Neidio i'r prif gynnwys

Atyniadau Caerdydd yn cael eu henwi yn y 10% o 'bethau gorau i'w gwneud' ledled y byd

Yn ystod gwyliau’r haf, mae llawer o bobl yn pacio’u cesys ac yn mynd i ymweld ag atyniadau twristaidd ledled Ewrop a thu hwnt, ond pan mae pedwar o’r ‘pethau gorau i’w gwneud yn y byd’ yn 2024 yn llawer agosach at adref, beth am ymweld â Chaerdydd yn lle hynny?

Ar sail adolygiadau a sgoriau ar Tripadvisor dros y 12 mis diwethaf, mae Gwobrau Travelers’ Choice yn cydnabod yr atyniadau yn y 10% o bethau gorau i’w gwneud ledled y byd. Eleni maen nhw wedi cael eu rhoi i Barc Bute, Castell Caerdydd, Marchnad Caerdydd a Chanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Calon wedd Caerdydd yw Parc Bute, sydd o fewn pellter cerdded byr i brif strydoedd a chanolfan ddinesig y ddinas. Gyda chasgliad coed o bwysigrwydd cenedlaethol, ei ‘Wal Anifeiliaid’ enwog, ei nodweddion chwarae naturiol, canolfan ymwelwyr, tri chaffi, arddangosfeydd blodau hardd a hyd yn oed tennis bwrdd i’w fwynhau, mae’n lle gwych ar gyfer cerdded, picnic neu ddianc rhag bwrlwm y ddinas.

Mae’r parc yn edrych dros Gastell Caerdydd, gyda’i 2,000 o flynyddoedd o hanes yn ymestyn yn ôl i oes y Rhufeiniaid, ond rhaid ymweld â’r Castell i wir werthfawrogi mawredd yr ystafelloedd godidog a gynlluniwyd gan Burges, a hanes cyfnod y rhyfel sy’n cuddio yn y twneli sy’n rhedeg o fewn ei waliau.

Os yw’r holl grwydro wedi eich gwneud chi’n llwglyd yna cofiwch alw ym Marchnad Caerdydd, sy’n adeilad Rhestredig Gradd II. Rydych chi’n siŵr o gael croeso cynnes, yn ogystal ag ystod eang o gynnyrch ffres blasus, stondinau bwyd stryd yn gwerthu popeth o fyns bao i bhajis, pizza i pierogi, yn ogystal â hoff gacennau cri pawb. Gydag amrywiaeth eclectig o fasnachwyr annibynnol, yn stocio dillad clasurol, recordiau, gemwaith a mwy, dyma’r lle perffaith i wneud bach o siopa.

Ym mhen arall y sbectrwm adrenalin, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yw’r lle i fynd os ydych chi’n chwilio am antur. Gall anturwyr profiadol a dibrofiad fwynhau gwefr rafftio dŵr gwyn, reidio ton syrffio dan do a rhoi cynnig ar gychod ci poeth neu diwbio. Am brofiad mwy tawel mae’r ganolfan hefyd yn cynnig sesiynau Padlfyrddio, ac yn ôl ar dir sych mae cyfle i archwilio’r Antur Awyr neu fentro ar y wal ddringo.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   “Mae’n debyg bod ymwelwyr â Pharc Bute, Castell Caerdydd, y Farchnad a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn chwilio am bethau eithaf gwahanol o ddiwrnod allan, ond un peth y mae pawb ei eisiau yw profiad gwych i ymwelwyr.

“Mae gwobrau Travelers’ Choice Tripadvisor yn seiliedig ar adolygiadau a sgoriau cwsmeriaid sy’n gyson dda, felly gall ymwelwyr fod yn sicr mai dyna’n union y byddant yn ei gael drwy ymweld â’r hyfryd Barc Bute, y mawreddog Gastell Caerdydd, ein Marchnad Ganolog swynol, neu gyffro Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.”