Neidio i'r prif gynnwys

Penwythnos Dieflig: Sut I Dreulio 2 Noson Yng Nghaerdydd Fel Cefnogwr Hoci Iâ

Felly rydych chi’n teithio i Gaerdydd i wylio eich hoff dîm yn herio’r Cardiff Devils ac rydych chi’n ceisio penderfynu beth i’w wneud â gweddill eich amser tra byddwch chi yma. Dyma’r lle y cewch chi’ch atebion. Rydyn ni wedi creu amserlen yn arbennig ar gyfer ffans hoci, gan daro cydbwysedd perffaith rhwng gweithgareddau chwaraeon fydd yn eich llenwi ag adrenalin, atyniadau twristaidd na ddylech eu methu, golygfeydd hardd a threftadaeth a diwylliant Cymreig.

Awgrym: er mwyn osgoi cael eich siomi, archebwch lefydd a thocynnau o flaen llaw.

 

Diwrnod 1

3pm-4pm | Cyrraedd eich Gwesty

Os ydych chi eisiau difetha eich hun beth am archebu stafell yn Voco St David’s am y penwythnos? Mae’r gwesty moethus mewn lleoliad delfrydol yn edrych dros y dŵr, gydag ystafelloedd mawr, modern a moethus. Dyma’r unig westy 5 seren yng Nghaerdydd. Mae Voco St Davids yn cynnwys bwyty a bar eclectig yr Admiral. Mae gan y Sba yng ngwesty Dewi Sant bwll nofio mawr a sawna. Amser i setlo i mewn yn barod ar gyfer y noson sydd o’ch blaenau.

Neu am opsiwn mwy fforddiadwy, beth am westy canolog y Clayton?

3pm-5pm | Beth am Fowlio? | Hollywood Bowl

Y cam nesaf yw Canolfan y Ddraig Goch, sy’n cynnwys yr Hollywood Bowl – ale fowlio gyda goleuadau llachar mewn arddull Americanaidd gyda gemau a bwyd bar. Ymlaciwch a gweld pwy yw’r bowliwr gorau.

6pm-7:30pm | Cinio ar y Cei | Cei’r Fôr-Forwyn

Nawr eich bod yn barod i fynd, mae’n bryd crwydro ac archwilio’r hyn sydd gan Fae Caerdydd i’w gynnig. Dafliad carreg o’ch gwesty, fe ddewch o hyd i ganolfan fyrlymus a bywiog Cei’r Fôr-Forwyn – sy’n cynnig dewis o fwytai, bariau a lleoliadau.

7:30pm-10pm | Gadewch i ni eich diddanu

Nawr eich bod wedi cael eich bwyd a diod, mae’n bryd setlo i lawr a gwylio sioe. Gyda rhywbeth at ddant pawb, mae’n siŵr na fydd Cei’r Fôr-Forwyn yn siomi.  Byddem yn argymell edrych ar yr hyn sydd ymlaen yng Nghlwb y Glee os mai comedi byw sydd at eich dant, ond os ydych am ddal perfformiad theatrig byw yna mae Canolfan eiconig Mileniwm Cymru yn cynnig amrywiaeth o sioeau teithiol. A sioeau gan gwmnïau theatr lleol.  Fel arall, gwnewch eich hun yn gartrefol yn yr Everyman sy’n cynnig amrywiaeth o ffilmiau Indie mewn amgylchedd cyfforddus a hamddenol.

 

Diwrnod 2

Mae’n amser deffro ar ôl eich noson allan a’ch noson gyfforddus, ymlaciol yn eich gwesty.

8am-10am | Archwilio’r Glannau

Rydych chi wedi gweld sut mae Bae Caerdydd yn edrych yn y nos, ond mae rhywbeth heddychlon a phrydferth am y glannau yn y bore, cyn y bwrlwm pan fydd pobl yn dechrau ymgynnull.  Felly mae’n amser delfrydol i fynd am dro a gweld rhai o’r adeiladau unigryw yn y Bae.  Cadwch lygad allan am adeilad y Senedd, sy’n gartref i Senedd Cymru, ynghyd ag adeilad y Pierhead, sy’n enwog am ei gloc ‘Big Ben bach’, yr Eglwys Norwyaidd hanesyddol a Stiwdios y BBC ym Mhorth y Rhath. Daliwch ati ar hyd Llwybr Bae Caerdydd ac fe welwch y morglawdd sy’n codi i adael i gychod a llongau gael mynediad i’r ddinas, ond cadwch lygad  am gerfluniau a henebion unigryw ar y ffordd. Ar ôl eich taith gerdded i’ch deffro, ewch yn ôl i’r gwesty am frecwast swmpus ac i baratoi ar gyfer rhan nesaf eich antur.

10am-11am | I mewn i’r ddinas 

Nawr eich bod wedi dod i adnabod y Bae, mae’n bryd mynd i ganol y ddinas, cyn dychwelyd ar gyfer y gêm fawr heno! Felly beth yw’r ffordd orau o fynd i mewn i’r ddinas, meddech chi?  Mae gan Gaerdydd sawl tric i fyny ei llawes, Ein hargymhelliad cyntaf yw mynd â bws dŵr o Gei’r Fôr-Forwyn i Barc Bute, yng nghanol y dref.  Mwynhewch daith hamddenol ar hyd Afon Taf, a dysgwch ychydig o hanes ar y ffordd gan y tywysydd teithiau. Fel arall, os ydych am gael mwy o hyblygrwydd, rydym hefyd yn ffans mawr o’r bysiau deulawr agored ‘City Sightseeing’ – yn syml, talwch am y diwrnod a gallwch esgyn a disgyn o’r bws fel y dymunwch, gan ddysgu am hanes a diwylliant unigryw’r ddinas wrth i chi deithio.

11am-1pm | Antur y Castell

Castell Caerdydd heb os yw tirnod mwyaf eiconig Caerdydd a’r atyniad twristaidd mwyaf poblogaidd, ac mae rheswm da dros hynny. Mae’n llawn hanes cyfoethog a straeon arswyd. Darganfyddwch yr ardd do gyfrinachol, y gorthwr Normanaidd, llochesau rhyfel, amgueddfa filwrol ‘Firing Line’ ac ystafelloedd wedi eu hadfer yn hardd. Mae wir yn rhyfeddod!

Gair o Gyngor: Holwch am yr ysbrydion i gael clywed straeon rhyfeddol.

1pm-2:30pm | Cinio

Amser i gymryd seibiant a llenwi’ch stumog ar gyfer y diwrnod sydd i ddod; ychydig rownd y gornel o’r Castell mae Honest Burger, sy’n cynnig byrgyrs cartref yn cynnwys seigiau lleol misol, wedi’u gweini â’u sglodion rhosmari arbennig. Yn teimlo fel rhywbeth gwahanol? Drws nesaf, fe ddewch o hyd i Pho, sy’n cynnig cwisîn Fietnameaidd, sef nwdls, prydau o reis, cyri – byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth unigryw.

 

2:30pm-4:30pm | Cymerwch ran!

Iawn te, rydych chi wedi cyrraedd y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, cartref Arena Iâ Cymru lle mewn ychydig oriau byddwch chi’n gwylio’r Cardiff Devils mawrion yn mynd benben â’ch hoff dîm.. Ond peidiwch sefyll ar y cyrion yn unig, mae’n amser am hwyl o ddifri! Ein cyrchfan o ddewis yw Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ac mae’n amser am chwaraeon dŵr eithafol. Wedi’r cyfan, ry’ch chi ffans hoci’n rêl bois, on’d ‘ych chi ddim?

 

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn gyfleuster antur cyffrous, sy’n cynnig rhywbeth i anturwyr o bob oedran a gallu ac yn cynnig ystod eang o gyrsiau chwaraeon dŵr. Llywiwch drwy ddyfroedd garw’r cwrs rafftio dŵr gwyn; neu efallai bod canŵio neu gaiacio’n fwy at eich dant chi?

 

I’r rhai ohonoch a allai fod wedi cael digon o antur am un diwrnod, neu efallai y byddai’n well gennych orffwys ac ymlacio, dim ond un lle sydd amdani sef Pwll Rhyngwladol Caerdydd, ychydig dros y ffordd. Ry’n ni’n argymell awr neu ddwy yn yr Ystafell Iechyd, lle gallwch fanteisio’n llawn ar y sawna, yr ystafell stêm a’r sba a byddwch yn gadael wedi’ch adfywio a’ch bywiocau.  Mae’r cyfleuster hefyd yn cynnig pwll nofio Olympaidd 50m, ac i’r rheiny ohonoch sydd â rhai bach mae pwll hamdden gyda sleidiau troellog, teganau, offer aer a fflotiau sy’n llawer o hwyl.

 

4:30pm-6pm | Hoe yn y gwesty cyn y gêm fawr

Ar ôl i chi brofi eich antur egnïol eich hun, mae’n bryd mynd yn ôl i’ch gwesty i ‘molchi a newid ar gyfer y noson i ddod. Bachwch damaid i’w fwyta ym mwyty a bar y gwesty, yna gwnewch eich ffordd yn ôl i’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar gyfer y gêm fawr.

 

6pm – 10pm | Barod am y gêm!

Nawr mae’n amser bachu peint, dod o hyd i’ch seddi, eistedd yn gyfforddus a mwynhau’r gêm!

10pm-hwyr | Ymhle mae’r Parti?

Efallai bod y gêm drosodd, ond dyw’r noson ddim. Coctels yn Pitch? Os oes arnoch chi awydd partio tan oriau mân y bore, ewch mewn tacsi i ganol y ddinas. Heol Eglwys Fair a Lôn y Felin yw’r llefydd i fynd am goctels; Stryd Womanby am gerddoriaeth fyw mewn  lleoliadau annibynnol difyr, ac os ydych chi’n chwilio am glybiau nos, sdim angen mynd dim pellach na Heol y Brodyr Llwydion.

 

Diwrnod 3

Ar ôl diwrnod yn archwilio’r ddinas, gwylio’r gêm a diod neu ddau (ac efallai ychydig mwy!) ddoe – mae gennym fore haws wedi’i gynllunio ar gyfer eich taith adref.

10am-12pm | Camu’n Ôl mewn Amser

Dechreuwch y bore trwy brofi ychydig o hanes Cymru.  Nid adeilad amgueddfa nodweddiadol yw Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – yn gyntaf oll nid un adeilad yn unig ydyw, ond casgliad o adeiladau hanesyddol, sydd wedi cael eu hadfer yn ofalus gan eu curaduron.

 

12pm-1.30pm | Archwilio’r Maestrefi

Rydym yn argymell un ymweliad olaf cyn mynd yn ôl adref, i faestref ddeiliog hardd yr Eglwys Newydd. Mae’r gymuned hanesyddol hon yn gartref i ddetholiad o fariau, bwytai a bariau boutique yn y stryd fawr. Mae’n berffaith ar gyfer pryd o fwyd a choffi olaf i’ch cadw i fynd wrth i chi fynd adref!