Neidio i'r prif gynnwys

Yr artistiaid o Gymru, GWCCI yn arwain Cymru gyda’u sengl ddiweddaraf, "I'R GÃ'D"

Friday 8 September 2023 · Welsh Rugby Union


 

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cydweithio gyda band rap o Gymru, GWCCI, ar anthem rygbi cyn Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae’r gân o’r enw, “I’R GÃ’D”, yn deyrnged o’r galon i ddiwylliant Cymru, i dreftadaeth rygbi’r genedl, ac i falchder parhaus y Cymry. Mae “I’R GÃ’D”, neu ‘to the fray’ neu ‘to battle’ yn Saesneg, yn anthem gyfoes ar gyfer cenhedlaeth newydd o gefnogwyr rygbi ac mae’n cael ei hyrwyddo mewn partneriaeth ag URC.

Gallwch lawrlwytho’r fersiwn radio o’r trac yma: https://we.tl/t-bs5xYOL4xR

Mae ‘I’R GÃ’D’ yn cymharu maes y gad a’r cae rygbi, gan dynnu sylw at y corfforoldeb ffyrnig a’r ymrwymiad diysgog sydd eu hangen ar gyfer y gêm. Gan weithio ar y cyd ag URC, mae GWCCI yn gobeithio y bydd y trac yn ysbrydoli’r garfan, yn union fel y mae ei gwaith caled a’i hymroddiad yn ysbrydoli cefnogwyr rygbi yn ôl adref.

Wrth siarad ar ran GWCCI, dywedodd cynrychiolydd Recordiau Bica: “Nid cân yn unig yw I’R GÃ’D gan GWCCI; mae’n fynegiant o angerdd rygbi Cymru a sut mae hyn yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn anthem gyffrous ac unedig sy’n ysbrydoli cenedl.”

Wedi’i wehyddu’n ddi-dor drwy “I’R GÃ’D” yw harddwch barddonol y Gymraeg, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd dwys y Gymraeg ac yn ychwanegu dyfnder a chyseiniant i’r gân.

Mae’r gân yn dwyn i gof ffigyrau chwedlonol rygbi Cymru, fel Gareth Edwards, Barry John a JPR Williams—arwyr cenhedlaeth y 1970au. Mae ‘I’R GÃ’D’ hefyd yn coffáu eiconau rygbi Cymru y gorffennol fel Phil Bennett, JJ Williams a Ray Gravell, a hyd yn oed yn cynnwys clip o sylwebaeth chwedlonol gan y diweddar a’r anhygoel Eddie Butler.

Wrth i’r ffagl basio i oes newydd, mae’r gân yn arwydd o gynnydd tîm ifanc a deinamig, sydd ar fin creu ei bennod ei hun yn hanes Cwpan Rygbi’r Byd Cymru.

Gwnaeth Josh Adams a Taine Basham o dîm Cymru sef pwyllgor cerddoriaeth y garfan wrando ar y trac ymlaen llaw. Dyma ddywedon nhw: “Mae’n wych clywed rhywbeth newydd a gwahanol sy’n dathlu rygbi a diwylliant Cymru. Rydym yn credu eu bod wedi gwneud gwaith gwych yn dehongli’r ddau drwy eu cerddoriaeth. Mae wedi bod yn wych i’r garfan allu wrando ar y gân ymlaen llaw ac rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn ei chefnogi.”.