Neidio i'r prif gynnwys

Mae 'Pasbort Gwin Caerdydd' yn ôl gyda Rhifyn Haf 2024

Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf 2024


 

PUM LLEOLIAD NEWYDD – MWY O AMRYWIAETH – HYD YN OED MWY O WIN

Mae Pasbort Gwin Caerdydd yn ôl ar gyfer rhifyn haf newydd yn 2024 – a’r tro hwn gallwch chi yfed mewn lleoliadau y tu allan i ganol y ddinas, blasu hyd yn oed mwy o winoedd – a hyd yn oed casgliad o goctels gwin a grëwyd yn arbennig ar gyfer deiliaid Pasbort Gwin Caerdydd.

Lansiwyd Pasbort Gwin Caerdydd am y tro cyntaf ym mis Awst 2022; mae’r cynllun yn caniatáu i chwilwyr gwin eofn brynu ‘pasbort’ ffisegol y gellir ei ddefnyddio i hawlio chwe gwydraid o win a ddewiswyd yn arbennig mewn chwe lleoliad o’u dewis, gan ennill stampiau yn eu pasbort ar hyd y ffordd.

Cost ‘Rhifyn Haf’ 2024 Pasbort Gwin Caerdydd fydd £27, ac mae bellach yn cynnwys pum lleoliad newydd y tu allan i ganol y ddinas – sy’n golygu bod cyfanswm o 15 lleoliad i ddewis o’u plith, a hyd yn oed mwy o amrywiaeth o ran y gwinoedd a’r coctels gwin sydd ar gael. Fel yn flaenorol, mae’r pasbort hefyd yn cynnig dewis o ddau ‘bariad’ ym mhob lleoliad; am gost ychwanegol, gall deiliaid pasbort ychwanegu plât bach o fwyd sydd wedi’i ddewis i gyd-fynd â’u gwydraid o win neu goctel yn berffaith.

Mae Pasbort Gwin Caerdydd wedi dod yn nodwedd y mae disgwyl mawr amdani yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd. Gyda nifer cyfyngedig o 1,000 o basbortau, disgwylir i Rifyn Haf 2024 werthu’n gyflym pan fydd tocynnau’n mynd ar werth ddydd Gwener 2 Awst. Bydd yn ddilys o 4 Awst am wyth wythnos (o ddydd Sul i ddydd Iau), gyda’r lleoliadau annibynnol canlynol yn cymryd rhan:

  • Bar 44: Bar tapas bywiog yng nghanol y ddinas; bydd Bar 44 yn cynnig coctel sieri Rebujito adfywiol neu wydraid o Tempranillo fel rhan o’r pasbort, gyda’r opsiwn i’w paru â chwpl o’u platiau bach clasurol a thymhorol.
  • Vermut: Mae’r bar twll-yn-y-wal clyd hwn yn arbenigo mewn gwerthu Sieri, Vermouth, a gwinoedd o Montilla-Moriles; maen nhw wedi cynnwys sieri canolig a vermouth coch fel rhan o’r pasbort.
  • Asador 44: Mae’r bwyty hwn yn gweini cynhwysion heb eu hail wedi’u coginio dros gril Sbaenaidd; yma gallwch chi ddewis paru gwydraid o cava â croqueta bisque corgimwch gyda meiones siarcol, neu wydraid o Tempranillo â byrbryd o surdoes a sobrasada.
  • Bar Curado: Bar deli a pintxos poblogaidd yn Heol y Porth; mae’r pasbort yn cynnig dewis o ddau win Sbaenaidd, gyda pharu awgrymedig o Calamari ffres wedi’u ffrio neu Jamon cras ar dost.
  • Nighthawks: Mae’r bar gwin hynod hwn gyferbyn â chastell Caerdydd wedi ennill cefnogaeth gwlt am ei frechdanau caws wedi’i grilio anhygoel – sydd ar gael fel pariad â gwydraid blasus o Chablis cras neu win coch Eidalaidd ffrwythau.
  • Parallel: Y bwyty platiau bach hwn yw’r chwaer leoliad i’r bythol-boblogaidd Pasture drws nesaf. Mae Parallel wedi dewis arddangos eu pryd moron enwog fel rhan o’r pasbort, gan ei baru â gwin gwyn sych, canolig o Castilla La Mancha.
  • Lab 22: Mae’r bar coctel hwn ag arddull eclectig wedi ennill gwobrau ac yn ffefryn ymhlith torfeydd hwyr y nos. Maen nhw wedi creu dau goctel gwin unigryw ar gyfer y pasbort, gan gynnwys Kiss From A Rosé sy’n cynnwys rosé Zinfandel, mafon ffres, lemwn, ac Aquavit gan ddistyllwyr Cymreig lleol, Distyllfa Silver Circle.
  • The Dead Canary: Bydd y clwb yfed cudd hwn ar Lôn y Barics yn cynnig dau goctel gwin fel rhan o Basbort Gwin Caerdydd; y Summerhouse Bay byr a sbeislyd, neu’r Red Berry Bay â blas ceirios melys ac almon.
  • Bacareto: Bar caffi hamddenol ac anffurfiol, wedi’i ysbrydoli gan bàcari bach Fenis; mae Bacareto wedi dewis tynnu sylw at seidr mynydd Cymreig fel rhan o’r pasbort, gan fod iddo gymaint o debygrwydd â Gwin Naturiol. Gall selogion rhonc gwin dal i ddewis gwydraid o Frappato o’r Eidal, wedi’i baru â’u arancini bythol-boblogaidd.

Ac am y tro cyntaf eleni, bydd y lleoliadau canlynol y tu allan i ganol y ddinas yn ymuno â’r cynllun:

  • Silures: Yn y bistro cyfoes hwn yn y Rhath, gallwch baru Chardonnay o’r Ariannin â Merfog Môr Cernyw wedi’i halltu – neu flasu gwin coch Sbaenaidd suddiog gyda phryd o domatos haf, tapenade ac wy soflieir.
  • Outpost: Mae Pinot Noir Rwmania a Verdejo organig ar gael yn y man cyfarfod poblogaidd hwn ym Mhontcana; gyda’r opsiwn i’w paru â Chorizo wedi’i botsio mewn mêl a gwin coch, neu blatiad o frwyniaid Sbaenaidd gydag olew olewydd a microberlysiau.
  • Heaneys: Mae dau win o Bortiwgal ar gael ym mwyty Heaney ym Mhontcana; un wedi’i baru â gurnard wedi’i halltu ac Ajo Blanco, a’r llall â phâr o dartenni Comte a winwns aeddfed bach.
  • Uisce: Mwynhewch wydraid ar deras heulog Uisce fel rhan o basbort gwin yr haf; wedi’i baru â slab blasus o grancod ar dost gyda mayo menyn brown.
  • Bodega: Draw yng Nglan-y-Llyn, bydd y bwyty platiau bach hwn yn y datblygiad newydd Amber Vista yn caniatáu i chi ddewis o ddau win Sbaenaidd, ac yn awgrymu paru’r gwin coch â’u hasennau byr gyda chennin llosg, neu’r gwin gwyn â’u cregyn gleision mewn hufen gwin gwyn mwg.

Crëwyd Pasbort Gwin Caerdydd gan selogion gwin ac ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol Jane Cook, fel ffordd o arddangos rhai o fariau a bwytai annibynnol gorau’r ddinas – llefydd y gellir eu hanwybyddu weithiau o blaid cadwyni enw mawr.

Esboniodd “Dwi wrth fy modd gyda’r rhestr o leoliadau ar gyfer rhifyn yr haf hwn o’r pasbort – y cryfaf hyd yma; yn llawn diodydd blasus, lleoliadau anhygoel, ac awgrymiadau ysbrydoledig o bariadau. Ar ôl gwrando ar adborth gan ein cymuned o selogion gwin, rydym wedi ychwanegu lleoliadau yn y maestrefi – sy’n golygu y gall pobl fwynhau gwydraid o rywbeth arbennig yn nes at adref, yna symud i ganol y ddinas i gasglu gweddill eu stampiau.”

Ers y cynllun treialu cyntaf yn 2022, mae Pasbort Gwin Caerdydd wedi ychwanegu mwy na £40,000 at refeniw busnesau lletygarwch canol dinas Caerdydd, ac mae Rhifyn Haf 2024 unwaith eto wedi’i gefnogi gan Caerdydd AM BYTH, yr Ardal Gwella Busnes nid-er-elw (AGB).

Esboniodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH, “I ddechrau, gwnaethom ariannu creu Pasbort Gwin Caerdydd cyntaf gan ddefnyddio ein Cronfa Uchelgais y Ddinas, ac mae wedi bod yn wych gweld y cynllun yn mynd o nerth i nerth. Mae’r effaith y mae wedi’i chael wedi bod yn sylweddol iawn, ac rydym yn falch iawn o weld rhifyn yr haf yn rhoi hwb economaidd i’n busnesau lletygarwch annibynnol yng nghanol y ddinas unwaith eto.”

Gallwch gofrestru ar gyfer mynediad ar werth â blaenoriaeth a chod gostyngiad 24 awr unigryw drwy ymuno â rhestr bostio Pasbort Gwin Caerdydd yn: www.cardiffwinepassport.co.uk.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch Pasbort Gwin Caerdydd ar X, Instagram a Facebook yn @cdfwinepassport.