Neidio i'r prif gynnwys

BWYTY STÊC POBLOGAIDD CAERDYDD WEDI EI ENWI’N UN O'R 50 GORAU’N Y BYD

Mae Pasture Caerdydd – un o’r bwytai mwyaf poblogaidd yn y brifddinas – wedi ei gosod yn rhif 48 allan o’r 101 Bwyty Stêc Gorau’n y Byd 2024.

Mae Bwytai Pasture yn ddathliad o goginio â thân a chynhwysion lleol anhygoel, ynghyd â gwasanaeth slic, deniadol. Mae gan fwyty Caerdydd gegin agored brysur sy’n arddangos griliau siarcol a choginio byw â thân, a chypyrddau sychu cig sy’n arddangos toriadau cyfan o gig eidion. Mae’r cig eidion yn cael ei ddewis o ffermydd yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, y cwbl wedi eu magu ar borfa.

Bellach yn ei bumed flwyddyn, cyflwynir y 101 o Fwytai Stêc Gorau’n y Byd gan Upper Cut Media House yn Llundain ar ôl ei gychwyn gyntaf gan Ekkehard Knobelspies yn 2019. Gyda phencadlys yn Llundain a chynrychiolwyr ym Munich, Fiena, Zurich, Dubai ac Efrog Newydd, maent wedi ymgymryd â’r dasg o lunio’r rhestr o’r 101 bwyty stêc gorau; ymwelir â rhwng 700 a 800 o fwytai a’u gwerthuso bob blwyddyn, ac o’r rhain mae’r bwytai gorau yn cael eu dewis ar gyfer y safleoedd o fri.

Sam Elliott yw’r Cogydd-berchennog 36 oed sydd yn gyfrifol am bortffolio cynyddol bwytai Pasture; mae ganddo ddau fwyty ym Mryste (y cyntaf, Pasture, a agorwyd yn 2018, ac agorodd Radius y llynedd); dau fwyty yng Nghaerdydd (ail Pasture, a agorodd yn 2020, a Parallel a agorodd yn gynharach eleni). Yr wythnos nesaf bydd Sam yn agor Pasture Birmingham, yna ddiwedd 2024 bydd yn agor Prime by Pasture; sef cigydd, deli, ysgol goginio a siop gwerthu byrgers yn Redcliffe Quarter, Bryste.

Dwedodd Sam, “Mae darganfod ein bod bellach yn safle 48 yn y byd am ein bwyty yng Nghaerdydd – ar ôl dringo 22 safle oddi ar y llynedd – yn hollol anhygoel. Rwy’n hynod falch o’r tîm Pasture cyfan a’u holl waith caled.”

Daw’r safle yn 50 uchaf y 101 Bwytai Stêc Gorau’r Byd yn dynn ar sawdl y Pasture Restaurant Group yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cynaliadwyedd yn y Gwobrau Bwytai Cenedlaethol yn Llundain.

Wedi’i lansio yn 2007, mae’r gwobrau’n dathlu disgleirdeb a bywiogrwydd sîn bwyta allan yn y DU, ac yn gwobrwyo’r cogyddion, y staff blaen tŷ a’r bwytai gorau sydd gan wledydd Prydain i’w cynnig.

Fis Rhagfyr 2023, cydnabuwyd y Pasture Restaurant Group am y tro cyntaf am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd, gan ennill sgôr 3* am ‘Bwyd a Wnaed yn Dda’ gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy (SRA), a sgorio’n eithriadol o uchel ym mhob un o’r tri chategori a aseswyd gan yr SRA am ei sgôr ‘Bwyd a Wnaed yn Dda’ – sef yr amgylchedd, cyrchu a chymdeithas.

Priodolwyd y sgôr uchel i ‘gamau helaeth’ y grŵp i fynd i’r afael â gwastraff bwyd (gan gynnwys compostio’r holl wastraff bwyd anfwytadwy mewn treuliwr anaerobig ar y safle), ac ymrwymiad Pasture i ddefnyddio cyflenwyr lleol sy’n cael eu dewis yn ofalus ar gyfer eu hymarfer amgylcheddol cynaliadwy eu hunain.

Yn ogystal, mae Pasture yn cadw ei fferm ei hun, Buttercliffe Farm sydd ond 2.2 milltir o fwyty Bryste, gan arfer dulliau dim palu, permaddiwylliant a dulliau organig, gan dyfu amrywiaeth eang o lysiau, ffrwythau, perlysiau a blodau ar gyfer y bwytai; mae’r fferm hefyd yn tyfu perlysiau micro, gan ganiatáu i Pasture addurno eu prydau yn greadigol heb ddibynnu ar gynnyrch wedi’i fewnforio mewn pecynnu plastig.

Bydd Pasture yn darganfod a fyddant yn mynd â’r Wobr Cynaliadwyedd nodedig adref pan fydd y Gwobrau Bwytai Cenedlaethol yn cael eu cynnal yn Llundain Ddydd Llun 10 Mehefin.