Neidio i'r prif gynnwys

Cerddoriaeth Fyw i ddarparu Trac Sain y Ddinas y penwythnos hwn

Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024


 

Dychmygwch glywed trac sain cerddoriaeth ar draws y ddinas. Dinas lle mae sŵn hip-hop a drwm a bas yn rymblan dros waliau castell 2,000 o flynyddoedd oed, lle mae jazz sipsiwn i’w glywed o falconi arcedau Fictoraidd, a siopwyr yn cael eu serenadu gan bedwarawdau llinynnol a cherddoriaeth werin hamddenol Americanaidd. Caerdydd yw’r ddinas honno, y penwythnos hwn.

Bydd artistiaid lleol gan gynnwys Rona Mac, Pigeon Wigs, Keys Collective, Kitty, Junior Bill a Siglo Section i gyd yn perfformio ar lwyfannau dros dro ledled canol y ddinas, ynghyd â bandiau pres, perfformwyr gwerin a chlasurol Cymraeg, fel rhan o ddigwyddiad ‘Trac Sain y Ddinas’ a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir o hanner dydd i 4pm ddydd Sadwrn, 23 Mawrth a dydd Sul, 24 Mawrth, yn rhan o waith datblygu strategaeth gerdd Caerdydd.

Trac Sain y Ddinas yw’r digwyddiad cerddorol cyntaf o lawer sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, y mae pob un ohonynt wedi’u cynllunio i arddangos rhai o’r cerddorion dawnus sy’n byw yng Nghaerdydd, ac yn rhoi cerddoriaeth wrth wraidd datblygiad Caerdydd.

Cynhelir perfformiadau yng Nghastell Caerdydd, Ffordd Churchill, Arcêd y Castell, Marchnad Caerdydd (mynedfa Heol Eglwys Fair), Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog a’r Ais/Lôn y Barri.

 

Dydd Sadwrn, 23 Mawrth:

Castell Caerdydd

12pm – Keyz Collective – Perfformwyr drwm a bas newydd, llawn hwyl o Gaerdydd sy’n defnyddio offeryniaeth fyw, lleisiau llyfn a digonedd o egni.

1pm a 3pm – Eden Roots Afro Reggae – mae Eden Roots yn cyfuno arddulliau cerddoriaeth Affricanaidd o gartref brodorol yr arweinydd, Alex, yn Sierra Leone a reggae dyrchafol hamddenol, ac yn gymysgedd llawen ac amrywiol sy’n perfformio caneuon poblogaidd a chaneuon gwreiddiol.

2pm – Mirari – cerddor amlddisgyblaethol a rapiwr gyda band byw llawn sy’n taro “cydbwysedd rhwng neges ac alaw” ac yn cymysgu grime, hip-hop a cherddoriaeth rhythm a bas gydag arddulliau eraill.

 

Ffordd Churchill

12.30pm – Jump.sturdy – cerddoriaeth hip-hop fywiog, wedi ei thrwytho â ffync pres, sy’n cynnwys golwg ffres ar glasuron y 90au a’r 00au.

1.30pm – Kitty – mae Kitty, sy’n wreiddiol o Ffrainc ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn artist hyper-pop wedi’i dylanwadu gan Lady Gaga a Charli XCX sydd wedi ennill clod rhyngwladol ac mae ei cherddoriaeth wedi’i darlledu’n rhyngwladol.

2.30pm – The St Mellonians – mae The St Mellonians, sydd wedi curo pob cystadleuaeth chwyrn, wedi dod yn driawd acwstig, comedi calypso a bysgio ska blaenllaw Caerdydd.

 

Balconi Arcêd y Castell

12pm a 2pm – Xenia Porteous – Mae Xenia, chwaraewr ffidl Hot Club Gallois, yn dod â’i harddull ffidl Jazz Sipsiwn i Arcêd y Castell.

1pm a 3pm – Omega 2 – mae llais gwych Jane Williams a gitâr arbennig y gitarydd chwedlonol, Pete Mathison, yn cyfuno â repertoire wedi’i ddewis yn dda o fersiynau poblogaidd gwych.

 

Mynedfa Marchnad Caerdydd (Heol Eglwys Fair)

12.30pm a 1.30pm The Box Band – triawd sy’n cynnwys bas, gitâr a ffidl, yn perfformio alawon gwerin a gweithiau gwreiddiol bywiog.

1.30pm – The St Mellonians – mae The St Mellonians, sydd wedi curo pob cystadleuaeth chwyrn, wedi dod yn driawd acwstig, comedi calypso a bysgio ska blaenllaw Caerdydd.

 

Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog

12pm, 2pm a 3.30pm – Band Pres Melingriffith – band pres o Dde Cymru o safon byd eang sydd â 5 band anhygoel a thros 100 o aelodau, gan ddangos bod y byd o fandiau pres traddodiadol a ddechreuodd mewn cymunedau glofaol yn dal i ffynnu. Yn cynnwys y band M2 sydd wedi cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol.

 

Yr Ais/Lôn y Barri

12.30pm a 2.30pm – Bowen – deuawd sy’n chwarae caneuon gwreiddiol gwerin yn Gymraeg a Saesneg.

1.30pm a 3.30pm – Pedwarawd Llinynnol Aderyn – Pedwarawd llinynnol clasurol eithriadol sy’n chwarae darnau clasurol a phop.

 

Dydd Sul, 24 Mawrth:

Castell Caerdydd

12pm a 2pm – Junior Bill – bydd y grŵp yn ffarwelio â’r ‘Wolves of Grangetown’ gwreiddiol wrth i’r rogiaid, sydd wedi’u dylanwadu gan ska, fynd trwy’u pethau a pherfformio’u set ddigyffelyb o ganeuon am dyfu i fyny yn y ddinas, am y tro olaf ond un yng Nghaerdydd.

1pm a 3pm – Pigeon Wigs – Roc a rôl arddull swnllyd a gormodol o’r 70au sy’n dwyn i gof Mott the Hoople a roc ‘glam’ ond sydd hefyd â naws gyfoes. Peidiwch â herio’r cerddorion hyn. Maen nhw’n gwbl unigryw.

 

Ffordd Churchill

12.30pm a 2.30pm – Mantis – Mae brand dwyieithog Mantis o “cowboy psychedelia” yn cymysgu melodïau indie a psych cyfredol ac alawon cryf gydag arddull atseinio ar y gitâr, yn debyg i’r Shadows/Morricone.

1.30pm a 3.30pm – The Siglo 6 – Dan arweiniad Loz Collier (Afrocluster) mae’r chwechawd gwych hwn yn cynnig fersiynau newydd a gwreiddiol o jazz clasurol a ffync.

 

Balconi Arcêd y Castell

12pm a 2pm – Omega 2 – mae llais gwych Jane Williams a gitâr arbennig y gitarydd chwedlonol, Pete Mathison, yn cyfuno â repertoire wedi’i ddewis yn dda o fersiynau poblogaidd gwych.

1pm a 3pm – Xenia Porteous – Mae Xenia, chwaraewr ffidl Hot Club Gallois, yn dod â’i harddull ffidl Jazz Sipsiwn i Arcêd y Castell.

 

Mynedfa Marchnad Caerdydd (Heol Eglwys Fair)

12.30pm a 2.30pm – Taff Rapids Stringband – mae cerddoriaeth wreiddiol swynol wedi’i chyfuno â cherddoriaeth Bluegrass boblogaidd a chlasuron gwerin Cymraeg wrth i Taff Rapids gyfuno sŵn yr Appalachiaid gyda cherddoriaeth o Gymru.

1.30pm a 3.30pm – The Box Band – triawd sy’n cynnwys bas, gitâr a ffidl, yn perfformio alawon gwerin a gweithiau gwreiddiol bywiog.

 

Gorsaf Drenau Caerdydd/Sgwâr Canolog

12pm a 2pm – Band Pres Melingriffith – band pres o Dde Cymru o safon byd eang sydd â 5 band anhygoel a thros 100 o aelodau, gan ddangos bod y byd o fandiau pres traddodiadol a ddechreuodd mewn cymunedau glofaol yn dal i ffynnu. Yn cynnwys y band M2 sydd wedi cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol.

1pm a 3pm – Wonderbrass – Mae offerynwyr pres cymunedol chwedlonol Caerdydd yn chwarae jazz, ska, hi-life a phop mewn ffordd gwbl unigryw.

 

Yr Ais/Lôn y Barri

12.30pm a 1.30pm – Rona Mac – Mae Rona wedi dod â’i cherddoriaeth werin indie lo-fi llawn awyrgylch, Americanaidd, o garafán yng Nghymru i donnau awyr Radio 1, 6 Music a thu hwnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi cydweithio â Minas a Dan Betteridge.

1.30pm a 3.30pm – Gitân – Mae Stacey a Rajesh, yn cyfuno cerddoriaeth Indiaidd a cherddoriaeth werin o Gymru, ynghyd â delyn a’r harmoniwm, canu caneuon Cymraeg a synau’r isgyfandir mewn cyfuniad bythgofiadwy ac unigryw gan ddau berfformiwr sy’n feistri ar eu crefft.

 

 

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.