Neidio i'r prif gynnwys

Rygbi'r Chwe Gwlad yng Nghaerdydd: Cynlluniwch eich Diwrnod yn y Gêm

26 Ionawr 2023


 

Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod â thocynnau ar gyfer un o gemau’r Chwe Gwlad, neu’n gwylio yn y dafarn dros ddiod, mae ambell beth sydd angen i chi eu gwybod.

CYRRAEDD CAERDYDD

Mae’r ddinas yn mynd yn hynod o brysur ar ddiwrnodau gemau felly argymhellir eich bod yn cynllunio eich taith a’ch trafnidiaeth ymlaen llaw – cofiwch ystyried eich taith adref hefyd!

Pan fyddwch yng nghanol y ddinas, byddwch ynghanol awyrgylch gwych diwrnod rygbi, gyda Stadiwm Principality, bariau, bwytai, siopau ac atyniadau oll o fewn pellter cerdded hawdd.

Darllenwch y tudalennau newyddion i weld cyngor a gwybodaeth am y ffyrdd fydd ar gau, trenau, bysus, tacsis a gwasanaethau parcio a theithio.

 

BWYD A DIOD

Efallai y bydd angen i chi fwyta ac yfed digon o flaen llaw i’ch cadw i fynd drwy gydol diwrnod prysur y gêm. Mae angen cadw byrddau ymlaen llaw yn y rhan fwyaf o fariau a bwytai oherwydd y galw mawr. Porwch ein hadaran Bwyta ac Yfed a chadwch eich bwrdd i osgoi cael eich siomi.

Yn cael trafferth dod o hyd i fwrdd? Beth am ei throi hi am Stryd Caroline am gyri a sglods i’ch cynnal?

ATYNIADAU

Gwnewch yn fawr o’ch ymweliad â Chaerdydd drwy ymweld ag atyniadau eraill yn y ddinas tra byddwch chi yma? Mae llawer o bethau anhygoel i’w gweld dafliad carreg yn unig o Stadiwm Principality, gan gynnwys Castell eiconig Caerdydd ac Amgueddfa Cymru neu os oes gennych ychydig mwy o amser, gallech chi fynd ar fws neu gwch neu gerdded i Fae Caerdydd i ddarganfod treftadaeth a diwylliant y glannau.

Mae manylion am ragor o atyniadau ar ein gwefan.

 

ARDALOEDD CEFNOGWYR

Mae Parc yr Arfau Caerdydd yn cynnig Ardal Cefnogwyr ar gyfer y gemau cartref yn erbyn Iwerddon (Sad 4 Chwefror) a Lloegr (Sad 25 Chwefror), y gellir eu cyrraedd o’u mynedfa wrth ymyl Porth 2  Stadiwm Principality (Heol y Porth). Mae mynediad am ddim i leoliad gwych lle gallwch fwynhau profiad diwrnod gêm, gyda bwyd, diod a setiau acwstig byw cyn ac ar ôl y gêm.

GWASANAETHAU I YMWELWYR

Os ydych chi’n anghyfarwydd â Chaerdydd mae mapiau Canol y Ddinas ar gael i’w lawrlwytho o’n Tudalen mapiau, neu galwch heibio i’n Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr yng Nghastell Caerdydd i gasglu map a dysgu mwy am atyniadau lleol.

Mae ein tudalen Tips i Dwristiaid hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys ambell ymadrodd Cymraeg sylfaenol y gallwch eu defnyddio i greu argraff ar eich ffrindiau!

 

COFRODDION

Cofiwch sicrhau cyfle i godi het gennin Pedr, dafad o degan o Gymru, neu hyd yn oed draig, i sicrhau tân yn y bol dros Gymru.  Gallwch hefyd godi sgarff i goffáu’r gêm a chael eich wyneb wedi’i baentio ar gyfer yr achlysur.

I gael crysau rygbi a chofroddion Cymreig, mae nifer o siopau i bori ynddynt, gan gynnwys Siop Undeb Rygbi Cymru ar Heol y Porth, Siop Roddion Castell Caerdydd a’r siop ‘Castle Welsh Crafts’ i enwi dim ond rhai.

PECYN LLETYGARWCH

Os ydych chi’n chwilio am ffordd foethus i fwynhau’r diwrnod mawr, beth am edrych ar becyn lletygarwch unigryw Gwesty’r Parkgate – lle maen nhw’n gweini pryd tri chwrs a diodydd, gyda’ch tocynnau wedi’u cynnwys yn y pris.

 

LLETY

Dylid trefnu llety ymhell ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi. Fodd bynnag, os hoffech gael ystafell ar y funud olaf, argymhellir i chi gysylltu â gwestai’n uniongyrchol. Mae ein hadran Llefydd i Aros yn rhestru opsiynau ar gyfer pob chwaeth a chyllideb, o westai sba i fflatiau hunanarlwyo.

Y GÊM

Oes gennych chi docyn? Darllenwch y cyngor a gyhoeddir gan Undeb Rygbi Cymru cyn cyrraedd. Sicrhewch eich bod yn gwybod pa giât i’w ddefnyddio i fynd i’r Stadiwm, a gwnewch yn siŵr eich bod yno mewn da bryd.

Mae yna hefyd lawer o dafarndai a bariau chwaraeon ger y stadiwm gyda setiau teledu sgrin fawr i wylio’r gêm a mwynhau  awyrgylch diwrnod y gêm gyda chyd-gefnogwyr. Chwilio am le i gael hoe? Darllenwch ein canllaw i fariau a thafarndai – gan gynnwys ambell fan lle cewch groeso Gwyddelig gyda pheint o Guinness.

 

RHANNWCH EICH PROFIADAU

Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld cefnogwyr yn mwynhau’r rygbi yn ein prifddinas wych, felly tagiwch ni yn eich hunluniau gan ddefnyddio #CroesoCaerdydd @CroesoCaerdydd. 🏉

Nawr bod yr wybodaeth gennych, mwynhewch mas draw lle bynnag y byddwch yn gwylio’r Chwe Gwlad.