Neidio i'r prif gynnwys

Sesiynau Soundspace: Das Koolies a 4Pi Productions yn cyflwyno DK.01mmersive

Dydd Gwener, 09 Chwefror 2024


Dychwelodd Das Koolies i’w gwreiddiau rêf y llynedd gyda’u halbwm cyntaf DK.01, a oedd yn wibdaith drwy ddylanwadau tecno, pop, krautrock a seic yr hen Super Furry Animals cyn mynd ar y ffordd go iawn gyda thaith drwy’r DU a werthodd bob tocyn.

Nawr, mae Huw Bunford, Cian Ciarán, Daf Ieuan a Guto Pryce yn ôl yng Nghaerdydd ar gyfer perfformiad byw unigryw, mewn cydweithrediad â’r stiwdio ymdrochol 4Pi Productions a Dah Dit Dit, y meddyliau creadigol y tu ôl i’w fideos cerddoriaeth arloesol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, bydd y Sesiwn Soundspace Ddydd Gwener 22 Mawrth yn dyst i anturiaethau sonig y band a’u dawn ysgrifennu caneuon llawn curiadau teimladwy yn codi i lefel arall drwy gyfrwng delweddau ymdrochol, o dan y gromen yng nghanolfan gelfyddydau ddigidol arbrofol, CULTVR.

Das Koolies:

“Rhywbeth cartrefol, ond eto’n anghyfarwydd i bob un ohonom, wrth i ni droi seiniau’r Das Koolies yn rhywbeth cwbl arallfydol yn ein hail berfformiad byw yn unig yng Nghaerdydd. Mae ein halbwm, DK.01, a recordiwyd yng nghyfrinachedd ein Pencadlys ym Mae Caerdydd, wedi’i greu o’n dychymyg a’n profiadau ar y cyd, ond y tu hwnt i’n dychymyg ni ein hunain mae posibiliadau eraill sydd heb eu darganfod eto. Rhywbeth annisgwyl.  Am un noson yn unig efallai, bydd DK.01 yn dod yn brofiad trochi yn CULTVR a gyda’n gilydd byddwn yn darganfod sut olwg sydd ar y byd hwnnw, ei synau a’i deimlo.

Matt Wright, Cyfarwyddwr Artistig 4Pi Productions:

Dros y degawd diwethaf, mae 4Pi wedi bod ar flaen y gad o ran arloesi mewn creadigrwydd trochi a pherfformio byw. Drwy’r profiad XR byw hwn, rydym yn gobeithio cynnig i gynulleidfaoedd gipolwg dyfnach ar weledigaeth artistig y band.”

Mae tocynnau cyfyngedig ar gael yma.

Drysau’n agor am 7pm.

8.00 – 9.00pm Das Koolies (Set DJ)

9.00 – 10.00pm Das Koolies (Set Fyw)

Gellir dod o hyd i CULTVR yn 327 Heol Penarth, Caerdydd, CF11 8TT

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.