNIAD DA! Mae Darren yn argymell bwyty Yakatori1 yng Nghei’r Fôr-Forwyn…

“Ymhlith y Sushi gorau dwi erioed wedi ei gael.”

VLOG – DIWRNOD 2

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ac Afon Elái…

DIWRNOD 3

TREM Y MÔR

Ddydd Sul, fe wnaethon ni fwynhau brecwast gwych arall ac ailwefru ein batris cyn cyfarfod yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr. £5 i gael mynediad i’r afon fesul bwrdd, parcio am ddim a mynediad hawdd, ddim yn ddrwg o gwbl. Cwrddon ni am ambell badlwr lleol a bant â ni i fyny Afon Taf. Mae’r llwybr hwn yn ardderchog, yn enwedig i’r rhai sy’n caru stadiymau.  Fe badlon ni heibio i Stadiwm Principality, roedd y golygfeydd o’r dŵr yn cŵl iawn. Cefnlen wahanol iawn i lwybrau padlo eraill heb os!

Mae’r afon yn eang iawn ar waelod Bae Caerdydd, yn culhau ac yn mynd yn eithaf bas ar ôl i chi gyrraedd Castell Caerdydd. Gwnaethon ni lwybr 5.5 milltir mewn 2 awr ac 20 munud. Gwyliwch am y cychod sy’n cludo teithwyr i fyny ac i lawr afon Taf – maen nhw’n gadael eu hôl ar y dŵr!!

Ychydig cyn dod i ffwrdd, fe wnaethom hefyd badlo allan i’r Bae i weld y golygfeydd dros y gwesty a’r cychod hwylio mawr. Roedd y dŵr yma yn llonydd iawn ac yn wahanol iawn i badl afon. Mae’n werth sicrhau eich bod yn deall y bwiau i wneud yn siŵr eich bod yn padlo’n ddiogel.

Ar ôl y padlo aeth pawb i wahanol gyfeiriadau.  Dechreuodd Darren ar ei siwrnai adref, ac es i a fy nheulu i Gastell Caerdydd – atyniad gwych arall yn y ddinas.

Os ydych chi’n chwilio am daith i rywle gwahanol ac am rhoi cynnig ar chwaraeon dŵr hawdd mewn dinas, rydym yn bendant yn argymell ychwanegu Caerdydd at eich rhestr!

Ydych chi wedi darllen Rhan 1 o benwythnos padlfyrddio Darren a Dale yng Nghaerdydd?

VLOG – DIWRNOD 3

Trem y Môr, ewch ymlaen a phadlo i fyny Afon Taf…

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.