Neidio i'r prif gynnwys

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn agor ar 28 o Orffennaf fel hyb ar gyfer iechyd a lles, a hafan i fywyd gwyllt

Yn dilyn ailddatblygiad pwysig i adfywio cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd, bydd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn agor i’r cyhoedd dydd Gwener, 28 Gorffennaf 2023.

 

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, a adeiladwyd ddiwedd y 19eg ganrif yn Oes Fictoria – sy’n cwmpasu 110 erw o le gwyrdd a glas ac yn gartref i fflora a ffawna bendigedig – yn cynnig hafan i fwynhau’r llonyddwch yng Nghaerdydd.  Ers caffael y safle yn 2016, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i ddod a’r cronfeydd nôl i ddefnydd gweithredol ac wedi creu hyb ar gyfer iechyd a lles, wrth amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth y safle.

 

Mae’r ganolfan ymwelwyr deulawr newydd sbon yn cynnig golygfeydd godidog dros y cronfeydd ynghyd â phrofiad bwyd neilltuol sy’n defnyddio cynnyrch Cymreig o’r safon uchaf. Yn ystod y dydd, bydd y caffi’n gweini bwydlen brecwast a chinio blasus, ynghyd â chinio dydd Sul tri chwrs. O fis Medi 2023 ymlaen, bydd y caffi’n trawsnewid yn ‘fwyty gyda’r hwyr’ dair noson yr wythnos pan fydd bwydlen nos ar gael. Mae ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi a bydd gwasanaeth Caffi Cyflym ar y llawr isaf yn gwerthu dewis o fyrbrydau a diodydd, coffi ffres a hufen iâ.

 

Yn sgil adfer y cronfeydd dŵr ac adlenwi cronfa Llanisien, mae amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon dŵr ar gael. Bydd y rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr yn gallu mwynhau hwylio ar gronfa ddŵr Llanisien, lle dysgodd Hannah Mills OBE, yr hwylwraig fwyaf llwyddiannus yn hanes y gemau Olympaidd, sut i hwylio.  Am y tro cyntaf un, bydd gweithgareddau nofio dŵr agored ar gael yn rhan o’r rhaglen chwaraeon ddŵr, yn ogystal â chanŵio, rhwyf-fyrddio a chaiacio.

 

Gall ymwelwyr â chronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien fynd am dro ar hyd 5km o lwybrau cylchol o amgylch y cronfeydd dŵr, mwynhau Llwybr stori trwy’r goedwig, a threulio amser yn y cuddfan adarydda hefyd. Caiff ysgolion a grwpiau llesiant drefnu sesiwn yn yr ystafell ddosbarth awyr agored yn yr ardal ddysgu yn y goedwig, ynghyd â’r tŷ crwn Cymreig a adeiladwyd yn rhan o brosiect gyda hyfforddeion, pobl NEET a ffoaduriaid. Bydd Cronfeydd Dŵr Llysfaen a Llanisien yn rhan o raglen Dŵr Cymru i gefnogi addysg yng Nghymru, a welodd dros 80,000 o fyfyrwyr yn mynychu eu canolfannau yn 2022.

 

Daeth Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien dan fygythiad yn 2001, a ffurfiodd aelodau o’r gymuned y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa (RAG) gan ymgyrchu’n llwyddiannus i achub y cronfeydd rhag datblygiad tai. Yn 2016, camodd Dŵr Cymru i’r adwy gan brynu prydles 999 mlynedd o Celsa Steel ar gyfer y safle a dechrau cynlluniau uchelgeisiol i adfer y cronfeydd at ddefnydd gweithredol. Ers cymryd awenau’r safle, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â RAG i sicrhau bod modd amddiffyn y lle hwn sydd o bwys ecolegol fel y gall pobl ei fwynhau am genedlaethau i ddod.

 

Dywedodd Richard Cowie, cadeirydd RAG: “Ffurfiwyd Grŵp Gweithredu’r Gronfa yn 2001. Roedd ganddi ddwy nod sef atal datblygiad tai ar safle cronfa ddŵr Llanisien, ac amddiffyn cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien fel adnodd hamdden er mwyn i genedlaethau i bobl Caerdydd ei fwynhau. Ar ddiwedd 12 mlynedd o frwydro, trechwyd cynlluniau datblygu Western Power Distribution, a diolch i Celsa a Dŵr Cymru, rydyn ni wedi cyflawni ein hail nod hefyd erbyn hyn. Rydyn ni wrth ein bodd i weld Dŵr Cymru’n agor eu canolfan ymwelwyr newydd bendigedig wrth ailagor y cronfeydd i’r cyhoedd, ac rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda nhw i gyflawni’r nod.”

Meddai Julie Morgan, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd: “Ar ddiwedd ymdrech gymunedol hir ac unedig dros yr 20+ mlynedd diwethaf, mae’n wych gweld cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen yn weithredol eto. Rydw i wedi bod ynghlwm wrth y frwydr i adfer y cronfeydd ers y dechrau’n deg, ac rwy’n credu’n gryf y dylent fod ar agor ac ar gael i bawb eu defnyddio a’u mwynhau. Bydd y cyfleusterau newydd y mae Dŵr Cymru wedi eu creu yn sefydlu hyb ar gyfer iechyd, llesiant a byd natur wrth galon Gogledd Caerdydd. Rydw i mor falch fod y gymuned wedi bod yn llwyddiannus, ac yn edrych ymlaen at weld y cronfeydd yn troi’n lle cymunedol llewyrchus.”

Gyda chefnogaeth RAG, sefydlwyd Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd (FoCR) i helpu i baratoi’r safle i groesawu ymwelwyr a gofalu amdano. Tra bod y ganolfan ymwelwyr wedi bod yn cael ei hadeiladu a bod llwybrau troed wedi’u gosod o amgylch y cronfeydd dŵr, mae gwirfoddolwyr o FoCR wedi cefnogi ceidwaid gyda rheoli coetiroedd.

 

Symudodd Roger Worland i Gaerdydd gyda’i wraig yn 2021 a dechreuodd wirfoddoli yn y cronfeydd eleni. Dywedodd Roger: “I mi, gwirfoddoli oedd y dewis delfrydol i gwrdd â phobl leol o’r un anian â fi. Un o’r uchafbwyntiau yw ymweliadau rheolaidd yr ecolegydd, Peter Sturgess. Wrth i’r tymhorau newid, mae’n gallu adnabod planhigion wrth iddynt ymddangos, a gweld anifeiliaid na fyddech chi’n eu gweld fel arall, gan gynnwys dyfrgwn a moch daear. Er fy mod i’n gobeithio bod yr amser a’r ymdrech rwy’n eu rhoi i wirfoddoli yn helpu mewn rhyw ffordd, rwy’n gwybod fy mod i ar fy ennill hefyd trwy ddysgu sut i ofalu am yr amgylchedd wrth gadw’n heini a gwneud ffrindiau newydd.”

 

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn adnodd naturiol unigryw o werth ecolegol sylweddol, sy’n cynnwys dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y naill am ei ffwng cap cwyr a’r llall am yr adar sy’n gaeafu yno. Diolch i grant ENRaW Llywodraeth Cymru, gosodwyd llwybrau cerdded o amgylch y cronfeydd er mwyn caniatáu i’r cyhoedd fwynhau mynd am dro o gwmpas y cronfeydd, a hynny wrth amddiffyn y glaswelltir sydd wedi ei ddynodi’n SoDdGA am ei ffwng cap cwyr – ffeindiwyd dros saith ar hugain o wahanol rywogaethau ar argloddiau’r ddwy gronfa.

 

Wrth i Anturiaethau Dŵr Cymru baratoi i groesawu ymwelwyr i’r safle, mae’r cwmni wedi bod yn cydweithio’n agos ag Adnoddau Naturiol Cymru ac ecolegwyr i helpu i lywio’r ffordd mae’r safle’n cael ei reoli, ac er mwyn lliniaru unrhyw fygythiad i’w SoDdGA. Pan fydd y safle’n agor, bydd gofyn i ymwelwyr barchu byd natur trwy gadw at y llwybrau. Ni chaniateir cŵn (ac eithrio cŵn cymorth) ar unrhyw un o’r llwybrau cerdded o amgylch y cronfeydd, ond bydd croeso iddynt yn ardal y ganolfan ymwelwyr a’r maes parcio.

Cwmni nid-er-elw yw Dŵr Cymru ac mae’n gweithredu 91 o gronfeydd sy’n amrywio o ran maint rhwng 2 ac 1,026 erw. Mae’r rhain yn cynnwys portffolio cenedlaethol o Atyniadau Ymwelwyr o dan frand Anturiaethau Dŵr Cymru. Mae’r rhain yn hybiau ar gyfer iechyd, llesiant a hamdden, a’u nod yw ailgysylltu pobl â’r dŵr a’r amgylchedd wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol pob un. Bydd ailagor Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn ychwanegu pumed safle at y portffolio o atyniadau ymwelwyr Anturiaethau Dŵr Cymru ar draws Cymru. Y canolfannau eraill yw Llys-y-frân (Sir Benfro), Cwm Elan (yn y canolbarth), Llyn Brenig (yn y gogledd) a Llyn Llandegfedd (yn y de).

 

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gaerdydd a’r tu hwnt i’n Hatyniad Ymwelwyr newydd – cronfa ddŵr Llys-faen a Llanisien – sy’n ychwanegiad bendigedig at ofod gwyrdd Caerdydd. Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i’n partneriaid, gan gynnwys Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd a’r tîm o wirfoddolwyr sydd wedi ein helpu ni i baratoi’r safle i groesawu ymwelwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl o bob oedran yn ymweld â’r cronfeydd dŵr i ailgysylltu â byd natur a’r dŵr a chreu atgofion gyda’i gilydd.”

 

Bu ailddatblygiad Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn bosibl diolch i werth £932k o gyllid gan gynllun ‘Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Lywodraeth Cymru i ariannu’r llwybrau a’r seilwaith gwyrdd. Diolch i grant Coedwigoedd Cymunedol o £202k gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bu modd rheoli’r coedwigoedd yn ymarferol a’u cyfoethogi ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

 

Bydd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn agor i’r cyhoedd dydd Gwener, 28 Gorffennaf 2023. Mae mynediad i’r safle am ddim (codir tâl am barcio ac am y gweithgareddau). Rhaid bwcio gweithgareddau dŵr.

 

Am fanylion pellach, ewch i www.lisvane-llanishen.com <http://www.lisvane-llanishen.com>