Neidio i'r prif gynnwys

Mae Parc Hwyl i’r Teulu Bae Caerdydd yn dychwelyd i’r Glannau yr haf hwn

Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024


 

Mae ‘na hwyl fawr i’r teulu cyfan ym Mae Caerdydd yr haf hwn…

Mae Parc Hwyl i’r Teulu Bae Caerdydd yn dychwelyd o ddydd sadwrn 20 Gorffennaf tan ddydd Llun 26 Awst, yn barod i ddiddanu plant o bob oed dros wyliau’r haf cyfan!

Bydd cyfres gyffrous o atyniadau ffair ac adloniant i’r teulu yn llenwi Roald Dahl Plass yng nghanol Bae Caerdydd – rhwng Cei’r Fôr-Forwyn a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd y rheiny sy’n hoffi gwefr yn dod o hyd i’w ffefrynnau i gyd, fel y Ceir Taro, Tŷ Hwyl, Y Trên Gwyllt, Cerddwyr Dŵr, a’r Storm Fôr, tra gall plant iau fwynhau rhai ychydig yn arafach. Gall y teulu cyfan roi cynnig ar y stondinau niferus gyda chyfle i ennill teganau meddal enfawr.

Pan mae’n amser am saib, eisteddwch ar gyfer y rhaglen lawn o adloniant i’r teulu. Gallwch ddisgwyl sioeau hud cyffrous, canu gyda thywysoges, cyfarfod cymeriadau, a mwy.

Os oes angen lluniaeth arnoch, yn barod am fwy o hwyl, cofiwch roi cynnig ar y dewis o ddanteithion tecawê melys a sawrus sydd ar gael.

ATYNIADAU’R FFAIR:

  • Ceir Taro
  • Storm Fôr
  • Carwsél
  • Ceddwyr Dŵr
  • Y Trên Gwyllt
  • Tŷ Hwyl
  • Trampolinau bynji
  • Taith Balŵn
  • Reidiau i’r plant
  • Stondinau Gemau i’r Teulu

BWYD Y PARC HWYL:

  • Byrgyrs, Cŵn Poeth a Sglodion Llwythog
  • Toesenni, Toes Cwci a Hufen Iâ
  • Crepes
  • Conau Eira

I ddarganfod mwy am yr hyn sydd ymlaen ym Mae Caerdydd yr haf hwn: Cardiff Bay • Why is it worth a visit? • Visit Cardiff

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad Parc Hwyl i’r Teulu: Cardiff Bay Family Fun Park @ Roald Dahl Plass, Cardiff Bay | Jul – Aug 2024 • Visit Cardiff

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.