Beth wyt ti'n edrych am?
Grŵp Lletygarwch A&M i Lansio Bwyty Eidalaidd Newydd 'Terra Mare' yng Nghanol Dinas Caerdydd yr Hydref Hwn
Dydd Gwener 30 Awst 2024
Mae Grŵp Lletygarwch A&M – yr un grŵp creadigol sydd y tu ôl i fwyty poblogaidd Silures yn y Rhath – ar fin datgelu profiad bwyta newydd sbon yng Nghaerdydd yr hydref hwn.
Bydd Terra Mare, y term Eidaleg am ‘Tir a Môr’, yn dod â thraddodiadau coginio cyfoethog Puglia, De’r Eidal, i galon prifddinas Cymru.
Ar safle’r hen far coctel Libertine ar y Stryd Fawr, dafliad carreg o Gastell Caerdydd, bydd lle i 50 o loddestwyr dan do, gyda 25 lle ychwanegol ar y teras awyr agored – lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau awyrgylch gynnar yr hydref yng Nghaerdydd. Mae’r bwyty’n cael ei ddylunio gan yr asiantaeth annibynnol leol Studio Severn a bydd yn tynnu ar ddylanwadau Môr y Canoldir gydag elfennau moethus.
Bydd bwydlen Terra Mare yn cael ei hysbrydoli gan flasau bywiog a thechnegau traddodiadol ardal Puglia a bydd wedi’i strwythuro o amgylch y ffordd draddodiadol Eidalaidd o fwyta. Gall gwesteion dreulio amser hamddenol i ddechrau gyda cicchetti (byrbrydau bach), yna’r antipasti (blasynnau), y primi piatti (cwrs cyntaf), a’r ail piatti (prif gwrs), cyn gorffen gyda dolce (pwdinau).
Bydd y fwydlen hyblyg yn caniatáu i fwytawyr gynyddu neu leihau eu bwydlen yn ôl eu dymuniad – dewis ambell blât yn unig – neu fwynhau’r saith cwrs llawn.
Un o uchafbwyntiau’r fwydlen fydd y pasta ffres, elfen hollbwysig o’r ‘primi piatti’ yn Terra Mare. Bob dydd, bydd dau fath o pasta yn cael eu crefftio’n fewnol o dan arweiniad arbenigol y Cogydd Francesco Germinario, y mae ei wreiddiau teuluol yn Puglia. Gyda thaith goginio a ddechreuodd yng nghegin ei fam-gu (lle dysgodd berffeithio ei focaccia nodedig) ac a barhaodd trwy geginau seren Michelin yn Llundain, bydd y cogydd Franco yn dod â dilysrwydd ac arloesedd i gegin y bwyty.
Yn ogystal â’r bwyd, bydd Terra Mare yn cynnwys dewis helaeth o ddiodydd; bydd y rhestr win yn cynnwys amrywiaeth o winoedd Eidalaidd, ynghyd â Champagne a Prosecco fesul gwydr, a bwydlen coctel bwrpasol wedi’i churadu i gyfoethogi’r profiad bwyta.
“Rydyn ni wrth ein bodd yn dod ag ysbryd Puglia i Gaerdydd,” meddai Daf Andrews, Cyd-sylfaenydd Grŵp Lletygarwch A&M. “Bydd Terra Mare yn ddathliad o’r ffordd Eidalaidd o fyw—yn cymryd amser i fwynhau pob eiliad, pob tamaid, a phob llymaid. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein gwesteion i rannu’r profiad hwn yn yr hydref.”
Bydd Terra Mare yn agor ei ddrysau yn gynnar yn yr hydref.