Neidio i'r prif gynnwys

Siopau sionc y Nadolig yn ymuno â Dewi Sant Caerdydd

Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023


 

MAE Dewis Sant Caerdydd wedi croesawu sawl manwerthwr newydd i ganolfan siopa’r ddinas ar gyfer tymor y Nadolig.

Yn gymysgedd o stondinau Nadoligaidd a siopau sionc, bydd yr wyth manwerthwr dros dro yn dod â chymysgedd o gynnyrch bwyd, nwyddau cartref, dillad ac addurniadau i Ganolfan Dewi Sant ochr yn ochr â chyfres o ffefrynnau’r stryd fawr a brandiau mawr.

Mae’r siopau newydd yn cynnwys Rustic Charm gyda’i addurniadau Nadolig o safon wedi’u gwneud â llaw, Calendar Club – sy’n dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu – a House of Tweed, sy’n gwerthu dillad ac ategolion.

Gan sefydlu stondinau yng nghanolfan siopa Dewi Sant, bydd Chilli Cheese yn gwerthu detholiad o gawsiau crefftus a cheddar a hamperi ar gyfer bwrdd caws Nadoligaidd i’w gofio, wedi’u paru â sawsiau a jamiau tsili, tra bod y Amazing Chocolate Workshop yn arddangos dros 200 o greadigaethau siocled o flodau cain ac offer i nwyddau chwaraeon a cheir gydag eitemau unigol a blychau anrhegion ar werth.

Hefyd, yn dod i ganolfan siopa Dewi Sant am wythnos yn unig o 8 Rhagfyr mae busnes becws poblogaidd o Gymru, Let Them See Cake gyda’i gacennau pastel delfrydol a’i ddanteithion melys.

Yn y cyfamser, bydd siop annibynnol ac arobryn o Gaerdydd, Bloomhill, yn gwerthu potiau lledaenu sentiau wedi’u creu â llaw drwy gyfuno harddwch blodau sych gydag arogl parhaol eu persawrau arbennig.

Yn olaf, mae Sense Aroma yn dod â detholiad o gynhyrchion aromatherapi, lles ac ymlacio o doddion cwyr ac olewau persawr i lampau hwyliau a ffynnon ddŵr dan do ac mae ystod o botiau lledaenu persawr cartref ar gael o stondin Diffusers.

Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Dewi Sant Caerdydd:  “Rydym yn falch o groesawu ein siopau sionc a stondinau newydd yn y cyfnod cyn y Nadolig, maen nhw’n darparu rhywbeth ychydig yn wahanol i ymwelwyr ar gyfer tymor yr ŵyl.

“Y Nadolig hwn mae gennym ein haddurniadau trawiadol newydd sbon ledled Dewi Sant sy’n olygfa hudolus a groto Nadolig Believe hudol sy’n croesawu Siôn Corn ei hun, gan roi ein hymwelwyr yn hwyl yr ŵyl.”