Neidio i'r prif gynnwys

Taith Flasu Dinas yr Arcêd Newydd yn dod i Gaerdydd

2 Mai 2023


 

Bydd yn cael ei harwain gan Loving Welsh Food, a fydd yng Ngŵyl Foodies Caerdydd dros y penwythnos.

Mae’r gweithredwr teithiau bwyd o Gymru, Loving Welsh Food, wedi derbyn grant gan Caerdydd AM BYTH, Ardal Gwella Busnes Caerdydd, i greu taith fwyd newydd i Gaerdydd – Taith Flasu Dinas yr Arcêd.

Bydd y daith yn tynnu sylw at y sîn fwyd o gwmpas arcedau a chanol dinas Caerdydd, gan arddangos yr ystod eang o fwydydd rhyngwladol sydd ar gael gan fusnesau bwyd annibynnol. Yn ogystal â blasu bwyd, bydd cyfleoedd i siopa ac i ddysgu am hanes bywiog y ddinas.

Brand yw Dinas yr Arcêd a grëwyd gan Caerdydd AM BYTH yn 2018 i hyrwyddo saith arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd Caerdydd a chymuned fusnes annibynnol fywiog y ddinas. Ers hynny, mae Dinas yr Arcêd wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am ei ymgyrchoedd a’i ddigwyddiadau. Taith fwyd Dinas yr Arcêd fyd yr ychwanegiad diweddaraf at ei arlwy.

Sefydlwyd Loving Welsh Food gan y cyflwynydd a’r cynhyrchydd teledu a radio, Sian Roberts yn 2016, i gynnal teithiau bwyd a digwyddiadau yng Nghymru, gan dynnu sylw at ystod eang o gynhyrchwyr, bwytai a busnesau bwyd y wlad drwy deithiau cerdded, teithiau bws mini a’i nosweithiau Blas ar Gymru o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd.

Dywedodd Sian Roberts, sylfaenydd Loving Welsh Food:

“Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyllid hwn gan Caerdydd AM BYTH fel rhan o’r Gronfa Uchelgais Prifddinas i greu ffordd gyffrous ac arloesol o wahodd pobl i ddod i werthfawrogi ein dinas hardd a’n tirwedd goginio sy’n newid yn barhaus.

“Mae’n wych bod yn rhan o frand adnabyddus Dinas yr Arcêd. Bydd y grant yn ein galluogi i gynnig profiad unigryw ym mhrifddinas Cymru – taith goginio sydd hefyd yn cynnwys pensaernïaeth, hanes a siopa.”

Fel ardal gwella busnes (AGB) canol dinas Caerdydd, mae Caerdydd AM BYTH yn cynrychioli dros 800 o fusnesau ac yn gweithio ar eu rhan i wella prifddinas Cymru. Lansiodd Caerdydd AM BYTH Gronfa Uchelgais Prifddinas y llynedd i helpu pobl a sefydliadau i ddatblygu prosiectau sydd o fudd i ganol y ddinas a’i busnesau. Ers hynny mae wedi ariannu prosiectau fel Pasbort Gwin Caerdydd, Noson y Wal Anifeiliaid a HOOF! gan Theatr Iolo.

Dywedodd cyfarwyddwr cyswllt Caerdydd AM BYTH, Carolyn Brownell:

“Rydyn ni’n falch iawn o ddyfarnu cyllid i Loving Welsh Food i greu taith blasu bwyd a diod i Gaerdydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cynnyrch twristiaeth newydd hwn yn denu ymwelwyr o bell ac agos i archwilio trysorau cudd Caerdydd.”

Bydd y daith yn tywys gwesteion ar grwydr hamddenol o amgylch canol y ddinas gan fynd trwy’r arcedau a heibio tirnodau enwog fel Stadiwm Principality, Castell Caerdydd, a Marchnad Caerdydd.

Bydd Tywyswyr Loving Welsh Food, pob un yn dod o’r ardal leol, yn rhannu ffeithiau difyr a’u straeon personol am Gaerdydd a bywyd yn gyffredinol ym mhrifddinas Cymru. Gallan nhw gynnal teithiau yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg.

Dywedodd Ieuan Rhys, Tywysydd Loving Welsh Food:

“Rwy’n caru Caerdydd. Mae wedi bod yn gartref i mi ers dros 40 mlynedd ac mae’n bleser mynd â phobl o bob cwr o’r byd o amgylch y ddinas. Yn ogystal â rhoi gwybod iddyn nhw am ein bwyd/diod a’n ffordd o fyw ni, wrth sgwrsio, bwyta a cherdded dwi’n dysgu llawer am eu gwledydd nhw hefyd. Dwi wrth fy modd hefyd pan fydd pobl leol yn ymuno â ni ac ar ddiwedd y daith yn dweud wrtha i eu bod nhw wedi mwynhau’r bwyd ond yn fwy na hynny’n rhyfeddu at ffeithiau am Gaerdydd doedd ganddyn nhw ddim syniad amdanyn nhw – er eu bod yn byw yma.”

Bydd Loving Welsh Food yng Ngŵyl Foodies Caerdydd dros y penwythnos gyda The Welsh House – lleoliad newydd yng Nghaerdydd sy’n arddangos bwyd a diod o Gymru. Gwahoddir ymwelwyr â’r ŵyl i gymryd rhan yn y Welsh Quiz-ine i ennill dau docyn ar gyfer Taith Flasu Dinas yr Arcêd a fydd yn lansio yn yr haf, a phryd o fwyd dau gwrs yn The Welsh House.