Neidio i'r prif gynnwys

Mwynhau’r Cyffro: Lle i wylio Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yng Nghaerdydd

Dydd Gwener 6 Hydref 2023


 

Mae’r amser wedi cyrraedd eto, lle mae ein camp genedlaethol yn uno’r genedl, gydag un o’r cystadlaethau rygbi mwyaf disgwyliedig.  Felly, p’un a ydych chi’n gefnogwr rygbi brwd neu’n awyddus i gael noson allan gyda ffrindiau, mae digon o dafarndai a bariau yng nghanol dinas Caerdydd i wylio gemau Cwpan Rygbi’r Byd a mwynhau’r awyrgylch.

 

Y Bariau Chwaraeon Gorau

 

TEMPLE BAR

Yn ffefryn mawr ymysg y bobl leol, mae Temple Bar wedi’i seilio ar dafarn eiconig Dulyn, gyda sgriniau mawr, byrddau casgenni a bythod ar gyfer grwpiau mwy, ac mae’n lle llawn awyrgylch gwych i wylio’r rygbi. Cadwch eich bwrdd ymlaen llaw ar-lein.

 

THE PHILHARMONIC

Mae un o’r lleoliadau mwyaf yng Nghaerdydd yn dangos holl gemau Cymru ar sgriniau mawr ar draws gwahanol loriau, felly cadwch eich lle ymlaen llaw i wylio a mwynhau’r cyffro yn y Philly.

 

PROUD MARY

Agorodd y bar partïon Proud Mary yng nghanol prifddinas Cymru y llynedd, ar ôl ennill enw da fel lleoliad partïon ar draws Sgandinafia. Gwyliwch y gêm yma a mwynhau’r awyrgylch.

 

BREWHOUSE 

Ar draws y ffordd o’r Philharmonic, gallwch wylio holl gemau Cwpan y Byd yn y Brewhouse. Mae’r dafarn fawr a bywiog hon yn lle perffaith i wylio’r gêm gyda chefnogwyr eraill.

 

THE PONTCANNA INN 

Nid nepell o ganol y ddinas, mae’r Pontcanna Inn yn addo bwyd gwych, diodydd di-ri a man gwych i wylio holl gemau Cwpan y Byd.

 

DEPOT

Mae lleoliad mwyaf gwreiddiol Caerdydd yn dangos holl gemau Cymru. Byddwch yn rhan o’r awyrgylch pan fydd eu lleoliad warws eiconig yn darlledu’r gemau. Rhaid cadw bwrdd ymlaen llaw.

O’NEILLS A LITTLE O’NEILLS

Mae bar Gwyddelig preswyl Caerdydd ar Heol Eglwys Fair wedi ennill enw da fel lle i wylio chwaraeon byw ac yn gyffredinol i gael amser gwych gyda ffrindiau. Hefyd, mae’n werth mynd i Little O’Neill’s sydd ar Heol y Drindod.

 

COYOTE UGLY

Mae un o’r brandiau bar mwyaf adnabyddus yn y byd wedi dod o hyd i gartref ar Heol Eglwys Fair Caerdydd. Mae Coyote Ugly bendant yn gwybod sut i ddiddanu. Cadwch eich bwrdd ymlaen llaw i wylio’r gêm ar y sgrin fwyaf yng Nghaerdydd a chael potel o Prosecco am ddim.

 

THE OLD ARCADE

Tafarn gyfeillgar yng nghanol y ddinas sy’n llawn awyrgylch, felly gwisgwch eich crys ac ymunwch â’ch cyd-gefnogwyr rygbi Cymru yn y dafarn frwdfrydig a gwladgarol hon.

 

QUEENS VAULTS

Tafarn draddodiadol a chroesawgar wedi’i chynnal a’i chadw’n dda, sy’n agos iawn at Stadiwm Principality. Mae wedi ennill enw da fel lle i fod cyn, yn ystod ac ar ôl gemau chwaraeon, yn rhannol oherwydd ei dewis eang o gwrwau a gwirodydd, ochr yn ochr â phrydau tafarn am bris rhesymol.

 

DUKE OF WELLINGTON

Mae’r dafarn â brics coch wedi’i lleoli’n falch yng nghanol y ddinas, ac mae’n eich gwahodd i fwynhau’r awyrgylch rygbi gyda chwrw Cymreig blasus wrth i chi annog y tîm yn ei flaen.

 

ELEVENS

Mae’r bar hwn, sy’n nodi ei hun fel bar chwaraeon gorau Caerdydd, yn llawn brwdfrydedd diolch i’w berchennog, yr arwr pêl-droed Gareth Bale, ac mae’n cynnig hafan i gefnogwyr pob camp. Mae’r bar chwaraeon uwch-dechnoleg hwn yn addo profiad gwych i wylio gemau rygbi Cymru mewn 4K gyda sain amgylchynol sy’n anelu at greu awyrgylch stadiwm.

 

THE DOCK

Mae’n amser gadael y ddinas a mynd i’r Bae oherwydd nid oes lle gwell i wylio’r gêm nag yn y Dock. Mae’r Dock yn dangos y gemau yn fyw gyda sylwebaeth, ar sgriniau mawr gyda detholiad o gwrwau, byrbrydau a chefndir hardd.

 

GLASSWORKS

Mae’r dafarn hon yng nghanol y ddinas, sy’n agos iawn at y Principality ac sydd â sgriniau mawr yn dangos y gemau, yn lle gwych arall i wylio’r gêm.

 

WALKABOUT

Ymunwch â chefnogwyr Cymru wrth iddynt feddiannu’r bar chwaraeon Awstralaidd hwn. Gyda pheintiau oer, byrgyrs blasus a sgriniau teledu mawr drwyddi draw, cadwch le i fod yn rhan o’r awyrgylch.

 

OWAIN GLYNDWR

Mae Owain, sy’n un o’r tafarndai mwy yng nghanol y ddinas, yn dangos y gemau ar sgriniau mawr ym mhob rhan o’r lleoliad.

 

YATES

Yng nghanol Heol y Brodyr Llwydion, mae Yates yn falch o ddangos yr holl gemau ar eu pymtheg teledu 4K a’u pedwar taflunydd mawr, felly ni fyddwch yn colli eiliad o’r cyffro.

 

Cofroddion Cymreig

 

Cofiwch sicrhau cyfle i godi het gennin Pedr, dafad degan Gymreig, neu hyd yn oed ddraig, i sicrhau tân yn y bobl dros Gymru.  Gallwch hefyd godi sgarff i goffáu’r gêm a chael eich wyneb wedi’i baentio ar gyfer yr achlysur.

 

I gael crysau rygbi a chofroddion Cymreig, mae nifer o siopau i bori ynddynt, gan gynnwys Siop Undeb Rygbi Cymru ar Heol y Porth.

 

Nawr rydych chi’n gwybod rhai o’r tafarndai a’r bariau chwaraeon gorau ar draws y ddinas, ble rydych chi’n mynd? Cofiwch roi tag @croesocaerdydd #croesocaerdydd yn eich lluniau o ddiwrnod y gêm