Neidio i'r prif gynnwys

voco Dewi Sant, Caerdydd yn penodi Prif Gogydd newydd

Dydd Mawrth 5 Medi 2023 · voco St David’s


 

Yn westy a sba nodedig, mae voco Dewi Sant, Caerdydd, yn falch o fod wedi penodi Joseph (Joe) Procak fel ei Brif Gogydd newydd. Mae Joe yn ymuno i arwain tîm coginio bwyty ‘Tir a Môr’ y gwesty, sydd wedi dod yn gyrchfan i fwyta yng Nghymru.

Yn frodor o Gymru, mae Jo wedi gweithio fel cogydd proffesiynol ers pan oedd yn ddeunaw oed. Gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad, mae wedi bod yn Brif Gogydd mewn sefydliadau eraill yng Nghymru ac mae’n ymuno â voco Dewi Sant, Caerdydd o The Old Custom House, Penarth.

Yn adnabyddus am ei ddawn a’i angerdd dros ddatblygu prydau tymhorol dyfeisgar, mae dull coginio Joe yn pwysleisio ansawdd y cynhwysion y mae’n gweithio gyda nhw. Mae wedi ymrwymo i greu’r profiad bwyd a diod gorau ym Mae Caerdydd a Chymru, a bydd yn gweithio ar fwydlenni newydd i ddatblygu arlwy gwych i westeion yn y brifddinas ei fwynhau.

Wrth siarad am ei rôl fel Prif Gogydd gyda voco Dewi Sant, Caerdydd, mae Procak yn dweud:

“Rwy’n gyffrous iawn i ymuno, ac arwain, y tîm coginio yng ngwesty eiconig voco  Dewi Sant, Caerdydd. Mae gan brifddinas Cymru sîn fwyd fywiog, ac mae Tir a Môr wedi dod yn rhan go iawn ohoni, diolch i fuddsoddiad sylweddol. Mae’n un o’r llefydd i fynd ar gyfer bwyd yn y ddinas, ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu profiad bwyta cofiadwy a chyffrous i westeion ei fwynhau – rhywbeth a fydd yn ein rhoi ni ar fap bwyd ehangach y DU. Mae gen i angerdd gwirioneddol dros hyrwyddo cynhyrchwyr a ffermwyr lleol, ac rwy’n credu mewn arddangos y bwyd a’r diod gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cynnyrch gorau yn y rhanbarth, a gweithio ochr yn ochr â thîm hynod dalentog i gyflwyno bwydlenni newydd sy’n arddangos y cynhwysion lleol a thymhorol o’r ansawdd gorau.”

Mae penodiad Joe yn dilyn adnewyddu bwyty a bar Tir a Môr, gan gynnwys agoriad diweddar ei deras newydd mewn partneriaeth â Moët & Chandon. Mae wedi dod yn gyrchfan ar gyfer bwyta, gan wneud ei farc ar fap coginio Caerdydd.