Neidio i'r prif gynnwys

CANLLAW SUL Y MAMAU 2024

3 March 2024


 

Cofiwch – mae Sul y Mamau ddydd Sul 10 Mawrth 2024. Darllenwch ein canllaw isod a dewiswch rywbeth fydd wrth ei bodd.


 

BWYTA MAS

Tir a Môr yn voco St.David’s

Bydd Tir a Môr, sef bwyty glan y dŵr gwesty St David’s, yn gweini bwydlen arbennig ddydd Sul sy’n cynnwys cynnyrch tymhorol o Gymru, gan gynnwys Coes Cig Oen Cymru wedi’i rostio, Syrlwyn Rhost Cig Eidion Cymru a Bara Brith a Phwdin Menyn. Pris dau gwrs yw £27 a chewch dri chwrs am £35 y pen. Yn ogystal â mwynhau’r golygfeydd panoramig gwych o Fae Caerdydd – y cefndir perffaith i wneud i Mam deimlo’n arbennig – bydd pob mam yn derbyn anrheg fach am ddim.

I’r mamau sydd angen gorffwys am damaid, mae gan y Sba arobryn yn St David’s nifer o becynnau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i helpu cleientiaid i ymlacio ac adfywio. Hefyd, gellir prynu talebau rhodd i famau eu defnyddio pan fyddai’n gyfleus o wefan Voco St David’s lle gallwch ddewis o blith talebau te prynhawn, y bwyty, y sba a gwely a brecwast. Archebwch ar-lein yma.

Daffodil

Eisiau sbwylio mam ar Sul y Mamau? Ewch â hi i Daffodil, eich hoff le newydd i yfed, ciniawa ac ymlacio. Byddant yn gweini eu Cigoedd Rhost Sul enwog o 12pm. Cymerwch olwg i weld beth yw’r holl ffys!

Darllenwch y fwydlen ac archebwch fwrdd! Maen nhw’n llenwi’n gyflym, felly archebwch yma tra bod lle!

Gwesty’r Clayton

Dangoswch eich gwerthfawrogiad o fenyw arbennig yn eich bywyd gyda’n pecyn Sul y Mamau arbennig. Cewch adael eich ystafell yn hwyrach yn rhad ac am ddim ac anrheg i mam yn eich ystafell. Mae’r pecyn yn cynnwys taleb am 10% oddi ar brisiau diodydd yn y Grill Bar, map o’r ddinas i’ch helpu i wneud y gorau o Gaerdydd, brecwast Vitality a gŵn tŷ a sliperi ar gais.

Cewch ragor o wybodaeth am y cynnig yma. Beth am ychwanegu triniaeth therapi harddwch a lles hefyd yn Revive at the Wharf? I drefnu triniaeth a derbyn gostyngiad o 10% – cliciwch yma.

The Coconut Tree

Beth am archebu bwrdd yn The Coconut Tree ddydd Sul 10 Mawrth i’r teulu cyfan? Yn ogystal â mwynhau pryd o fwyd blasus gyda’ch gilydd, caiff y mamau fwyta am ddim!

Dwedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Rashinthe Rodrigo, “Rydyn ni yn The Coconut Tree yn meddwl bod teuluoedd yn bwysig dros ben, a bod mamau – a phawb sy’n caru ac yn gofalu am eraill bob dydd – yn arwyr drwy’r amser! Rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth i ddweud diolch iddyn nhw i gyd.” Archebwch ar-lein yma.

Canolfan Red Dragon

P’un a ydych chi’n dathlu Mam, yn cofio Mam neu eisiau sbwylio rhywun sy’n union fel Mam i chi… does unman yn well i roi gwên ar ei hwyneb na diwrnod llawn hwyl yng Nghanolfan Red Dragon.

Mae gennym y cyfan sydd ei angen arnoch am y diwrnod perffaith i’r teulu, p’un a ydych chi’n hoff o antur, gwylio ffilmiau neu’n hoff o fwyd, ac mae’r cyfan o dan un to enfawr. HEFYD peidiwch â cholli cynigion gwych i Mam yn unig – gan gynnwys diod am ddim yn Hollywood Bowl. Cymerwch olwg ar yr holl gynigion yma.

The Ivy

Dathlwch Sul y Mamau drwy’r wythnos gyda phrofiad bwyta bythgofiadwy yn The Ivy. P’un a ydych chi’n sbwylio mam, mam-gu, neu’n dathlu person arbennig yn eich bywyd, mae bwyta ymhlith awyrgylch swynol ein bwytai yn ffordd berffaith o ddangos eich gwerthfawrogiad.

Dewiswch o’r fwydlen brecwast wych o £19.50 y pen neu’r fwydlen dydd am £27.50 neu £32.50 am dri. Beth am roi cynnig ar ddetholiad o goctêls hefyd sydd wedi’u creu mewn cydweithrediad â St-Germain. Archebwch ar-lein yma.

The Thomas Restaurant yn Future Inns

 

Ddydd Sadwrn 9 Mawrth 2024, rhwng 1pm a 5pm, fyddwn yn gweini Te Prynhawn Blas Cymru. Mwynhewch frechdanau bys cain, sgonau cartref, cacennau a danteithion melys, te neu goffi diderfyn yn ogystal â gwydraid o Prosecco. £22.50 y pen, £9.50 ar gyfer plant dan 12 oed ac mae plant dan 2 oed am ddim. Neu, mwynhewch Prosecco diddiwedd am £29 y pen am hyd at ddwy awr.

Ddydd Sul 10 Mawrth 2024, rhwng 12pm-5pm, rydym yn gweini cinio rhost 3 chwrs traddodiadol. Gyda dewis o gigoedd blasus (ynghyd ag opsiynau llysieuol a figan), tatws rhost crimp euraidd, llysiau tymhorol, pwdin Swydd Efrog cartref a grefi go iawn. Hefyd, ceir cwrs cyntaf a phwdinau cyffrous. £26.95 y pen, £13.50 ar gyfer plant dan 12 oed ac mae plant dan 5 oed am ddim. Archebwch eich bwrdd ar-lein yma.

Las Iguanas

I ddathlu mamau, mae Las Iguanas yn falch iawn o gynnig potel am ddim o ffis pinc hyfryd i’r holl famau sy’n bwyta gyda ni Sul y Mamau! Peidiwch â cholli’r cyfle arbennig hwn – archebwch fwrdd am 4 neu fwy heddiw.

Gwnewch Sul y Mamau hwn yn wirioneddol gofiadwy drwy ei thrin i brofiad bwyd unigryw wedi’i ysbrydoli gan flasau bywiog America Ladin! Mwynhewch wledd o brydau blasus, o amrywiaeth o tapas i brif gyrsiau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd. Mae gennym rywbeth at ddant pawb. Archebwch ar-lein yma.

ANRHEGION A PHROFIADAU

Anrhegion Cymreig a Danteithion Bwyd – Caru Bwyd Cymru

Ydych chi’n chwilio am yr anrheg berffaith ar gyfer Sul y Mamau? Beth am sbwylio eich Mam i un o deithiau cerdded Loving Welsh Food yng Nghaerdydd? Y ffordd fwyaf blasus o ddarganfod neu ail-ymweld â phrifddinas Cymru.

Ymunwch â grŵp o bobl eraill sy’n dwlu ar fwyd am daith llawn danteithion blasus o amgylch y ddinas neu archebwch daith breifat unigryw! Mae talebau ar gael hefyd. Archebwch ar-lein yma.

Distyllfa Castell Hensol

Yr anrheg berffaith i unrhyw fam sy’n hoff o jin. Nid yw’n rhy hwyr i ddangos eich gwerthfawrogiad. Beth am ei sbwylio gydag anrheg na fydd hi’n ei anghofio gyda Phrofiadau Jin Castell Hensol a jin Cymreig arobryn?

Prynwch eich rhodd heddiw i roi anrheg Sul y Mamau i’ch mam y mae’n ei haeddu. Cymerwch olwg ar y wefan yma.


Dyma gipolwg bach ar y llu o fwytai a phrofiadau anhygoel sydd gan Gaerdydd i’w cynnig. Ewch i’n tudalennau Gweld a Gwneud ac Yfed a Bwyta i weld mwy.

I gael gwybodaeth am deithio i Gaerdydd, a sut i deithio o gwmpas y ddinas pan fyddwch chi yma, edrychwch ar ein hadran Gwybodaeth i Ymwelwyr.

Mae’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r blog hwn yn rhan o Rwydwaith Croeso Caerdydd. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am beth allwch chi ei weld a’i wneud, ei fwyta a’i yfed a ble i aros.