Beth wyt ti'n edrych am?
TE PRYNHAWN YN ADDAS I FRENHINES!
Ewch i fwynhau un o hoff brydau bwyd y Frenhines – te prynhawn! P’un a fyddai’n well gennych ddewis rhywbeth traddodiadol, neu un gyda choctels, rydym yn cynnig popeth i bawb!
Edrychwch ar y llu o opsiynau blasus o amgylch y Ddinas y penwythnos jiwbilî hwn.
Te Prynhawn Cymreig Gwych yn Voco, Gwesty Dewi Sant
Ymunwch â ni ddydd Iau 2 – dydd Sul 5 Mehefin am de prynhawn arbennig iawn.
Byddwn yn gweini ein te prynhawn Cymreig gwych gyda rhai cyffyrddiadau brenhinol a choctels jiwbilî hefyd. Bydd cerddoriaeth acwstig fyw hefyd ar y pedwar diwrnod i ddathlu. Bydd yn de addas i frenhines!
Cadwch eich bwrdd yma
Te Prynhawn Jiwbilî Siampên yng Nghastell Hensol
Ymunwch â ni ar 2 Mehefin 2022 i ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines yng Nghastell Hensol. Te Prynhawn blasus gyda gwydraid am ddim o siampên yw’r ffordd berffaith o ddathlu, a bydd y lleoliad hardd yn siŵr o wneud i chi deimlo fel aelod o’r teulu brenhinol. Pa ffordd well o ddathlu achlysur brenhinol nag mewn castell o’r 17eg ganrif? Caiff ei weini yn ein cwrt.
- Bydd eich Te Prynhawn Jiwbilî yn cynnwys:
- Dewis o frechdanau
- Hoff ddanteithion melys traddodiadol
- Pot poeth o’ch hoff de
- Gwydraid am ddim o Siampên
1-3pm | £30 y pen
01443 665803 | www.hensolcastle.com
Pecyn Dathlu yng Ngwesty’r Clayton
Bydd y Frenhines Elizabeth II wedi teyrnasu am 70 mlynedd ym mis Mehefin eleni. Yma yn Clayton Caerdydd, byddwn yn dathlu Gŵyl Banc y Jiwbilî o ddydd Llun 23 Mai i ddydd Mawrth 7 Mehefin. Tair hwrê i’w Mawrhydi!
Dewch i ymuno â’n bwyty ar thema’r Jiwbilî gyda the Prynhawn traddodiadol, wedi’i ddatblygu’n arbennig ar gyfer yr achlysur. Chwilio am ragor i’w wneud? Arhoswch am noson gyda’n pecyn Jiwbilî! Dathlwch fel brenhines gyda the prynhawn jiwbilî wedi’i ddatblygu’n arbennig, arhosiad dros nos yn un o’n hystafelloedd mawr a disglair yn ogystal â brecwast llawn gan gynnwys ein ‘Brecwast Bywiogrwydd’
Archebwch De Prynhawn y Jiwbilî yma ac archebu Pecyn Dathlu’r Jiwbilî yma.
Llety a Chinio Moethus yng Ngwesty’r Gyfnewidfa
Dathlwch y jiwbilî blatinwm a’r penwythnos estynedig mewn moethusrwydd yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd gyda phrisiau’n dechrau o £70 y pen y noson yn unig. Ymlaciwch yn eich ystafell frenin ynghyd â’ch baddon sba dwbl eich hun ac er mwyn ei wneud yn ddathliad gwirioneddol frenhinol, byddwn yn cynnwys potel o Prosecco a brecwast AM DDIM!
I archebu – ffoniwch ein tîm ar 02921 991 904 a dyfynnwch ‘Jiwbilî’ neu anfonwch neges atom trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Telerau ac Amodau – yn seiliedig ar ddau berson yn rhannu ystafell frenin. Ar gael dydd Iau 2 i ddydd Sul 5 Mehefin 2022.
Culley’s Kitchen and Bar:
Ymunwch â ni yng nghanol Tiger Bay ar gyfer dathliad gŵyl banc gwirioneddol Brydeinig. O ddydd Iau 2 i ddydd Sul 5 2022, mwynhewch ein bwydlen te prynhawn neu frecinio traddodiadol gyda the a choffi hidlo diderfyn am £25 y pen yn unig. Os ydych chi’n teimlo fel dathlu, gallwch uwchraddio am £10 y pen a mwynhau 90 munud o goctels Prosecco, Pimm’s neu Jin Gordon’s di-waelod.
I archebu – ffoniwch ni ar 02921 991 904, opsiwn 3 neu cliciwch yma.
Te Prynhawn ar Thema Wimbledon yng Ngwesty’r Angel
Dathlwch benwythnos y Jiwbilî gyda ni! Mwynhewch ein te prynhawn ar thema Wimbledon ym mis Mehefin am £25.00 yn unig ar gyfer dau neu £35.00 ar gyfer dau ynghyd â choctel Pimm’s.
Mwynhewch glasuron fel sbwnj Fictoria, jeli Pimm’s, brechdanau ciwcymbr, rholiau cyw iâr y coroni ac wrth gwrs, sgons gyda hufen a jam.
Cadwch eich bwrdd yma.
Te Prynhawn Jiwbilî’r Frenhines yn Laguna Bar and Kitchen
I ddathlu achlysur nodedig iawn, rydym yn lansio ein ‘Te Prynhawn Jiwbilî’r Frenhines’. Byddwn yn gweini’r te prynhawn arbennig ac unigryw hwn trwy gydol mis Mehefin 2022. Byddwn hefyd yn gweini Te Prynhawn Traddodiadol, Te Prynhawn Bonheddwyr, a’n Te Prynhawn Hendrick’s poblogaidd yn ogystal â’n cynnig newydd.
Mae ein cogydd a’i dîm wedi creu’r profiad Te Prynhawn mwyaf anhygoel hyd yma! Bydd gwesteion yn dechrau eu dathliad yn mwynhau deuawd cynnes o Fyrgyr Cig Carw (un o ffefrynnau ei Mawrhydi) a Pharsel Coron Mango a Brie, ac yna detholiad gwych o frechdanau i gynnwys ffefryn mawr arall, Cyw Iâr y Coroni mewn byn â hadau. Mae’r haen ganol yn cynnwys ffefrynnau eraill: Sgons Ffrwythau a Cheiniogau Jam. Mae’r haen uchaf yn llawn danteithion gwych – Jeli Pimm’s, Tarten Goron Peach Melba, y Deisen Fisgedi Gwenith enwog, a Sbwnj Fictoria. Caiff pob un ei weini â dewis o de rhydd o’n Gerddi Te Waterloo lleol.
Archebwch ar-lein yma.