Beth wyt ti'n edrych am?
Fun HQ Caerdydd, Cyrchfan Adloniant Newydd i'r Teulu, yn Agor
Dydd Llun 18 Medi 2023 · Fun HQ Caerdydd
Mae Fun HQ Caerdydd, cyrchfan adloniant i’r teulu ddiweddaraf y ddinas, wedi cyhoeddi yn swyddogol ei ddyddiad agor. Bydd y profiad dringo a chwarae newydd cyffrous ar Rodfa Olympaidd yn agor ddydd Mawrth, 19 Medi.
Mae Fun HQ Caerdydd yn cynnwys dros 30 o heriau dringo cyffrous, o ‘The Stairway to Heaven’ i ‘Astroball’, ar gyfer dringwyr 4 oed a hŷn. Mae’r maes chwarae dan do enfawr yn cwmpasu dros 17,000 troedfedd sgwâr, gyda waliau dringo hyd at 7.5 metr o uchder.
Gall gwesteion 12 oed ac iau hefyd fwynhau’r Parth Chwarae cyffrous, sef ardal chwarae meddal ar draws 3 llawr lle gallant lithro, neidio a siglo!
Mae Fun HQ Caerdydd yn cynnig lluniaeth gan gynnwys bwyd poeth, diodydd a choffi gan Fab Four Coffee, sy’n cael ei gynnal gan gyn-chwaraewyr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon Shane Williams, Lee Byrne, a James Hook.
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Fun HQ Caerdydd yn agor o’r diwedd,” meddai Norman Sayers, cyfarwyddwr Sayers Amusements.
“Mae’r tîm cyfan yn gyffrous i groesawu teuluoedd o Gaerdydd a thu hwnt i brofi’r llawenydd o ddringo a chwarae yn Fun HQ Caerdydd.”
Gyda gweithgareddau sy’n addas ar gyfer pob lefel sgiliau, mae Fun HQ Caerdydd yn dod â’r wefr o ddringo ac antur awyr agored dan do mewn amgylchedd diogel sy’n addas i deuluoedd.
“Ein nod yw darparu lleoliad lle gall pobl o bob oed a gallu herio eu hunain, dysgu sgiliau newydd ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl,” meddai Norman Sayers.
Bydd Fun HQ Caerdydd ar agor rhwng 12:00 ac 20:00 yn ystod yr wythnos a rhwng 10.00 ac 20.00 ar benwythnosau a gwyliau ysgol.
Mae’r tocynnau ar gyfer dringo yn dechrau ar £14.95 y dringwr a phrisiau’r Parth Chwarae yn dechrau ar £2 yn unig i blant bach a £5 i blant 4-12 oed.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle i ddringo, ewch i funhqcardiff.co.uk. Gall gwesteion dalu ar y safle i ddefnyddio’r Parth Chwarae.