Neidio i'r prif gynnwys

Ffocws Mwy Craff ar Techniquest

18 Mai 2023 · Techniquest


 

MAE GWEFAN TECHNIQUEST WEDI EI GWEDDNEWID YN LLWYR, GAN ROI FFOCWS LLAWNACH NAG ERIOED AR Y GANOLFAN DARGANFOD GWYDDONIAETH YM MAE CAERDYDD.

Gan weithio ochr yn ochr â’r asiantaeth ddigidol CORE, mae’r tîm wedi cyflwyno safle sy’n ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid weld beth sy’n digwydd pryd, ac ar gyfer pwy mae’r gweithgareddau: felly boed yn deulu sy’n dymuno treulio amser gyda’i gilydd neu’n ffrindiau sy’n chwilio am ddigwyddiad i oedolion yn unig, mae strwythur llawer symlach erbyn hyn i lywio’r safle.

Dywedodd Ceri Richmond, Rheolwr Gyfarwyddwr CORE “Ar ôl gweithio gyda Techniquest ers 2016, roedden ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r cam diweddaraf hwn o ddatblygiad y ganolfan a’u cefnogi i gynyddu effeithiolrwydd eu gwefan a’u presenoldeb digidol.”

Mae’r safle bellach hefyd yn rhoi cipolwg ar hanfod Techniquest a’i arddangosion rhyngweithiol niferus i’r rhai sy’n newydd i’r lleoliad eiconig ar ochr y bae, drwy fideo a Thaith 3D.

Rachel Hanson, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu sy’n esbonio, “Roedden ni eisiau dathlu’r man Prifddinas Wyddoniaeth newydd a’i gysylltedd â safle gwreiddiol Techniquest, gan ddewis rhai o’n hoff arddangosion, hen a newydd i’w cipio ar fideo: gan sicrhau y gall unrhyw un sy’n anghyfarwydd â Techniquest gael blas ar beth rydyn ni’n ei wneud cyn gynted ag y byddan nhw’n glanio ar ein safle.

“Fe dreulion ni amser y llynedd yn gweithio gyda fideograffwyr gwych o Rockadove i greu cipluniau o’r gwahanol arddangosion y gellid eu rhoi at ei gilydd, ac rydyn ni wedi cyffroi i allu ymgorffori rhywfaint o’u gwaith ar ein safle o’r diwedd”.

Dywedodd Jude Bainbridge, Pennaeth Gwasanaethau Cleientiaid Rockadove Video Production: “Mae Techniquest yn rhan bwysig o’r gymuned leol ac mae ganddo apêl mor eang, gan gynnig llawer o hwyl i bawb ei fwynhau. Roedden ni wrth ein bodd gyda’r cyfle i gynllunio a chynhyrchu cynnwys fideo cyffrous i helpu i arddangos Techniquest a rhoi gwir ymdeimlad o beth all pobl ddisgwyl ei weld yn ystod eu hymweliad. Roedd gan Rachel a’r tîm weledigaeth glir iawn o beth roedden nhw eisiau ei gyflawni ac roedd yn bleser pur i ni ddod â Techniquest yn fyw drwy gynnwys y fideo.”

 

 

Yn ogystal â’r fideo sy’n rhoi cipolwg o beth sydd yn y lleoliad, mae’r tîm hefyd wedi gallu ychwanegu taith fideo 3D fanylach hefyd, i helpu cwsmeriaid i ddeall yn well beth allan nhw ei ddisgwyl wrth ymweld. Roedd Rhys ac Ellie o Picture It 360 yn cofio ymweld â Techniquest yn blant ac yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl – felly fe wnaethon nhw gynnig creu’r fideo am ddim, fel rhan o’r gwaith maen nhw’n ei wneud bob blwyddyn i elusennau.

Dywedodd Lesley Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Techniquest:

“Roedden ni wir eisiau ei gwneud hi’n haws i bobl gynllunio ymlaen llaw a deall ein lle yn well, yn enwedig i ymwelwyr sydd â gofynion hygyrchedd gwahanol, i ddangos y ffordd orau o lywio’r arddangosfeydd a’r mannau rydyn ni’n eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau ychwanegol, fel ein theatr wyddoniaeth. I rai o’n gwesteion ag anghenion ychwanegol, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi iddyn nhw neu aelod o’r teulu ymgyfarwyddo â lleoedd newydd cyn ymweld â nhw. Rydyn ni’n gobeithio y bydd cael y Daith 3D ar-lein yn gwneud hynny’n broses llawer haws er mwyn iddyn nhw allu mwynhau eu hamser gyda ni i’r eithaf. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Picture It 360 am yr amser maen nhw wedi’i roi i ni am ddim er mwyn creu hyn i ni.”

Mae Ellie a Rhys o Picture It 360 yn esbonio “Bob blwyddyn rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag elusen neu fusnes o’n dewis fel rhan o’n rhaglen ‘Sganio Cymunedol’. Y prif nod yw creu model 3D o’u lle i ddarparu profiad digidol ac addysgiadol i’w defnyddwyr a’u cymuned.

“Ar ôl tyfu fyny yng Nghymru, roedd Techniquest yn rhan gofiadwy o’n haddysg, felly i ni roedd yn ddewis amlwg ar gyfer 2022. Mae’r amgueddfa yn rhan mor bwysig o’r gymuned addysg yng Nghaerdydd a Chymru. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd y daith 3D yn helpu ymwelwyr i gael syniad o beth sydd ar gael yn Techniquest cyn iddyn nhw gyrraedd. Roedd hi’n bleser gweithio gyda Rachel a Dan i greu’r daith 3D yma.”

Mae Techniquest hefyd wedi lansio siop ar-lein ynghyd â’r wefan ar ei newydd wedd, gydag amrywiaeth o gynhyrchion i addysgu plant mewn ffordd hwyliog a hygyrch. Mae llyfrau Cymraeg a Saesneg ar gael ar amrywiaeth o bynciau gwyddoniaeth, ynghyd â chasgliad o becynnau a modelau gwyddoniaeth. I gael rhagor o fanylion neu i weld y gwelliannau eraill i’r wefan, ewch i techniquest.org.