Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Nadolig Caerdydd: Perfformiadau Castellana, Sioeau Newydd ar Werth a Chyoeddi Prif Noddwr

Tuesday 26 September 2023 · Cardiff Christmas Festival


 

  • 1 – 24 Rhagfyr 2023 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd
  • Mae’r tocynnau ar werth nawr! thecastle.wales

Mae cynhyrchwyr Gŵyl Nadolig Caerdydd (Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd gynt), sy’n cael ei chynnal y tu mewn i Spiegeltent cynnes hyfryd â 550 o seddi yng Ngerddi Sophia Caerdydd, wedi cyhoeddi mwy o fanylion am y digwyddiad eleni.

Ar ôl cael canmoliaeth yn yr ŵyl y llynedd, mae Castellana yn ôl gyda chynhyrchiad newydd sbon gyda pherfformwyr anhygoel newydd.   Mae’r noson yn cael ei chynnal gan yr artist drag doniol Velma Celli, a gymerodd ran lwyddiannus yn ddiweddar yn y sioeau teledu llwyddiannus Britain’s Got Talent ac America’s Got Talent. Yn ymuno â hi fel cyd-gyflwynydd mae’r gantores o Gaerdydd Justine Marie Mead, ar ôl ei chyfnod yn y sioe lwyddiannus  Greatest Night of the Jazz Age yn Llundain.

Gosododd y pâr y naws gyda’u hiwmor arbennig a’u lleisiau anhygoel, gan gyflwyno artistiaid gwych gan gynnwys y seren bwrlésg ryngwladol Miss Betsy Rose; yr artist awyrol Jimmy Wong; y deuawd medrus Paul & Louise sy’n perfformio ar sgidiau sglefrio ac fel act cydbwyso llaw i law; y berfformwraig acrobateg a’r ddawnswraig cylch hwla ystwyth Chloe Hannah Lloyd; a’r sioeferch cabare wych Force Majure a’r acrobat anhygoel Ben Brown, sydd hefyd yn perfformio gyda’i gilydd fel act awyrol Little Finch – cymysgedd o Boylsque, drag, haute couture a syrcas! Cynhelir Castellana o ddydd Mercher 6 Rhagfyr i ddydd Sul 24 Rhagfyr.

Dywedodd John Manders:  “Roedd Castellana y llynedd yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd, yn cynnig noson allan hollol wahanol dros gyfnod yr ŵyl. Rydym wrth ein bodd o allu dod â set newydd o artistiaid o’r radd flaenaf i’r digwyddiad eleni sy’n mynd i ddifyrru, diddanu a chreu argraff.”

Mae sioeau newydd hefyd wedi eu hychwanegu at yr ŵyl eleni.  Mae My My! ABBA – The Christmas Concert, am un noson yn unig ar ddydd Sul 10 Rhagfyr, yn deyrnged i’r band Swedaidd gwreiddiol, yn cipio ymdeimlad gwych o hwyl y grŵp, ail-greu eu sain unigryw anhygoel, a chyfuno hyn mewn noson llawn hwyl o ganu a dawnsio. Eu perfformiad olaf yng Nghaerdydd oedd cyngerdd awyr agored enfawr yng Nghastell Caerdydd. Yn cynnwys caneuon fel Waterloo, Mamma Mia a Dancing Queen, wedi’u pherfformio gan gast gwych o berfformwyr y West End, mae hon yn noson allan Nadoligaidd wych ac yn ddathliad o’r grŵp pop gorau erioed.

Cynhelir noson gomedi, i gefnogi SHELTER Cymru, nos Sadwrn 2 Rhagfyr gyda rhai o’r digrifwyr gorau o’r DU. Mae Cracker Comedi yn cynnwys Raymond a Mr Timpkins Revue, o Britain’s Got Talent; Digrifwr Newydd y Flwyddyn y BBC 2021 a merch Burry Port Anna Thomas; a’r digrifwr gitâr Rob Deering; gyda mwy o berfformwyr i’w cyhoeddi.

Mae ail ddyddiad ar gyfer Welsh of the West End – noson o ffefrynnau Nadoligaidd a sioeau cerdd – wedi ei ychwanegu at yr ŵyl eleni, yn dilyn galw eithriadol.  Bydd y grŵp theatr gerdd o Britain’s Got Talent a’r rhyngrwyd hefyd yn perfformio ar ddydd Llun 18 Rhagfyr yn ardal hyfryd y Spiegeltent. Disgwylir i docynnau gael eu bachu’n gyflym ar gyfer y digwyddiad hwn, gan mai dim ond llond llaw o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad ddydd Sul 17 Rhagfyr.

Mae’r sioe Nadolig hyfryd i’r teulu Santa’s Wish hefyd yn rhan o Ŵyl Nadolig Caerdydd. Bydd y cast ar gyfer yr antur gerddorol Nadoligaidd hudol hon yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Mae cynhyrchwyr yr ŵyl, y cwmni digwyddiadau byw o Gaerdydd, Live Under the Stars, yn falch o gyhoeddi mai Admiral Money fydd prif noddwr yr ŵyl eleni. Lansiwyd Admiral Money yn 2017 i gynnig benthyciadau personol a chyllid car i brynwyr yn y DU. Mae gan Admiral Money dros 200,000 o gwsmeriaid ac mae’n rhan o Grŵp Admiral sy’n cyflogi dros 7,500 o bobl yn y DU.

Dywedodd Richard Perry:  “Rydym yn falch iawn o ddod â MyMy! Abba i’r ŵyl eleni. Nid sioe deyrnged gyffredin mohoni, mae’n sioe na all ffans Abba ei cholli. Ac rydym yn falch iawn o fod yn cyflwyno cyfres gomedi wych ar gyfer y Comedy Cracker, gan godi arian ar gyfer SHELTER Cymru. Rydym hefyd yn falch iawn o gael Admiral Money fel y prif noddwr ar gyfer y digwyddiad eleni. Fel busnes hynod lwyddiannus yng Nghymru, mae’n hyfryd cael eu cefnogaeth ar gyfer ail flwyddyn y digwyddiad hwn”.

Dywedodd Scott Cargill, Prif Swyddog Gweithredol Admiral Money:  “Mae Admiral Money yn falch iawn o fod yn noddwr swyddogol ar gyfer Gŵyl Nadolig Caerdydd eleni.  Rydym yn falch o gefnogi digwyddiad lleol a fydd yn llawn adloniant unigryw.”

TOCYNNAU

Mae tocynnau ar gael o Seetickets.com ac yn dechrau am £15* ar gyfer Santa’s Wish a £25* ar gyfer Castellana. Bydd cynllun gofalwyr HYNT hefyd ar gael i gwsmeriaid ac ar gael i’w prynu ar-lein.

*Mae ffioedd archebu’n daladwy.

Dylai archebion grŵp ffonio 02921 520052 yn ystod oriau swyddfa arferol neu e-bostio groups@thecastle.wales

Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Anfonwch neges i’r tîm gydag unrhyw ofynion penodol.

Am wybodaeth, gan gynnwys tocynnau, ewch i www.thecastle.wales