Neidio i'r prif gynnwys

Sioe Goleuadau Dronau Heb Ei Thebyg yn Dod i Gerddi Sophia

Dydd Llun, 12 Chwefror 2024


 

Daw Evolution, sioe goleuadau dronau epig sy’n addo mynd â chynulleidfaoedd ar daith syfrdanol drwy amser a gofod, i Erddi Sophia Caerdydd ddydd Gwener 29 Mawrth 2024.

Cyflwynir y digwyddiad i chi gan Celestial (crewyr sioeau golau drôn ar gyfer brandiau ledled y byd), Yuup (y cwmni profiadau lleol) a’r partner lleoliad Gerddi Sophia, cartref Criced Sir Forgannwg.

Sioe goleuadau dronau heb ei thebyg

Mae Evolution, y sioe goleuadau dronau, yn cyflwyno’r diweddaraf mewn adloniant creadigol gyda’r dathliad hudolus hwn o’r byd byw.

Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu trochi mewn digwyddiad ar raddfa epig gan ddefnyddio cannoedd o dronau yn awyr y nos, yn cyfuno technoleg arloesol a chreadigrwydd i danio’r dychymyg a sbarduno’r enaid. Mae’r stori wedi’i hadrodd yn dechrau gyda’r Glec Fawr, genedigaeth ffrwydrol y bydysawd, cyn teithio i darddiad rhyfeddol bywyd ymwybodol ar y Ddaear.

Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl straeon epig gyda themâu trawsnewid, twf a dawns newid diddiwedd. O organebau un gell, deinosoriaid syfrdanol a gwawr bodau dynol modern. Mae Evolution yn deyrnged gyfareddol i’r gorffennol, dathliad y presennol a chipolwg ar orwelion y dyfodol.

Digwyddiad i’w gofio!

Yn dilyn peilot hynod lwyddiannus ym Mryste a Gorllewin Canolbarth Lloegr ym mis Rhagfyr 2023, gyda sioeau y gwerthwyd pob tocyn amdani, mae Evolution ar fin teithio o amgylch y DU, gan ddechrau yma yng Nghaerdydd.

Mae’r digwyddiad ei hun yn addas i deuluoedd ac unigolion o bob oed ei fwynhau. Bydd y rhai a ddaw yn dyst i arddangosiad byw o’r dechnoleg dronau o’r radd flaenaf cyn profi’r prif berfformiad dronau.

Dywedodd John Hopkins, Cyd-sylfaenydd Celestial a’r Prif Swyddog Creadigol: “Mae Evolution wedi bod yn dair blynedd yn y broses o gael ei chreu. Mae hon gymaint yn fwy na sioe goleuadau dronau, mae’n brofiad gyda graddfa stadiwm, wedi ei chreu i ddod â chynulleidfaoedd at ei gilydd gan ddefnyddio cyfrwng newydd i adrodd hanes amser”.

Ychwanegodd Dominic Mills, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Yuup: “Rydym yn llawn cyffro i fod yn bartner gyda Celestial i ddod â’r sioe unigryw hon i bobl Caerdydd ac ar raddfa mor epig. Mynychwyd ein sioeau peilot ym mis Rhagfyr gan 40,000 o bobl a nawr mae’r sioe hyd yn oed yn fwy ac yn well. Bydd Evolution yn cynnig ffynhonnell adloniant newydd sbon yn wahanol i unrhyw beth mae unrhyw un erioed wedi’i weld o’r blaen yng Nghaerdydd, gan annog pobl i edrych i fyny ac ailgysylltu â’r byd”.

Crynhodd Martin Weitz, cynrychiolydd sioeau Bryste y digwyddiad: “Sioe anhygoel. Roedd pawb o’n cwmpas wedi eu syfrdanu’n llwyr gan yr olygfa anhygoel o brydferth o gannoedd o dronau yn dod yn fyw. Roedden nhw wir yn teimlo’n fyw ac yn organig yn y ffordd roedden nhw’n symud. Eithaf rhyfeddol.”

Dywedodd Pennaeth Masnachol Morgannwg, Ed Rice: “Rydyn ni’n llawn cyffro i gynnal digwyddiad o faint Evolution. Mae Gerddi Sophia yn lleoliad anhygoel, ac rydym bob amser yn falch o allu dangos ein bod yn fwy na lleoliad chwaraeon yn unig. Bydd y sioe hon yn wahanol i unrhyw beth a welwyd yng Nghaerdydd o’r blaen, ac rydyn ni’n methu aros i Evolution oleuo awyr Caerdydd!

Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener, 29 Mawrth yng Ngerddi Sophia, cartref Clwb Criced Morgannwg. Bydd gatiau’n agor am 5.30pm, gyda siopau bwyd a diod yn gweini amrywiaeth o ddanteithion blasus tra bod DJ yn perfformio’n fyw cyn y sioe sy’n dechrau am 7.30pm.